Carcharu dynes am dwyllo elusen sy'n helpu rhieni mewn galar

  • Cyhoeddwyd
Stephanie JonesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Stephanie Jones greu cymeriad ffug er mwyn hawlio £3,570 gan elusen

Mae dynes o Wynedd wedi cael ei charcharu am 12 mis ar ôl twyllo elusen oedd yn rhoi cymorth i deuluoedd oedd yn galaru.

Fe wnaeth Stephanie Jones, 30, o Nebo ger Caernarfon, greu cymeriad ffug ac anfon anfonebau ffug i'r elusen.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod Jones wedi gwneud cais am 19 anfoneb ffug am gyfanswm o £3,570 mewn cyfnod o naw mis.

Bu'n rhaid i'r heddlu gysylltu â theulu merch oedd wedi cael ei llofruddio er mwyn gwirio a oedden nhw wedi derbyn gwasanaeth cwnsela fel oedd Jones wedi honni.

Dywedodd y barnwr fod ei hymddygiad yn "ffiaidd a thu hwnt" gan ei disgrifio fel "celwyddgi cronig".

Celwydd am PhD

Fe blediodd Jones yn euog i dwyll a chamddefnydd o'i rôl gyda'r elusen 2 Wish Upon A Star a chafodd ei charcharu am 12 mis.

Dywedodd yr erlynydd Patrick Gartland fod yr elusen wedi ei sefydlu yn 2012 er mwyn cefnogi teuluoedd ac eraill yn dilyn marwolaeth plentyn.

Dywedodd fod Jones wedi gwneud cais am swydd gyda'r elusen fel cydlynydd yn Chwefror 2020.

Honnodd ar y pryd fod ganddi PhD mewn Cymdeithaseg, a bod ganddi'r hawl i gyfeirio at ei hun fel doctor.

Ond daeth i'r amlwg mai gradd MA oedd ganddi ym Mhrifysgol Bangor.

Roedd hefyd wedi honni fod gefell (twin) iddi wedi marw o ganser yn bump oed. Clywodd y llys fod hynny'n gelwydd.

Disgrifiad o’r llun,

Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod yr holl arian wedi cael ei dalu'n ôl i'r elusen

Yn ei gwaith roedd Jones fod i gyfeirio teuluoedd at gwnselwyr, ond nid oedd hi yn gwnselydd.

Penderfynodd greu cwnselydd ffug o'r enw Sarah Jones, a chreu cwmni a chyfeiriad ffug.

Cafodd anfonebau eu talu i S. Jones, ond eu hanfon i gyfrif oedd yn cynnwys manylion Stephanie Jones.

Achos 'anodd a phoenus' i'r heddlu

Dywedodd Elen Owen, ar ran yr amddiffyn, fod y diffynnydd wedi dioddef o dor-perthynas a bod ganddi ddyledion mawr.

"Nid oedd hwn yn achos o rywbeth oedd wedi ei gynllunio ymlaen llaw i ddwyn," meddai Ms Owen.

"Ond roedd ei sefyllfa emosiynol ar y pryd wedi effeithio ar ei ffordd o feddwl. Roedd hi mewn lle tywyll iawn."

Ychwanegodd Ms Owen fod yr holl arian wedi cael ei dalu'n ôl i'r elusen.

Ar ôl yr achos dywedodd y ditectif sarjant David Hall o Heddlu'r Gogledd: "Roedd hwn yn achos anodd iawn a phoenus i'w ymchwilio oherwydd bod yn rhaid i ni gysylltu â rhieni oedd yn galaru gyda gwybodaeth o bosib fyddai'n ychwanegu at eu poendod."

Dywedodd Rhian Mannings o elusen 2Wish fod pawb o fewn yr elusen wedi eu siomi gan yr hyn ddigwyddodd a thor ymddiriedaeth ar ran Ms Jones.

"Byddwn hefyd yn hoffi sicrhau pobl sy'n gweithio gyda 2Wish - yn codi arian neu weithgarwch arall - nad yw'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig wedi eu heffeithio o gwbl o ganlyniad i'r hyn ddigwyddodd."

Pynciau cysylltiedig