Llaneirwg: Agor cwest i farwolaethau tri pherson ifanc
- Cyhoeddwyd
Cafodd tri chwest eu hagor ddydd Gwener yn dilyn gwrthdrawiad ffordd a laddodd tri pherson yng Nghaerdydd bythefnos yn ôl.
Clywodd y tri gwrandawiad byr i Rafel Jeanne, Eve Smith a Darcy Ross gael eu canfod yn farw ar ffordd yr A48 yn Llaneirwg.
Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ar y tri ar 10 Mawrth.
Ni chafodd achos marwolaeth y tri ei grybwyll am fod yna brofion pellach i'w cynnal.
Mae Heddlu'r De a Heddlu Gwent yn wynebu ymchwiliad ar hyn o bryd i'r ffordd y gwnaethon nhw ddelio â'r achos, wedi iddi gymryd bron i 48 awr iddyn nhw gael eu canfod wedi'r gwrthdrawiad.
Wrth agor y cwest ym Mhontypridd, dywedodd y dirprwy grwner David Regan fod y tri "wedi bod yn rhan o wrthdrawiad ffordd ar yr A48 yn Llaneirwg, Caerdydd a'u bod wedi cael eu ganfod yn farw yn y fan a'r lle".
Cafodd y tri eu hadnabod gan aelodau eu teuluoedd.
Mae'r tri chwest bellach wedi eu gohirio wrth i ymchwiliadau barhau.
Ychwanegodd y crwner: "Rwyf yn estyn fy nghydymdeimladau i deuluoedd Mr Jeanne, Ms Smith a Ms Ross."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2023