Pryder am greu safle gwyliau drws nesaf i hosbis Tŷ Hafan
- Cyhoeddwyd
Mae tad plentyn fu farw yn Nhŷ Hafan wedi beirniadu cynlluniau i ddatblygu safle gwyliau drws nesaf i'r hosbis plant.
Fe gollodd Lee McCabe o'r Barri ei fab, Finn, yn 2018, wedi iddo dreulio wythnosau yn Nhŷ Hafan.
Dywedodd y byddai'r cynlluniau yn "dinistrio awyrgylch a'r lle tawel yw Tŷ Hafan".
Ond mewn cyfweliad â Newyddion S4C mae perchennog y tir, Henry Danter, sydd hefyd yn berchen ar ffair enwog Ynys y Barri, yn dweud bod y gofid yn "ddi-sail".
Rhoddodd ei air hefyd y byddai'n gadael "o leiaf pum erw o goetir" rhwng yr hosbis a'r gwersyll arfaethedig.
Cysylltodd trigolion pentref Sili gyda Newyddion S4C gyda chwynion bod tir rhwng yr hosbis a'u pentref yn cael ei glirio.
Yn ogystal â'r effaith ar Dŷ Hafan, roedden nhw'n mynegi pryder hefyd am ddinistrio coed heb ganiatâd a gwaredu ar gynefin posib i fywyd gwyllt.
Cadarnhaodd Cyngor Bro Morgannwg eu bod wedi derbyn cais cynllunio ddiwedd Chwefror, ond "nad oedd dogfennaeth angenrheidiol i gyd-fynd â'r cais".
Ychwanegon nhw mewn datganiad: "Fel datblygiad mawr... mae'n rhaid yn gyntaf cwblhau ymgynghoriad cychwynnol. Dyw hynny heb ddigwydd."
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn "ymchwilio i adroddiadau bod coed yn cael eu torri yn anghyfreithlon ar dir ger Sili ym Mro Morgannwg".
Roedd Lee McCabe yn un o sylfaenwyr elusen Finn's Foundation.
Ffurfiwyd yr elusen er cof am ei fab, a gafodd ddiagnosis o diwmor prin ar yr ymennydd yn 11 oed.
Bu farw Finn yn Nhŷ Hafan flwyddyn yn ddiweddarach.
Dywedodd Mr McCabe i leoliad tawel yr hosbis i blant roi cymorth iddo ddod i delerau â cholli ei fab.
"Roedd adegau lle nad oeddwn i'n gallu siarad gydag unrhyw un," meddai.
"Roeddwn i'n gallu mynd tu fas, eistedd lawr a gadael i'r cyfan olchi drosta i.
"Roeddwn i'n gallu diflannu a llefain. Byddwn i ddim yn gweld unrhyw un am awr.
"Dwi'n credu os wyt ti'n colli llonyddwch rhywle felly, mae wedi diflannu am byth.
"Sai'n gallu dychmygu unrhyw beth gwaeth na bod yn yr adegau yna o golled ac anobaith a gorfod clywed sŵn pobl yn chwerthin, neu glwb neu beth bynnag."
Dywedodd Henry Danter wrth Newyddion S4C ei fod yn dymuno creu safle gwyliau ar y tir, sydd rhyw bedair milltir o'r Barri, i roi hwb i ddiwydiant twristiaeth y de.
"Mae pobl yn dod o bob cwr o'r byd i brofi gwefr y ffair [yn Ynys y Barri]. Rydyn ni'n cael cymaint o geisiadau dros yr haf gyda phobl yn holi ble allan nhw aros," meddai.
"Mae gyda ni wersylloedd carafanau, parciau gwyliau a chabanau pren.
"Ry'n ni angen i bobl ddod i Gymru nid am ddiwrnod yn unig, ond am wythnos neu bythefnos.
"Mae pobl am ddod yma i brofi'r hyn ry'n ni'n ei gynnig."
Mae Mr Danter yn gwadu bod coed wedi eu torri yn anghyfreithlon, gan ddweud iddo glirio tir er mwyn gallu codi ffens newydd.
Mae hefyd yn bendant na fyddai'r datblygiad yn effeithio ar yr hosbis plant gerllaw, gan ddweud: "Dyw'r tir i gyd ddim am gael ei ddefnyddio.
"Mae 20 erw yma. Bydd y cyfan ddim yn cael ei ddefnyddio.
"Byddwn ni'n defnyddio 10 erw, neu 15 ar y mwyaf, felly bydd rhwystr [rhwng y datblygiad a Thŷ Hafan].
"Mae hosbisau drwy'r wlad ac mae tai a phethau eraill o'u hamgylch.
"Ry'n ni'n rhedeg gwersylloedd eraill, a hyd y gwn i, does dim cwynion yno am sŵn. Mae'r pryderon yn ddi-sail."
Mae Tŷ Hafan wedi cyhoeddi datganiad yn dweud eu bod "heb weld y manylion eto, ac felly heb gael cyfle i ddeall yn llawn yr hyn sy'n cael ei gynnig" ar gyfer y tir ger y safle.
Ond maen nhw'n mynnu na fydden nhw fyth yn cyfaddawdu ar bwysigrwydd "preifatrwydd, diogelwch, llonyddwch a heddwch ein hosbis a'n gerddi".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2020