Betsi: Gweinidog iechyd yn goroesi pleidlais o ddiffyg hyder

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod record Eluned Morgan dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn "ddamniol"

Mae cynnig y Ceidwadwyr Cymreig o ddiffyg hyder yng ngweinidog iechyd Cymru wedi methu.

Roedden nhw'n cyhuddo Eluned Morgan o geisio osgoi cyfrifoldeb am fethiannau ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.

Pleidleisiodd 26 o blaid y cynnig, ond 29 yn erbyn.

Cafodd mesurau arbennig eu gosod ar fwrdd GIG gogledd Cymru am yr eildro fis diwethaf, yn dilyn adroddiad archwilio damniol.

'Rhywbeth i'w gynnig'

Dywedodd Eluned Morgan wrth y Senedd y bu'n cwestiynu a all hi wneud "y swydd ddiddiolch hon".

"Ond bob dydd dwi'n sylweddoli bod gen i rywbeth i'w gynnig," meddai wrth ASau. "Sef fy mod yn gofalu. Rwyf am ddarparu'r gwasanaeth iechyd a gofal gorau posibl i bobl Cymru.

"'Dw i eisiau i GIG Cymru lwyddo."

Dywedodd y byddai'n aros yn weinidog cyn belled â bod ganddi hyder Mark Drakeford.

Daeth y ddadl i ben heb unrhyw gyfraniadau gan unrhyw aelod o'r Senedd Llafur dros ogledd Cymru.

Tra bo'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi cefnogi'r cynnig o ddiffyg hyder, fe bleidleisiodd aelodau Llafur y Senedd i gefnogi Ms Morgan.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru ei fod yn "ymosodiad gwleidyddol" gan y Torïaid.

'Wedi torri'

Yn y cyfamser, mae cyn-bennaeth iechyd wedi dweud bod cleifion yng Nghymru mewn perygl o gael gwasanaeth "y gellir dadlau ei fod wedi torri".

Mark Polin oedd cadeirydd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr nes iddo ef ac aelodau eraill y bwrdd gael eu gorfodi i ymddiswyddo.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Polin yn gyn-brif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru

Yn ei sylwadau cyntaf ers iddo adael, cyhuddodd Ms Morgan o beidio â chymryd unrhyw gyfrifoldeb am wella gofal iechyd.

Honnodd Mr Polin fod pryderon y bwrdd wedi cael eu hanwybyddu gan y llywodraeth.

Galwodd am ymchwiliad cyhoeddus, a honnodd hefyd fod aelodau'r bwrdd, mewn un achos, wedi eu camarwain yn "fwriadol".

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwrthod gwneud sylw.

Yn ei ddatganiad dywedodd Mr Polin ei fod am gywiro honiad ei fod wedi cael ei orfodi i ymddiswyddo oherwydd bod aelodau'r bwrdd wedi methu â herio'r pwyllgor gwaith.

"Allai dim fod ymhellach o'r gwir," meddai.

"Mewn gwirionedd, problem sylfaenol oedd wedi bod yn adeiladu ers tro oedd bod aelodau annibynnol yn fwyfwy anfodlon ac yn bryderus gyda'r ymatebion i graffu, a nifer cynyddol o enghreifftiau o'r bwrdd yn cael ei gamarwain yn hyn o beth, ac mewn un achos o leiaf, yn fwriadol."

'Cleifion mewn perygl'

Dywedodd y cyn-gadeirydd fod Ms Morgan "wedi cymryd rhan yn yr hyn na ellir ond ei ddisgrifio fel ymarfer i geisio ymbellhau ei hun, ei llywodraeth a'i swyddogion oddi wrth unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw beth sy'n ymddangos yn ymwneud â gwella gofal iechyd ar draws Cymru".

Ychwanegodd fod cyfres o ddiffygion a phryderon hirsefydlog wedi'u huwchgyfeirio ar ddechrau mis Medi "nid yn unig i'r prif swyddog gweithredol ar y pryd ond hefyd i'r gweinidog a'r cyfarwyddwr cyffredinol".

"Yn syml, anwybyddwyd yr uwchgyfeirio hwnnw a'r sail ar eu cyfer gan y llywodraeth," meddai.

