Yr actor Dafydd Hywel wedi marw yn 77 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r actor Dafydd Hywel wedi marw yn 77 oed.
Yn wreiddiol o'r Garnant ger Rhydaman, bu'n actio ers y 1960au mewn cynyrchiadau Cymraeg a Saesneg ar lwyfan, ffilm a theledu.
Yn yr 1980au bu'n chwarae'r cymeriad lliwgar Jac Daniels yn y gyfres opera sebon Pobol y Cwm, ac fe ymddangosodd hefyd ar y rhaglen blant Miri Mawr fel Caleb y Twrch.
Bu hefyd yn actio rhannau blaenllaw mewn cyfresi Cymraeg fel Y Pris a Pen Talar, y ffilmiau Ar Ddu a Gwyn, Rhosyn a Rhith, I Fro Breuddwydion, Yr Alcoholig Llon a Rhag Pob Brad ymysg eraill.
Roedd A Penny for Your Dreams (I Fro Breuddwydion) yn ffilm a oedd yn gyd-gynhyrchiad dwyieithog ac yn adrodd hanes arloeswr ym myd y ffilmiau - William Haggar - a Dafydd Hywel oedd yn portreadu ei gymeriad.
Yn Saesneg bu'n actio rhannau mewn rhaglenni fel The Indian Doctor, Miss Peregrine's Home for Peculiar Children, The Bill a Holby City ac yn fwy diweddar bu'n actio rhan Glen Brennig yn y gyfres ddrama gomedi Stella.
Mewn sgwrs ar raglen Beti a'i Phobol yn 2004 dywedodd mai'r rhan yr oedd wedi'i mwynhau orau oedd cymeriad Mad Dan yn Christmas Story, Richard Burton.
Yn nhrydedd gyfres The Crown, Dafydd Hywel oedd yn actio'r perchennog siop yn y bennod oedd yn adrodd hanes Aberfan.
Roedd Mr Hywel hefyd â diddordeb mawr ym myd y pantomeim.
Roedd yn brif weithredwr Cwmni Mega, sydd wedi cynhyrchu pantomeimau Cymraeg yn gyson ers 1994.
Bu'n rhan o ddramâu ar Radio Cymru hefyd, gan gynnwys Sam-Cu, Emmanuel, Neges Mewn Potel, Aidan Mellberg a Fflamau.
Cyhoeddodd ei hunangofiant Dafydd Hywel - Hunangofiant Alff Garnant yn 2013.
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd John Pierce Jones, cyd-actor ac un a fu'n lletya gydag ef am gyfnod yng Nghaerdydd: "Mae'r newyddion heddiw yn ergyd.
"Roeddwn i'n ffrindiau mawr ag o ers blynyddoedd, gan ddod ar ei draws o gynta' pan o'dd o ar gynllun hyfforddi Cwmni Theatr Cymru ym Mangor yn y 70au.
"Roedd y ddau ohonom ym Miri Mawr - fo fel Caleb a finna' fel Dan Dŵr, ac am hwyl.
"Yn aml ro'dd Caleb yn anghofio ei eiriau a do'dd dim dal beth o'dd o'n ddeud.
"Ond ro'dd Dafydd yn actor anhygoel, ro'dd o'n ffraeth ei dafod ac yn ddyn o egwyddorion mawr. Roedd o'n glynu at ei egwyddorion hyd at yr eithaf.
"Ro'dd o'n actor unigryw - yn 'neud petha' ei ffordd o heb lol. Ro'dd o'n bwrw yn syth iddi. Ro'dd o'n uchel iawn ei barch ac wedi bod yn brif gymeriad mewn cymaint o gynyrchiadau."
'Dim ond un DH'
"Mae'n siŵr y bydd pawb yn sôn am DH am ei actio fe - wnaeth e gymaint o bethe, alla'i ddim rhestru. O'dd e'n gweithio'n ddi-stop," meddai Dewi Pws wrth gofio amdano.
"A hefyd ei bantomeim e. Fuodd e'n cynnal rheiny am ddegawdau - ac ef oedd yn gwneud y cwbl. Hyd yn oed yn llwyddo i gael pobl fel Orig Williams yn y pantomeim.
"O'dd e'n ffrind annwyl iawn, os oedden ni'n cadw mas o ffordd ein gilydd!
"O'dd e'n dadlau gyda phawb, ond mae'n golled fawr. Mae e 'di gwneud cymaint dros Gymru a'r iaith Gymraeg.
"Mae e wedi gadael ei farc - dim ond un DH fydd."
Dywed Rhuanedd Richards, cyfarwyddwr BBC Cymru: "Roedd Dafydd Hywel yn actor wrth reddf ac mae ei gyfraniad aruthrol i fyd y ddrama yng Nghymru, boed hynny ar y teledu neu yn y theatr yn ddigamsyniol.
"Bydd nifer ohonom yn ei gofio fel Jac Daniels ar Pobol y Cwm, un o'r cymeriadau blaengar yn ystod blynyddoedd cynnar y gyfres.
"Yn ogystal â'r portreadau cofiadwy hynny yn y Gymraeg, bu hefyd yn diddanu cynulleidfaoedd ar draws Prydain mewn ffilmiau gan gynnwys y clasur Off to Philadelphia in the Morning gyda Sian Phillips a chyfresi poblogaidd megis Keeping Faith/Un Bore Mercher, The Indian Doctor a Holby City.
"Diolchwn heddiw am ei gyfraniad tra'n anfon ein cydymdeimlad didwyll i'w deulu a'i ffrindiau."
Ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd Cefin Campbell AS: "[Roedd e'n] ffrind annwyl ers blynyddoedd - wedi ein magu yn yr un pentref.
"Dycnwch y glo carreg yn rhedeg drwy ei wythiennau.
"[Roedd e'n] gyn-gapten llwyddiannus Clwb Rygbi'r Aman, actor penigamp, cynhyrchydd pantomeimiau cwbl gofiadwy, gwladgarwr balch ac ymgyrchydd di-ildio dros addysg Gymraeg.
"Wedi colli un o gymeriadau mawr Cymru heddiw. Coffa da amdanat Hywel aka DH/Alff Garnant - cawn beint rywbryd eto."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2014
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2020