'Camreoli cyfrifon wedi costio £155m yn ystod Covid'
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth camreoli cyfrifon cyhoeddus gostio £155.5m i Gymru yn ystod y pandemig Covid, yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.
Methodd Llywodraeth Cymru â gwario'r arian ychwanegol erbyn mis Mawrth 2021 a bu'n rhaid iddyn nhw ei roi yn ôl i Lywodraeth y DU.
Mae adroddiad beirniadol gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd wedi codi pryderon difrifol am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwario arian ac yn rheoli rhai o uwch swyddogion.
Mae'r £155.5m, medd y pwyllgor, yn cynrychioli cyllid sylweddol y gellid bod wedi ei ddefnyddio i ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yng Nghymru - a hynny ar adeg pan fo pwysau difrifol ar gyllid cyhoeddus.
Dywed Llywodraeth Cymru fod y Trysorlys wedi ymddwyn yn "annerbyniol" wrth wrthod adael i'r arian aros yng Nghymru ond mae Llywodraeth y DU wedi amddiffyn y penderfyniad.
Yn ôl y Trysorlys fe gafodd y trefniadau ariannu eu gwneud yn y "ffordd arferol".
Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod cyfanswm yr arian, na ellid gwarantu ei fod wedi'i wario yn y ffordd gywir fel rhan o gynllun grant busnes Covid, yn ffigwr rhwng £700,000 a £37m yn 2020-21.
Noda'r adroddiad nad oes digon yn cael ei wneud i ddelio â'r broblem.
Hefyd mae yna bryderon difrifol am sut y cadwyd y cofnodion am daliad ymadael arbennig o £80,000 i gyn brif was sifil Cymru, y cyn-Ysgrifennydd Parhaol y Fonesig Shan Morgan.
Mae'r pwyllgor hefyd yn dweud bod cyflog yr ysgrifennydd parhaol presennol yn uwch na'r swm gafodd ei grybwyll pan hysbysebwyd y swydd.
Mae'r casgliadau'n rhan o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd ar gyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21.
Canfu ymchwiliad gan yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, i'r taliad i'r Fonesig Shan Morgan fod peth o'r arian wedi'i dalu mewn ffordd nad oedd ganddi hawl iddo o dan ei chytundeb gwaith.
Beth ddigwyddodd i'r arian?
Mae cyllideb llywodraeth Cymru - sydd oddeutu £20bn y flwyddyn - yn cael ei wario ar ofal iechyd, cynghorau a gwasanaethau eraill.
Mae'r adroddiad yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi methu â gwario y cyllid o £155.5m oedd ar gael iddi yn 2020/21.
Mae'r ffigwr yn deillio o'r gwahaniaeth rhwng balans Cronfa Wrth Gefn Cymru ar 1 Ebrill 2021 - £505.5m - a therfyn Cronfa Wrth Gefn Cymru, sef £350m.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU a allai gadw'r arian parod, ond cafodd y cais ei wrthod.
Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi tybio, ar sail penderfyniadau blaenorol y Trysorlys, y byddai'n cael hyblygrwydd i ddefnyddio'r cyllid ar gyfer gorwariant yn eu cyllideb cyfalaf.
Dywedodd Mark Isherwood, cadeirydd y pwyllgor: "Fe allai'r arian fod wedi'i ddefnyddio i gyllido gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, ac mae'n rhwystredig iawn, yn enwedig nawr, pan fo cymaint o bwysau ar gyllid cyhoeddus."
"Mae'n un o lawer o enghreifftiau lle mae cadw cofnodion gwael a chamreoli cyfrifon cyhoeddus wedi costio'n ddrud i bobl Cymru."
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod gweithredoedd Trysorlys y DU yn "hollol annerbyniol".
Ychwanegodd llefarydd: "Roedd ein tanwariant yn ystod blwyddyn ariannol eithriadol 2020-21 yn sylweddol is na rhai adrannau Llywodraeth y DU, ac roedd ein ffocws ar gyflawni gwerth am arian yn golygu nad oedd gennym ni'r sgandalau am gontractau PPE fel ag a gafwyd yn Lloegr."
Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys fod trefniadau ariannu "yn cael eu cymhwyso yn y ffordd arferol wrth drafod tanwariant Llywodraeth Cymru".
Twyll
Yn ystod y pandemig dosbarthodd Llywodraeth Cymru gymorth i fusnesau ar ffurf grantiau. Cafodd o leiaf £893m ei ddarparu drwy awdurdodau lleol.
Amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru y gallai twyll neu gamgymeriad yn y grantiau yn 2020-21 fod wedi dod i gyfanswm o rhwng 0.08% (£700,000) a 4.17% (£37.2m).
