Pryder am swyddi wrth israddio ffatri yn Y Fflint
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon am swyddi yn ffatri Oscar Mayer yn Y Fflint wedi i'r perchnogion gyhoeddi'r bwriad i israddio'r safle.
Mae ffatri'r cwmni, sy'n creu prydau parod i archfarchnadoedd, ar hyn o bryd yn cyflogi 330 o bobl.
O dan y cynllun sy'n cael ei drafod byddai cynhyrchiad sawl eitem yn cael eu trosglwyddo i safle'r cwmni yn Wrecsam.
Os na fydd staff presennol yn medru cymudo i Wrecsam, maen nhw'n wynebu colli eu swyddi o fewn y misoedd nesaf.
Dywedodd y cwmni y bydd cyfnod ymgynghori yn dechrau fis Ebrill, ac yn para am o leiaf 45 diwrnod.
Y safle yn Y Fflint yw uned gynhyrchu leiaf Oscar Mayer, gyda ffatrïoedd mwy yn Wrecsam ac Erith ar gyrion Llundain.
Dywedodd y cwmni bod eu gwerthiant heb ddychwelyd i'r un lefelau â chyn y pandemig, tra bod costau wedi cynyddu.
Ychwanegon nhw fod y galw am brydau parod wedi lleihau yn ystod yr argyfwng costau byw, ac nid oes ganddynt fawr o obaith y bydd hynny'n newid yn fuan.
'Penderfyniad andros o anodd'
Dywedodd cadeirydd gweithredol y cwmni, Peter Thornton: "Mae ymgynghori gyda chydweithwyr am y posibilrwydd o drosglwyddo cynhyrchiant a swyddi wedi bod yn benderfyniad andros o anodd ei wneud.
"Mae Oscar Mayer yn llawn cydnabod eu cyfrifoldeb i'r gymuned leol ac yn difaru'n fawr y gofid a'r siom y gallai'r symudiad yma achosi.
"Nid yw'r israddio yma, os yw'n digwydd, yn adlewyrchiad o dalent a gallu ein staff ymroddedig, sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed er mwyn ein helpu i gynyddu effeithlonrwydd, ac rydym yn parhau i fod yn hynod ddiolchgar am hyn.
"Rwy'n gobeithio ei fod yn ychydig o gysur y bydd pob mesur yn cael ei gymryd i helpu ein cydweithwyr i edrych am gyflogaeth ystyrlon arall, os ydyn nhw'n penderfynu na allan nhw gymudo i Wrecsam."
Mae Oscar Mayer yn cyflogi tua 2,500 o bobl ar draws eu safleoedd yn Wrecsam ac Erith, ac ni fydd y swyddi yma'n cael eu heffeithio gan y penderfyniad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2023