Archwilydd yn cwestiynu cofnodion ariannol y llywodraeth
- Cyhoeddwyd
Ni chadwodd Llywodraeth Cymru gofnodion cywir am daliad gwerth £39,123 i'w chyn-brif was sifil, meddai archwilwyr.
Cafodd Shan Morgan ei thalu am weithio diwrnodau ychwanegol cyn iddi gamu lawr fel yr ysgrifennydd parhaol ym mis Hydref y llynedd.
Ond mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi dweud bod diffyg tystiolaeth ar y pryd am y swm a phwy wnaeth ei awdurdodi.
Dywedodd y llywodraeth na chafodd y Fonesig Shan ei thrin yn wahanol i unrhyw was sifil arall, ond fe ddywedodd y Ceidwadwyr ei fod yn destun pryder.
Roedd y taliad yn un o'r rhesymau pam y rhoddodd yr archwiliwr farn amodol ar gyfrifon blynyddol y llywodraeth.
Roedd ganddo amheuon hefyd ynglŷn â grantiau i fusnesau a newidiadau i bensiynau ar gyfer rhai meddygon.
'Dim cofnodion cyfoes'
Mae'r cyfrifon yn nodi bod y Fonesig Shan wedi gwneud cais ar gyfer "ymddeoliad rhannol" yn 2018, ond bod Brexit a'r pandemig wedi arwain ati'n parhau i weithio oriau llawn amser ac, yn aml, ar benwythnosau.
Cytunodd y llywodraeth i gadw amser gwyliau ychwanegol wrth gefn iddi, ond roedd yn "amhosib" iddi gymryd y gwyliau gan ei bod wedi trosglwyddo'r awenau i'w holynydd yn gynt na'r disgwyl.
Oherwydd hynny, mae'r cyfrifon yn dweud bod y llywodraeth wedi penderfynu cynnig taliad gwerth tua hanner ei hamser gwyliau.
Ond yn ei adroddiad, dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol Adrian Crompton: "Ni chadwodd Llywodraeth Cymru gofnodion cyfoes o'r rhesymau dros wneud y taliad, y rhesymeg dros y swm a dalwyd na thystiolaeth o bwy a awdurdododd y taliad.
"Felly, nid wyf wedi gallu bodloni fy hun bod y taliad wedi'i awdurdodi'n briodol yn unol â fframwaith yr awdurdodau sy'n llywodraethu'r gwariant - ac a dynnwyd y gwariant at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd y cyn-ysgrifennydd parhaol wedi derbyn "unrhyw beth nad oedd ganddi'r hawl iddo" a chafodd ei thrin yn yr un modd ag unrhyw swyddog arall.
"Gan na fu'n bosibl iddi gymryd amser i ffwrdd fel y cytunwyd yn flaenorol o dan ei threfniadau ymddeoliad rhannol, cynigiwyd dewis ariannol a'i dderbyn yn lle hynny," meddai
Dywedodd bod y taliad yn dilyn y rheolau ar gyfer arian cyhoeddus.
Gwrthbleidiau: 'Problem ddifrifol'
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid, Peter Fox fod angen eglurhad llawn gan y llywodraeth ar frys.
"Mae'n achos pryder gweld bod degau o filoedd o bunnau o arian cyhoeddus yn gallu cael ei dalu i gyn-brif was sifil, ond does dim tystiolaeth sy'n gallu egluro pam," meddai.
"Mae gwallau fel hyn wrth gadw cofnodion yn broblem ddifrifol... mae angen i lywodraeth Mark Drakeford egluro sut fod hyn wedi gallu digwydd ar frys. Dydi dweud nad ydyn nhw'n gwybod ddim yn ddigon da."
Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar gyllid a llywodraeth leol, Llyr Gruffydd, mae yna gwestiwn difrifol i'w ofyn am dryloywder.
"Dydi dweud fod y cyn-ysgrifennydd parhaol wedi gweithio'r oriau hyn ddim yn ddigon da, a dim dyma'r hyn yr ydych chi'n ei ddisgwyl gan lywodraeth wrth wario arian trethdalwyr.
"Hoffwn gael sicrwydd fod y llywodraeth yn trin pob aelod o staff - yn y gwasanaeth sifil a'r sector gyhoeddus - yn gyfartal."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd9 Medi 2021
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2016