Rhybudd i fod yn wyliadwrus am 'syniadaeth asgell dde eithafol'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Gymru "fod ar ei gwyliadwraeth" rhag syniadaeth asgell dde eithafol, yn ôl athronydd gwleidyddol.
Rhybuddiodd Dr Huw Williams, o Brifysgol Caerdydd, y dylai gwleidyddion "gymryd cyfrifoldeb" am ddefnyddio iaith ymfflamychol ar bynciau fel mewnfudo.
Daw ei alwad wedi i'r mudiad asgell dde eithafol Patriotic Alternative drefnu protest yn Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg, ddydd Sadwrn diwethaf.
Sefydlwyd y mudiad, sydd yn gwrthwynebu mewnfudo, gan Mark Collett, cyn-gyfarwyddwr marchnata plaid asgell dde y BNP.
Trefnwyd eu protest y penwythnos ddiwethaf yn sgil cyhoeddi cynlluniau gan yr awdurdod lleol i godi llety dros dro i ffoaduriaid o Wcráin ar safle hen ysgol yn y dref.
Daeth rhyw 20 o gefnogwyr Patriotic Alternative i'r dref - gyda channoedd wedi ymgynnull i ddangos eu gwrthwynebiad.
Cynhaliwyd digwyddiad cymunedol, oedd yn cynnwys gwylnos yn yr eglwys leol a gêm bêl-droed yn enw Stand Up To Racism i wrthwynebu eu presenoldeb.
Cafodd pice ar y maen eu dosbarthu ar sgwâr y dref mewn ymgais i ddangos bod y bobl leol yn cynnig croeso i ymwelwyr.
Roedd gofid yn lleol y gallai'r brotest arwain at wrthdaro a thrais.
Dywedodd Heddlu'r De i'r gwrthdystiadau fod yn rhai heddychlon ar y cyfan, ond i ddau gael eu harestio.
Er mai nifer fach o gefnogwyr oedd yn y brotest asgell dde yn Llanilltud Fawr, mae'r academydd Dr Huw Williams, sydd yn Ddeon ac yn Ddarllenydd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn rhybuddio bod rhethreg adain dde ar gynnydd yng Nghymru.
"Ers peth amser yng Nghymru ac ym Mhrydain, mae symudiad wedi bod at y math yma o syniadaeth asgell dde eithafol," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
"Os edrychwch chi ar y rhethreg yn ystod y refferendwm dros [adael] yr Undeb Ewropeaidd, gallwch weld, mewn sawl ffordd, i hynny newid natur rhethreg gwleidyddiaeth ym Mhrydain.
"Yn sydyn, daeth syniadau oedd yn ymylol iawn 20-25 mlynedd nôl yn rhai prif ffrwd.
"Yng Nghymru, er bod yr awyrgylch gwleidyddol ychydig yn wahanol yma... byddai'n ffôl meddwl ein bod ni rywsut wedi ein heithrio rhag y math yma o wleidyddiaeth.
"Dwi'n credu bod angen cydnabyddiaeth a chyfrifoldeb yma o ran yr hyn sydd yn cael ei ddweud gan wleidyddion a sylwebwyr, oherwydd mae hynny'n lliwio sut mae'r cyhoedd yn deall y pynciau a'r digwyddiadau yma, ac mae'n anorfod y bydd hynny'n dylanwadu ar eu gweithredoedd a'u geiriau."
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Fe fydd y DU wastad yn wlad groesawgar llawn cydymdeimlad. Mae lles ceiswyr lloches sydd yn ein gofal o'r pwys mwyaf i ni ac y mae unrhyw ymgais i ddangos dicter tuag atyn nhw yn gwbl annerbyniol.
"Ry'n wastad yn glir am yr angen i reoli ein ffiniau yn effeithiol ac mae gennym system loches sy'n ateb gofynion y rhai sydd mewn angen gwirioneddol."
'Ddim am gymryd mantais'
Mae Larysa Martseva yn un sydd wedi ffoi o Wcráin i Gymru y llynedd.
Dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod hi wedi cael croeso cynnes iawn yng Nghymru, ac wedi ei siomi bod protest i wrthwynebu cartrefu eraill o'i mamwlad wedi digwydd yma.
"Rydyn ni yn drist am hynny [y brotest]... maen nhw [Patriotic Alternative] yn defnyddio sefyllfa anobeithiol pobl Wcráin i ddenu sylw i'w hunain a chamarwain pobl.
"Mae'n hawdd camarwain pobl ar sail materion ariannol ac economaidd - 'edrychwch arnyn nhw, yn bwyta eich bara, yn dwyn eich swyddi.' Dyw hynny ddim yn wir.
"Ry'n ni'n ymbil am loches. Dydyn ni ddim am gymryd mantais, rydyn ni am weithio. Mae'r rhan fwyaf ohonom ni yn fenywod gyda phlant."
Dywedodd Richard Parry, a drefnodd ddigwyddiadau cymunedol yn Llanilltud Fawr: "Mae pobl wedi dod at ei gilydd i ddathlu croeso a charedigrwydd y dref.
"Mae pobl y dref wedi dweud nad oes lle yma i bryfocio casineb a rhannu dicter.
"Gallwn gynnal ein deialog gwleidyddol ein hunain yma. Caredigrwydd yw sail cymuned. Byddwn ni'n datrys problemau gwleidyddol y dref. Dydyn ni ddim angen dylanwadau o'r tu fas."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2023