Osgoi carchar am neges hiliol tuag at chwaraewr Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Michael ObafemiFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe symudodd Michael Obafemi o Abertawe i Burnley ym mis Ionawr

Mae dyn wedi cael dedfryd ohiriedig wedi iddo anfon neges hiliol at chwaraewr pêl-droed Abertawe.

Cafodd Josh Phillips o Gwmbwrla, Abertawe ei ddedfrydu i 12 wythnos o garchar, wedi ei ohirio am 18 mis, am anfon y neges ar Twitter.

Fe anfonodd Phillips, 26, y neges sarhaus wedi i'r clwb gyhoeddi y byddai Michael Obafemi yn symud ar fenthyg i Burnley ddiwedd Ionawr.

Plediodd yn euog i drosedd o anfon neges ar rwydwaith cyfathrebu cyhoeddus oedd yn hynod sarhaus, anweddus, neu fygythiol.

'Moment gwirion'

Clywodd y llys fod Phillips allan gyda ffrindiau ac wedi meddwi pan anfonodd y neges ar 28 Ionawr ar ôl clywed am drosglwyddiad Mr Obafemi.

Yn ddiweddarach fe wnaeth Phillips ddileu'r trydariad, a deuddydd yn ddiweddarach clywodd y llys gofnodion ffôn yn dangos ei fod wedi edrych ar sut i ddileu ei gyfrif.

Pan gafodd Phillips ei holi gan yr heddlu, dywedodd ei fod wedi gwneud y sylw mewn moment gwirion ar ôl bod yn yfed, a'i ddileu yn fuan wedyn, gan ddweud ei fod wedi'i siomi yn ei hun.

Yn ogystal â'r ddedfryd ohiriedig, fe wnaeth y barnwr Christopher James hefyd roi gwarddiad alcohol o 120 diwrnod i Phillips, 25 diwrnod o adfer, a 160 awr o waith di-dâl.

Mae hefyd wedi cael ei wahardd rhag mynychu unrhyw gemau Abertawe am dair blynedd, a mynd i dafarn o fewn 2.5km i Stadiwm Swansea.com tra bod yr Elyrch yn chwarae.

Dyw Phillips ddim chwaith yn cael mynd i unrhyw dref neu ddinas y mae Abertawe neu Cymru'n chwarae am dair blynedd.

Cafodd orchymyn i dalu dirwy o £83, a £154 o ffi dioddefwr.

Ffynhonnell y llun, Simon Galloway/PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Michael Obafemi wrth y llys fod y "cam-drin hiliol a gefais yn gwbl annerbyniol"

Mewn datganiad a ddarllenwyd yn Llys Ynadon Abertawe yn gynharach yn y mis, dywedodd Michael Obafemi: "Mae'r cam-drin hiliol a gefais yn gwbl annerbyniol.

"Does dim ots beth rydw i'n ei wneud fel swydd, rydw i'n fod dynol a dydw i ddim yn haeddu'r math yma o ymddygiad."

Ychwanegodd fod y digwyddiad wedi achosi straen iddo ef a'i deulu.

Yn dilyn y ddedfryd dywedodd Matthew Henson o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Mae troseddau casineb yn bethau ffiaidd dros ben ac maen nhw'n cael effaith niweidiol iawn ar ddioddefwyr a'r gymuned ehangach.

"Mae'r CPS wedi ymrwymo i fynd i'r afael â throseddau casineb o bob ffurf pan fydd achosion yn pasio ei brawf cyfreithiol, ac mae'n pryderu'n ofnadwy am bawb sydd wedi bod yn destun trosedd gasineb."

Ychwanegodd Clwb Pêl-droed Abertawe eu bod yn croesawu'r ddedfryd, gan ddweud ei fod yn "gosod cynsail cryf i unrhyw un sy'n troseddu yn y dyfodol".

"Dyw'r unigolyn yma ddim yn cynrychioli Abertawe na gwerthoedd ein clwb a'n cymuned."