Ffrwydrad Treforys: 'Clywais lais bachgen yn dweud 'plîs help''

  • Cyhoeddwyd
Donn Fernández a Donna Fontanilla
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i Donn Fernández a Donna Fontanilla chwilio am gartref newydd wedi i'r ffrwydrad achosi difrod i'w cartref

Mae dyn a achubodd fachgen o'r rwbel wedi i ffrwydrad ddinistrio sawl tŷ yn Abertawe wedi dweud fod y llanc yn "ddewr" a'i fod yntau ei hun yn lwcus i fod yn fyw.

Fe wnaeth cymdogion, gan gynnwys Donn Fernández sy'n byw drws nesaf ond un, achub Ethan Bennett o'r difrod yn ardal Treforys.

Bu farw Brian Davies, oedd yn 68 oed, yn y digwyddiad fore Llun.

"Nes i glywed bang enfawr, ac o'n i ond yn gallu gweld mwg gwyn, gyda'r awyr yn llawn malurion a gwydr," meddai Mr Fernández.

"Ro'n i'n cerdded i fyny'r grisiau pan ddigwyddodd ac es i'n syth tu allan.

"Ro'n i ond yn gallu clywed llais y bachgen yn dweud 'plîs help, helpwch fy mam plîs!'

"Heb feddwl am unrhyw beth arall, es i'n syth i weld a oedd y bachgen yn iawn."

Fe aeth Mr Fernández a rhai cymdogion eraill i geisio dod o hyd i Ethan.

"Roedd y bachgen yn ddewr iawn. Roedd e'n ei ystafell i fyny'r grisiau ar y pryd, felly fe ddes i o hyd iddo ar ben y rwbel.

"Gyda chwpl o bobl eraill, fe lwyddais i gyrraedd y bachgen a dod â fe lawr i'r stryd. Mi es i 'nôl cadair iddo fe i eistedd lawr a rhoi dŵr iddo.

"O'n i'n trial gwneud yn siŵr roedd y bachgen yn iawn a thrial cysuro fe.

"Roedd e'n poeni'n fawr am ei fam, ond ro'n i methu ateb hwnna achos doedden ni ddim yn gwybod lle roedd y fam ar y pryd. Nawr ni'n gwybod ei bod hi'n iawn."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Dau ddiwrnod ar ôl y ffrwydrad, mae Donn a'i wraig Donna Fontanilla, wedi cael dychwelyd i weld y difrod i'w cartref ar Heol Clydach.

Er nad ydyn nhw'n cael mynd i mewn, gan nad yw'n ddiogel, fe wnaeth swyddog achub eu helpu i gasglu ychydig o'u heiddo.

Mae'r ffenestri i gyd wedi'u malu, ac mae'r llawr cyntaf bron wedi'i ddifrodi'n gyfan gwbl.

'Fi'n hynod o lwcus'

Wrth gofio gweddill y diwrnod, dywedodd Mr Fernández: "Fe wnaeth y gwasanaethau brys ateb yn gyflym iawn.

"Fe ddaeth un cymydog ata i a rhoi côt i mi achos o'n i ond mewn siorts a chrys-t ar y pryd. Ni wedi colli popeth."

Dywedodd ei fod yn ffodus ei fod dan do adeg y ffrwydrad.

"Fi'n hoffi sefyll yn yr ardd tu allan i ffrynt y tŷ pryd mae'r tywydd yn braf, a digwydd bod roedd hi'n wyntog felly es i tu fewn i'r tŷ.

"Ond fi'n cadw i feddwl os y byddwn i wedi bod yn sefyll tu allan, efallai byddwn i wedi cael fy anafu neu fy lladd. Felly fi'n hynod o lwcus."

Dywedodd ei wraig: "Rwy'n dal i ddweud wrth Donn ei fod yn ddewr, ond nid yw am dderbyn.

"Dywedodd 'na, dim ond bod dynol ydw i. Nid fi sydd wedi ei achub, y bachgen sy'n ddewr iawn'."

Dim ond ers mis y mae Mr Fernández wedi bod yn y wlad, ar ôl cyrraedd o'r Ffilipinau i ymuno â'i wraig sy'n gweithio fel nyrs yn Ysbyty Treforys.

Dywedodd Ms Fontanilla: "Daethom i'r wlad hon i gael bywyd gwell, a gyda'r holl bethau trasig hyn sy'n digwydd, mae 'di bod anodd iawn."

Ers y digwyddiad, mae'r cwpl wedi bod yn byw mewn gwesty yn Abertawe.

Maen nhw wedi cael gwybod na fydd byth modd dychwelyd i'w cartref, a nawr mae'n rhaid iddyn nhw ddod o hyd i rywle newydd i fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gymuned wedi dod at ei gilydd mewn ymateb i'r ffrwydrad, medd Y Tad Jason Jones

Mae'r Tad Jason Jones o Blwyf Treforys yr Eglwys Gatholig wedi bod yn cefnogi'r teulu.

"Mae cymuned Ffilipinaidd mawr yn yr eglwys yn Nhreforys - cymuned glos iawn hefyd. Mae pawb wedi dod at ei gilydd i roi cefnogaeth a sicrhau eu bod nhw'n iawn.

"Mae pobl wedi bod yn rhoi cymorth, dillad, bwyd, a jest eisiau checio sut maen nhw'n teimlo neu oes angen prynu dillad.

"Mae'n hyfryd i weld pobl yn dod at ei gilydd i gefnogi Donn a Donna ar ôl y digwyddiad trasig. Mae'r ymateb am gymorth wedi bod yn anhygoel."

Mae'r cwpl yn dweud eu bod mewn sioc lwyr yn dilyn digwyddiadau'r dyddiau diwethaf.

Eu nod nawr yw dechrau ailadeiladu eu bywydau, a chwilio am gartref newydd.

Ffynhonnell y llun, Claire Griffiths Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ethan Bennett wedi gweld ei gath, Fern ers gadael yr ysbyty

Yn y cyfamser, mae'r RSPCA yn gofalu am un o gathod y teulu Bennett, Fern, ac yn rhoi cymorth i deuluoedd lleol eraill os yw eu hanifeiliaid anwes angen gofal neu ar goll wedi'r ffrwydrad.

Mae Fern yn cael gofal yng nghanolfan yr elusen Llys Nini ym Mhenllergaer, wedi i un o'u swyddogion ei achub o'r rwbel, ond mae cath arall, Teddy, yn dal ar goll.

Mae Ethan Bennett wedi gallu ymweld â Fern yn y ganolfan ers gadael yr ysbyty, ac mae'r gath yn debygol o barhau yno am sbel.

Mae'r Post Brenhinol wedi cadarnhau bod un o'u gweithwyr nhw ymhlith y rhai a gafodd eu hanafu o ganlyniad i'r ffrwydrad.

Dywedodd llefarydd: "Rydym yn cefnogi cydweithiwr Post Brenhinol wrth iddo wella gartref o'i anafiadau ac mae yna ryddhad na chafodd ei anafu'n waeth."

Ychwanegodd eu bod yn "meddwl am bawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad trasig yma, gan gynnwys teulu a ffrindiau'r preswylydd a fu farw".