Dywedodd Mr Polin ei fod yn "gamarweiniol" i'r gweinidog awgrymu ei bod yn ddi-rym i weithredu yn erbyn aelodau eraill o'r bwrdd.

"O unrhyw fesur mae cleifion ar draws Cymru, ac yn enwedig gogledd Cymru, yn cael eu rhoi mewn perygl gan system GIG... y gellir dadlau ei fod wedi torri."

Mewn ymateb i'r datganiad, dywedodd Darren Millar o'r Ceidwadwyr Cymreig: "Rhaid i'r llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd dderbyn cyfrifoldeb am y GIG yng ngogledd Cymru a chael ei dwyn i gyfrif am ei ffaeleddau."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru fod Mr Polin "yn codi cwestiynau difrifol am onestrwydd y gweinidog a'r ffordd y mae hi wedi rheoli gofal iechyd yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf".

Disgrifiad o’r llun,

Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yw'r mwyaf yng Nghymru

Roedd y bleidlais yn y Senedd yn rhoi mwy o bwysau ar y gweinidog iechyd, ond gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn gwrthod y bleidlais o ddiffyg hyder, fe wnaeth y Ceidwadwyr golli.

Sbardunodd penderfyniad Eluned Morgan i ddiswyddo bwrdd annibynnol Betsi Cadwaladr ffrae ym mis Chwefror, gyda chyn-aelodau'n cyhuddo'r llywodraeth o fethu ag adfer y sefyllfa.

Roedd adroddiad archwilio yn darlunio perthnasoedd gwaith wedi chwalu ymhlith yr uwch arweinwyr, a thîm gweithredol aneffeithiol.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod record Ms Morgan dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn "ddamniol" gyda mwy na 45,000 yn aros am fwy na dwy flynedd.

'Dim dewis arall credadwy'

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar ogledd Cymru, Darren Millar: "Rydym angen gwasanaeth iechyd yng Nghymru lle mae pobl yn cael eu dwyn i gyfrif pan mae pethau'n mynd o chwith ac mae hynny'n dechrau gyda'r gweinidog iechyd."

Dywedodd Sam Rowlands, AS y Ceidwadwyr dros Aberconwy, wrth agor y ddadl yn y Senedd fod Ms Morgan wedi "dewis" peidio â bod yn atebol am faterion yn y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd mai aelodau bwrdd Betsi Cadwaladr "sydd wedi bod yn tynnu sylw at y methiannau, sydd wedi bod yn dwyn y pwyllgor gwaith i gyfrif - nhw y mae'r gweinidog wedi dewis i fod yn atebol am fethiannau, nid hi ei hun."

'Heb syniadau newydd'

Galwodd Plaid Cymru ar i Ms Morgan gael ei diswyddo yn ystod eu cynhadledd wanwyn.

Dywedodd llefarydd iechyd y blaid, Rhun ap Iorwerth fod Eluned Morgan wedi "methu'n llwyr i gael trefn ar fwrdd iechyd mwyaf Cymru".

Ychwanegodd, "Mae hon yn weinidog ac mae hon yn llywodraeth sydd efallai'n wir yn credu bod ganddyn nhw weledigaeth ar gyfer dyfodol y GIG yng Nghymru, ond os ydyn nhw, mae'n weledigaeth aneglur ddiymadferth... heb syniadau newydd".

Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru na fyddai newid gweinidog "yn helpu pobl gogledd Cymru, yn enwedig pan nad oes dewis arall credadwy yn bodoli, yn lle hynny rydym am weld gweithredu pendant ar y problemau a amlygwyd yn yr adroddiad".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud o'r blaen eu bod yn gweithredu i unioni problemau'r bwrdd pan fydd o dan fesurau arbennig.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Dyw hyn yn ddim byd mwy nag ymosodiad gwleidyddol ar y gweinidog iechyd, sy'n gwneud gwaith gwych."

Ychwanegodd: "Mae amseroedd aros hir yn gostwng bob mis; mae gan bobl fynediad cyflymach at driniaethau newydd yng Nghymru ac mae gofal yn cael ei ddarparu yn nes at adref."

Pynciau cysylltiedig