Treforys: Cath yn dod i'r fei wythnos wedi ffrwydrad
- Cyhoeddwyd

Cafodd Teddy ei aduno gyda'i berchennog, Claire, ddydd Sul
Mae cath a gafodd ei ddal mewn ffrwydrad wedi ei ganfod yn fyw bron i wythnos ar ôl iddo fynd ar goll.
Bu farw Brian Davies, 68, yn y ffrwydrad nwy a ddifrododd sawl tŷ yn Nhreforys, Abertawe ddydd Llun diwethaf.
Cafodd tri arall eu hanafu, gan gynnwys perchennog y gath goll, Claire Griffiths-Bennett, a'i mab.
Tra gafodd un o gathod y teulu ei achub o'r rwbel yn fuan wedyn, roedd Teddy dal ar goll.
Ond ddydd Sul dywedodd canolfan anifeiliaid yr RSPCA, Llys Nini, fod Teddy yn fyw ac yn ddiogel.

Y gred yw fod Teddy wedi bod yn byw ymysg adfeilion y tŷ
Roedd Teddy wedi ei weld ddydd Mawrth ond roedd diffyg mynediad i'r tŷ yn golygu nad oedd posib ei ddal ar y pryd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llys Nini: "Cafodd Claire ei rhyddhau o'r ysbyty ddydd Sul ac aeth yn syth at weddillion y tŷ i weld a fyddai Tedi'n ymateb i'w chwibanu.
"Fodd bynnag, ar ôl cyrraedd, cafodd ei chyfarch â'r newyddion bod Teddy newydd gael ei ddal."
Tra'n ymddangos i fod yn ddi-anaf, bydd Teddy'n cael ei wirio gan filfeddyg.
"Roedd yna ddagrau," ychwanegodd y llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2023