Niferoedd sy'n aros am driniaeth wedi gostwng am y pedwerydd mis
- Cyhoeddwyd
Mae'r niferoedd sy'n aros am driniaeth gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi gostwng am y pedwerydd mis yn olynol, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.
Ond mae'r ffigyrau ar gyfer mis Ionawr yn dangos bod dros 734,000 o driniaethau yn aros i'w cwblhau - 58.4% yn fwy nag ar ddechrau'r pandemig.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos ym mis Ionawr y bu 41,000 achos lle mae rhywun wedi aros dros ddwy flynedd am driniaeth, er gwaethaf targed gan Lywodraeth Cymru i ddileu amseroedd aros o'r hyd hwn erbyn mis Mawrth.
Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu'r oedi hir, gan honni bod arosiadau o fwy na dwy flynedd wedi eu "dileu bron" yn Lloegr.
'Cynnydd yn y rhan fwyaf o feysydd'
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Er gwaethaf y pwysau cyson ar wasanaethau dros y gaeaf, mae'r darlun cyffredinol ar gyfer mis Ionawr a mis Chwefror yn un o gynnydd yn y rhan fwyaf o feysydd.
"Rwyf wedi nodi'n glir i arweinwyr y gwasanaeth iechyd fy mod yn disgwyl i'r gwelliannau hyn barhau, a hynny'n gyflymach wrth inni gyrraedd y misoedd cynhesach."
Ychwanegodd: "Mae'n gysur imi weld gwelliannau pellach mewn gofal brys, gyda'r gyfran uchaf o gleifion yn cael eu brysbennu, eu hasesu, a'u rhyddhau o adrannau argyfwng o fewn pedair awr, a'r nifer lleiaf o drosglwyddiadau ambiwlans hir ers mis Medi 2021."
Ond dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George: "Mae'r ffaith bod degau o filoedd o bobl yng Nghymru yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth yn brawf damniol o anallu'r llywodraeth Lafur i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion a staff meddygol."
Mae'r ystadegau yn dangos gwelliannau mewn amseroedd aros am ofal brys.
Ym mis Chwefror fe ymatebodd y gwasanaeth ambiwlans i 50.9% o alwadau coch - y rhai lle mae bywyd mewn perygl - o fewn wyth munud.
Mae hyn yn welliant o'i gymharu â ffigwr 48.9% mis Ionawr ac yn sylweddol uwch na'r lefel isaf erioed ym mis Rhagfyr, sef 39.5%.
Ond mae perfformiad yn dal yn llawer is na'r targed, sef 65%.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos ym mis Chwefror fod 71.6% o gleifion wedi treulio llai na phedair awr mewn adrannau brys, sy'n welliant ar y ffigwr 69.9% ar gyfer Ionawr.
Bu gostyngiad hefyd yn y niferoedd sy'n treulio dros 12 awr yn aros.
Ym mis Chwefror roedd 8,036 o gleifion wedi aros 12 awr neu fwy.
Roedd hyn 961 (10.7%) yn llai nag yn y mis blaenorol, a'r gorau ers mis Gorffennaf 2021.
Ond mae'r targedau'n nodi na ddylai unrhyw un fod yn aros mor hir â hynny.
Fodd bynnag, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos dirywiad parhaus mewn perfformiad amseroedd aros ar gyfer gofal canser.
Ym mis Ionawr, dechreuodd 50.1% (881 allan o 1,760) o achosion eu triniaeth o fewn 62 diwrnod i gael eu hamau o ganser am y tro cyntaf.
Roedd hyn 2.8% yn is na'r mis blaenorol, 3.6 % yn is nag Ionawr 2022, a'r isaf ar gofnod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022