Sut mae denu adar i'r ardd?
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r gwanwyn gyrraedd mae'n debygol y byddwch yn clywed mwy o adar yn eich gerddi wrth iddyn nhw ddychwelyd wedi'r gaeaf.
Yn ogystal â gwrando arnyn nhw mae eu gwylio yn yr ardd yn gallu bod yn hynod bleserus. Ond sut allwch chi eu denu i'ch gardd chi tybed?
Un sydd wrth ei bodd ag adar ydi Angharad Jones a fu yn rhoi Aled Hughes ar ben ffordd ar BBC Radio Cymru.
"Mae bwydo adar yr ardd yn ffordd o wylio'r ffordd maen nhw'n bihafio," meddai Angharad. "Dyna sut mae rhywun yn dysgu - wrth eu gwylio nhw, a hefyd wrth wrando arnyn nhw a meddwl 'pa gân sy'n cael ei ganu yn fanna gan ba aderyn?"
Dyma gyngor Angharad Jones ar sut allwch chi groesawu adar i'ch gardd chi.
Does dim angen gardd fawr
Yn fy ngardd i mae gen i'r bwydwyr ond hefyd dwi'n cadw darn o'r ardd yn eithaf gwyllt ac mae hynny'n denu adar a phryfed a bob mathau o bethau.
Does dim angen cael tir. Mae llefydd bach sydd yn llawn o flodau, gwrychoedd neu goed bach yn well na rhywun sydd efo aceri o dir.
Mae hyd yn oed cael planhigion mewn tybiau, neu hyd yn oed cael rhyw bwll bach mewn rhyw focs neu bowlen sinc - mae posib dod rownd y problemau concritaidd yma.
Sut mae creu bocs?
Os ydych yn teimlo fel bod gennych chi'r gallu i greu un eich hun felly grêt. Mae'r RSPB efo digonedd o gynlluniau penodol ar gyfer pa fath o focs falle fyse chi eisiau. Ond mae'n bosib eu prynu mewn canolfannau garddio neu ar-lein.
Mae 'chydig bach mwy o reolau gyda'r bocsys na sydd yna gyda bwyda adar. Mae hynny i gyd i wneud gyda pha fath o rywogaeth rydych chi eisiau ei ddenu at y bocs.
Os wyt ti'n digwydd gweld titw tomos las yn dod i'r ardd yn aml wedyn mae angen meddwl am ba fath o focs fyddai'n addas i'r rhywogaeth yna. Mae hynny i wneud gyda maint y bocs ei hun ond hefyd faint ydi maint y twll - y fynedfa ei hun - oherwydd mae aderyn fel y titw ac adar to angen tyllau eithaf bach. Dim ond rhywbeth fel 25mm, wedyn yn amlwg pan mae'r aderyn yn mynd yn fwy - fel y drudwy efallai - fase'r twll yna'n mynd rhywfaint mwy.
Ond mae yna gymaint o flychau gyda'r darnau haearn sgwâr ma yn gwarchod y twll achos be sy'n gallu digwydd ydi bod adar eraill yn gallu dod - cylch bywyd natur ydi hyn - ac mae adar eraill fel cnocell y coed yn gallu cnocio'r twll a chymryd be bynnag sydd mewn yn y nyth.
Mae'r darnau haearn ma yn gwarchod maint y twll.
Pa aderyn wyt ti'n denu?
Mewn gardd faswn i yn mynd at y bocsys llai - rhai sydd yn mynd i ddenu'r adar bach. Ond os oes gennych chi rywfaint o dir a choed mae 'na bosib cael y bocsys mawr. Mae'r rhain ar gyfer yr adar mwy fel y cudyll coch a thylluanod.
Oni'n ddigon ffodus i weld tylluan wen tu mewn i un yn y coed tu ôl i fy nhŷ. Ges i weld yr un bach yn dod allan fel oedd hi'n gwawrio. Roedd jest yn hyfryd.
Mae angen bod yn realistig o ran maint eich gardd. Falle byddai bocs mawr fel hyn ddim yn addas ar gyfer gardd yng Nghaernarfon neu Caerdydd.
Lle wyt ti'n gosod y bocs?
Mae'r rheolau ar y bocsys yna mewn lle er mwyn gwarchod yr adar ond maen nhw'n rheolau hefyd i ganiatáu i ni gael mwynhad a bod yr adar 'ma yn dod at y bocsys.
O ran lle mae'r bocs yn cael ei osod - mae uchder yn un peth. Ar gyfer yr adar llai, mae angen gosod y bocs tua tua dau i bedwar metr o'r ddaear.
Os oes gennych chi wrych mae angen gosod y bocs jest uwch ei ben fel bod 'na ddim byd, fel cathod neu wiwerod, yn gallu dringo fyny ato.
Mae gen ti flwch y robin goch, sydd yn wahanol eto - mae 'na agoriad lot mwy. Oherwydd hynny mae angen i'r uchder fod o dan dau fetr ond dy fod yn ei roi ynghanol tyfiant felly bod 'na ddim byd yn sylwi fod y robin yn nythu.
Be maen nhw'n hoffi bwyta?
Fyswn i'n dweud gwahanol fathau o hadau. Dwi'n siarad o brofiad yn fan hyn - mae'r titw tomos yn dod yn aml ond dwi hefyd wedi bod yn cael titw cynffon hir sydd mor lyfli.
Maen nhw yn dueddol o licio'r pethau rydych chi yn eu gweld mewn siopau, fel y fat balls 'ma. Mae'r adar angen yr egni - a dwi'n gwbod ein bod ni'n dweud eu bod nhw angen yr egni yn y gaeaf oherwydd mae'n oer - ond mae'r gwanwyn yn adeg eithaf pwysig hefyd achos maen nhw yn mynd i fod yn ofnadwy o brysur yn chwilio am fwyd.
Mae 'na wahanol fathau o fwydydd i rywogaethau gwahanol ond yn gyffredinol fyswn i'n sticio at yr hadau cnau.
Oes angen glanhau'r bocsys?
Faswn i yn gwneud, oherwydd mae pethau fel chwain yn gallu cael eu cario o gwmpas ac maen nhw yn mynd mewn i'r bocsys 'ma.
Fyswn i'n disgwyl tan fis Medi tan mae'r adar wedi mynd ac yn defnyddio digonedd o ddŵr berwedig i ladd unrhyw beth sydd ddim i fod yna.
Tip arall ydi rhoi nhw yn ôl allan tua'r hydref oherwydd yn y gaeaf mae adar hefyd yn clwydo ynddyn nhw ac mae'n le lyfli iddyn nhw gael cysgodi gyda'r nos i gadw'n gynnes.
Hefyd o ddiddordeb: