Wrecsam: Etholwyr yn gorfod talu i dderbyn taflenni AS

  • Cyhoeddwyd
Sarah AthertonFfynhonnell y llun, UK Parliament
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Sarah Atherton sedd Wrecsam i'r Ceidwadwyr yn Etholiad Cyffredinol 2019

Mae Aelod Seneddol wedi ymddiheuro ar ôl i rai pobl orfod talu £2.50 i dderbyn taflenni ymgyrchu oedd wedi'u hanfon heb stamp dilys.

Dywedodd dynes o Wrecsam iddi dalu i gasglu eitem o bost oedd wedi ei anfon ati, cyn darganfod mai taflen ymgyrchu gan yr AS Ceidwadol Sarah Atherton oedd y llythyr dan sylw.

Wrth gadarnhau bod yr un peth wedi digwydd i "lond llaw o bobl", dywedodd swyddfa'r AS eu bod yn ymchwilio i'r mater ac y bydd y rhai sydd ar eu colled yn cael eu had-dalu.

Wedi i'r ddynes sôn ar Facebook am ei phrofiadau, mae'r post wedi ysgogi dros 100 o ymatebion - y mwyafrif ohonynt yn feirniadol o'r AS a'r hyn sydd wedi digwydd.

'Defnyddio stampiau annilys'

"Rwyf wedi gwastraffu amser ac ymdrech, heb anghofio talu £2.50, oherwydd iddi ddefnyddio stampiau annilys," meddai'r ddynes.

"Yn ôl y Post Brenhinol mae ganddyn nhw gryn dipyn o'r rhain yn eu swyddfa ddidoli ar gyfer ardal Wrecsam hefyd.

"Wnes i ond talu gan nad oeddwn yn gallu dweud gan bwy na beth oedd yn yr amlen."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedwyd bod yr un peth wedi digwydd i "lond llaw o bobl" yn etholaeth Wrecsam

Mewn ymateb dywedodd swyddfa Ms Atherton: "Rydym wedi cael gwybod bod hyn wedi digwydd i lond llaw o bobl ac yn ymddiheuro am yr anghyfleustra a achoswyd.

"Rydym yn ymchwilio i'r hyn aeth o'i le fel nad yw'n digwydd eto."

Ychwanegodd: "Mae pobl eisiau gwneud y stori yma yn un wleidyddol, ond mewn gwirionedd mae hyn yn tynnu oddi ar y neges yr oeddwn yn ei chyfleu, sef bod angen i ni ganolbwyntio ar fynediad at ofal iechyd yn Wrecsam."