Fe wnaeth y corff gwarchod gwariant cyhoeddus Archwilio Cymru ganfod nad oedd rhai cynghorau wedi nodi unrhyw achosion o dwyll na chamgymeriadau.
Nodwyd pa mor annhebygol oedd hynny, a fe wnaeth un awdurdod a wnaeth ymchwilio ymhellach ganfod nad oedd £570,000 wedi'i wario'n gywir.
Dywedodd y pwyllgor ei fod yn "syndod" nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud mwy i annog cynghorau i wneud ymchwiliadau pellach.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'r dystiolaeth bresennol, fel y nodir yn yr adroddiad, yn awgrymu lefelau isel iawn o dwyll a chamgymeriadau yn ein grantiau i fusnesau o ganlyniad i'r dull a fabwysiadwyd yng Nghymru."
Mae rhan helaeth o'r adroddiad yn canolbwyntio ar benderfyniad y cyn-ysgrifennydd parhaol, y Fonesig Shan Morgan, i weithion'n rhan amser ac i ymddeol yn rhannol ym mis Ebrill 2018.
Dywedodd aelodau'r Senedd eu bod yn poeni ynghylch penderfyniad aelod "isradd" o staff i gymeradwyo newidiadau i drefniadau gweithio swyddog uwch.
Cymeradwywyd newidiadau i faint o wyliau a roddwyd iddi am weithio diwrnodau ychwanegol gan y cyfarwyddwr adnoddau dynol.
Cafodd tâl o £80,519 ei roi i'r Fonesig Shan Morgan ar ôl i'r prif weinidog ofyn iddi adael yn gynharach na'r disgwyl ym mis Hydref 2021, gan gynnwys £39,123 am weithio 148 diwrnod ychwanegol tra'i bod yn rhan amser.
Dywedodd yr adroddiad fod diffyg cofnodion i dystio bod y dyddiau hynny'n ddilys.
Dywedodd pwyllgor y Senedd ei fod hefyd yn poeni na roddodd y llywodraeth ddigon o dystiolaeth gyffredinol i'r archwilydd i gyfiawnhau gwario'r arian.
Wrth esbonio'r taliad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Cynigiwyd dewis arall ariannol gan nad oedd hi'n bosibl i'r cyn ysgrifennydd parhaol gymryd yr amser i ffwrdd yr oedd ganddi hawl iddo."
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol Adrian Crompton mewn datganiad bod y taliad i'r Fonesig Morgan yn dangos "diffyg tryloywder ac nad oedd yn cydymffurfio ag egwyddorion llywodraethu da".
Mae'r Fonesig Shan Morgan wedi cael cais i wneud sylw.
Yr ysgrifennydd parhaol presennol yw Andrew Goodall, a olynodd y Fonesig Shan Morgan ym mis Tachwedd 2021.
Roedd Mr Goodall wedi bod ar secondiad i Lywodraeth Cymru o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ers 2014.
Roedd y swydd ysgrifennydd personol wedi cael ei hysbysebu gyda chyflog rhwng £162,500 a £180,000, ond cadarnhaodd Dr Goodall ar ôl ei benodiad ei fod yn parhau ar fframwaith cyflog prif weithredwr y GIG - sy'n golygu bod ei gyflog yn fwy na'r cyflog a gafodd ei hysbysebu.
Mae hyn, yn ôl adroddiad y Pwyllgor, yn codi cwestiwn ynghylch a allai Llywodraeth Cymru fod wedi denu ymgeiswyr gwahanol petai'r swydd wedi cael ei hysbysebu ar raddfa gyflog uwch.
Yn ôl cyfrifon 2020/21 mae cyflog presennol Andrew Goodall rhwng £205,000 a £210,000.
Nod yr 17 argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad yw mynd i'r afael â chadw cofnodion gwael a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr ymchwiliad.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor, Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd ac aelod o'r pwyllgor, fod y tanwariant yn "sioc".
"Doedd hi ddim yn glir o gwbl pam wnaethon nhw hyn, a pham roedden nhw'n teimlo nad oedd unrhyw brosiectau teilwng i wario'r arian arnyn nhw yma."
Ychwanegodd Peter Fox, o'r Ceidwadwyr Cymreig: "Mae yna lawer o gwestiynau i'w hateb o hyd ynglŷn â gwariant llywodraeth Lafur a pham nad ydyn nhw'n credu bod pobl Cymru yn haeddu gonestrwydd a thryloywder."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r adroddiad ac y byddan nhw yn ymateb i'r argymhellion maes o law.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2022
- Cyhoeddwyd9 Medi 2021
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2016