'Rhaid cofio Aberfan a phris y glo'
- Cyhoeddwyd
Y cynghorydd Alun Lenny sy'n esbonio pam ei fod wedi gofyn i Gyngor Sir Gaerfyrddin bleidleisio dros gynnal munud o dawelwch yn ysgolion y sir i gofio am drychineb Aberfan ar 21 Hydref bob blwyddyn.
Mae'r cyfryngau yn hoffi rhoi sylw i ben-blwydd y peth hyn a'r peth arall, a thair blynedd yn ôl fe ddarlledwyd rhaglenni teledu teilwng yn nodi hanner canrif ers trychineb Aberfan. Ond rwy'n teimlo bod angen cofio'r trychineb bob blwyddyn, nid dim ond ar ben-blwydd arbennig.
Dyna pam wnes i ofyn i gynghorwyr Sir Gâr i wahodd ysgolion y sir i gynnal munud o dawelwch ar Hydref 21ain yn flynyddol i gofio'r rhai a fu farw yn Aberfan, a'r miloedd gollodd eu bywydau mewn glofeydd. Munud o dawelwch i gofio pris y glo.
Rydym hefyd yn gwahodd cynghorau ac ysgolion gweddill Cymru i ystyried cynnal coffadwriaeth o'r fath.
Dysgu ein hanes
Rwy'n perthyn i genhedlaeth o blant oedd yn ddigon hen i gofio trychineb Aberfan. Credaf y dylai plant heddiw ddysgu am Aberfan yng nghyd-destun ein hanes diwydiannol, a chael cyfle i uniaethu â'r trychineb trwy funud o dawelwch.
Hyderaf y byddai athrawon yn medru cyfleu'r hanes a llywio'r achlysur mewn modd sensitif.
Y newyddion
Rwy'n cofio dod adre o'r ysgol yn 12 oed a gweld eitemau newyddion am drychineb Aberfan ar y teledu du a gwyn.
Flynyddoedd wedi hynny, bues i'n gweithio fel gohebydd BBC gyda Ken Davies a Tomi Owen, dau ddyn camera oedd wedi ffilmio'r eitemau hynny.
Rheol aur newyddiaduraeth yw peidio fyth ymyrryd yn y stori a chadw'n niwtral. Ond roedd Aberfan yn wahanol.
Tan iddo ddechrau gweithio i'r BBC yn 1963, ro'dd Tomi Owen wedi bod yn ddyn tân yn rhofio glo ar drên stêm - gwaith brwnt a chaled.
'Doedd dim darllediadau teledu byw yn 1966, felly ar ôl gorffen ffilmio am y dydd byddai Tomi yn cydio mewn rhaw a mynd i helpu'r fyddin o lowyr gyda'r gwaith torcalonnus o glirio'r slyri glofaol du a laddodd 144 o blant bach ac oedolion. Yn Aberfan, roedd hi'n amhosib gwylio a pheidio gwneud dim, meddai Tomi.
Pris y glo
Cafodd dros 6,000 o lowyr eu lladd ym mhyllau glo Cymru yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf yn ôl y cofnodion swyddogol - gan gynnwys 439 yn Senghenydd, 266 yng Ngresffordd ger Wrecsam a 40 yn Landshipping ger Hwlffordd pan lifodd Afon Cleddau i mewn i'r pwll.
Yn hanesyddol, prin fod yr un cornel o Gymru heb ei gyffwrdd.
Ac nid yw'r ystadegau yn cynnwys y miloedd di-ri a ddioddefodd am fod llwch y glo ar eu hysgyfaint. Dyna bris y glo, y pris a dalwyd i wneud perchnogion y pyllau a meistri'r gweithfeydd haearn yn ddigon cyfoethog i fedru peintio nenfwd eu ffug-gestyll ym Merthyr a Chaerdydd ag aur.
Dyfodol ein plant
Gwaetha'r modd, nid rhywbeth yn y gorffennol yw pris y glo. Mae'r gorffennol yn dal i fod gyda ni, gan mai llosgi glo a thanwydd ffosil eraill sy'n bennaf gyfrifol am newid hinsawdd.
Mae'r glo a fu'n gymaint rhan o'n hanes ni fel cenedl yn ffactor yn yr heriau byd-eang difrifol bydd ein plant yn gorfod wynebu yn y dyfodol. Fe dalodd plant bach Aberfan y pris eithaf am y glo, ond ofnaf nad yw'r bil wedi'i setlo eto.
Hefyd o ddiddordeb