Athro wnaeth achub plant yn Aberfan wedi marw yn 82 oed

  • Cyhoeddwyd
Howell WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Howell Williams yn 25 oed a newydd gymhwyso fel athro pan ddigwyddodd y drychineb

Mae athro wnaeth dorri ffenest er mwyn helpu ei ddisgyblion i ddianc yn ddiogel yn ystod trychineb Aberfan wedi marw yn 82 oed.

Roedd Howell Williams, o Dreharris, yn 25 oed pan wnaeth y domen lo lithro ar ben Ysgol Gynradd Pantglas ar 21 Hydref 1966.

Fe wnaeth y drychineb ladd 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant. Roedd Mr Williams yn un o bedwar athro wnaeth oroesi.

Dywedodd mab Mr Williams, Jonathan Williams, 53, ei fod yn "ddyn hyfryd" ond ei fod wedi gweld pethau'n anodd yn dilyn y drychineb.

Ychwanegodd Jonathan Williams, sydd bellach yn byw yn Radyr, Caerdydd: "Dwi'n credu ei fod e wedi newid, dwi'n credu ei fod yn ddyn gwahanol ar ôl 25 i fel yr oedd o'r blaen.

"Os oedd wedi digwydd yn y cyfnod modern, byddai wedi bod yn wahanol iawn. Doedd dim cwnsela adeg hynny."

Bu farw Howell Williams yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar 29 Mawrth.

Atgofion disgyblion

Pan ddigwyddodd y drychineb roedd Mr Williams newydd gymhwyso fel athro ymarfer corff, ac fe helpodd nifer o blant i ddianc trwy dorri ffenestr uwchben drws un o'r dosbarthiadau.

Wrth siarad ar Radio Cymru adeg hanner can mlwyddiant y drychineb, bu'r diweddar Bernard Thomas, oedd yn ddisgybl 9 oed ym 1966, yn cofio'i athro yn ei helpu

"Y peth cyntaf dwi'n cofio pan nes i ddeffro oedd plant eraill yn sgrechian, ac o'n i'n meddwl 'wel mae'n rhaid i fi gael mas o'r lle hyn'," meddai.

"Llwyddes i ddringo dros y stwff a wnaeth fy athro, Mr Williams, helpu fi mas."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Williams yn un o bedwar athro wnaeth oroesi'r trychineb ynghyd â Mair Morgan, Hettie Williams a Rennie Williams

Fe wnaeth disgybl arall, Dilys Pope, oedd yn 10 oed ar adeg y drychineb, dweud wrth y South Wales Argus: "Cafodd fy nghoes ei ddal mewn desg ac roeddwn i'n methu symud ac roedd fy mraich yn brifo.

"Roedd y plant yn gorwedd dros y lle i gyd. Roedd yr athro, Mr Williams, hefyd ar y llawr. Llwyddodd i ryddhau ei hun ac fe dorrodd y ffenest uwchben y drws gyda charreg.

"Mi wnes i ddringo allan a mynd rownd trwy'r neuadd ac allan drwy'r ffenest. Agorais ffenest yr ystafell ddosbarth ac fe ddaeth rhai plant allan ffordd yna.

"Fe wnaeth yr athro gael rhai o'r plant allan a dywedodd wrthon ni i fynd adref."

Yn 1997 fe wnaeth y Frenhines Elizabeth II ymweld â'r pentref er mwyn helpu plannu coeden yn y gerddi coffa, 30 mlynedd wedi'r drychineb.

Ar y pryd fe wnaeth Mr Williams siarad gyda BBC Wales Today.

Dywedodd: "Doeddwn i ddim yn edrych ymlaen at heddiw o gwbl, dwi ddim yn credu bod unrhyw un yn.

"Ond nawr ein bod i gyd wedi cwrdd, dwi ddim yn credu bod yr un deigryn wedi bod, mae wedi bod yn achlysur weddol ddymunol."

Pynciau cysylltiedig