Cymro yn tyngu llw dinesydd Seland Newydd yn iaith y Maori
- Cyhoeddwyd
Mae Cymro o Wynedd, sydd wedi symud i fyw yn Seland Newydd, wedi tyngu llw dinasyddiaeth y wlad yn yr iaith frodorol.
Mae dros 100,000 o bobl wedi gwylio fideo ar TikTok, dolen allanol o Iwan Llŷr Jones yn cyflawni ei seremoni dinasyddiaeth yn iaith y Maori.
Symudodd Iwan a'i bartner, Katie, i'r wlad yn 2017, ac mewn cyfweliad ar Dros Frecwast, esboniodd pam ei fod wedi dewis bod yn ddinesydd, a pham dewis gwneud y seremoni yn yr iaith Maori.
"Mi ydan ni wedi setlo yma rwan a 'dan ni wedi gwneud fa'ma yn adra i ni, so pam lai," meddai Iwan, sy'n wreiddiol o ardal Minffordd, ger Porthmadog.
"Yn enwedig efo be' sydd wedi digwydd yn y tair blynedd dwytha efo Covid a ballu, mae'n gwneud mwy o synnwyr [i fod yn ddinasyddion]."
Roedd o'n "dangos mwy o barch i'w wneud o yn yr iaith Maori," meddai.
Gofynnwyd a oedd llawer yn defnyddio'r Maori i gyflawni'r seremoni dinasyddiaeth?
"O be dwi 'di glywed, dim o gwbl yn anffodus, a 'swn i'n lecio 'sa 'na fwy o bobl yn gwneud."
Dywedodd nad yw'r iaith i'w chlywed mor aml yn ne'r wlad, lle maen nhw wedi ymgartrefu.
"Yn y gogledd ti'n glywed o fwy," meddai.
Ymateb ar TikTok
Mae'r iaith yn hollol wahanol i'r Gymraeg, meddai Iwan, ar wahân i lythrennau'r wyddor, sy'n cael eu hyngan yn debyg.
Ond beth am yr ymateb ar TikTok?
"Doeddwn i ddim yn gwybod bod Katie wedi'i bostio fo i ddechra', tan ddywedodd hi fod o'n cael dipyn o sylw!" meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd27 Mai 2019