Carchar i ddyn am ladd ei ffrind ar ôl ei daro i'r llawr
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a laddodd ei ffrind ar ôl ei daro i'r llawr wedi cael ei garcharu am chwe blynedd.
Roedd Jamie Garwood, o Gaerllion ger Casnewydd, wedi pledio'n euog i ddynladdiad wedi iddo drywanu Richard Dean Thompson, 44, ar ôl i'r ddau fod yn yfed.
Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar, fe roddodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke gyfnod trwydded o bedair blynedd i Garwood.
Wrth ddedfrydu Garwood yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd y barnwr ei fod yn "unigolyn byrbwyll" oedd ddim yn ystyried effaith ei weithredoedd ar eraill.
Dim galw ambiwlans am ddwyawr
Clywodd y llys bod Garwood, 33, wedi bod yn yfed gyda grŵp o bobl yn nhŷ Mr Thompson a'i bartner yng Nghasnewydd ar noson 31 Awst 2022.
Roedd rhai ohonynt wedi bod yn cymryd cyffuriau Dosbarth A hefyd, ond dywedodd partner Mr Thompson mai dim ond canabis yr oedd Garwood wedi defnyddio ar y pryd.
Yn ystod y noson fe ddechreuodd un aelod o'r grŵp "daflu pethau bychan tuag at Richard Thompson".
Dywedodd John Hipkin KC ar ran yr erlyniad fod Mr Thompson wedi ymateb drwy daflu tun bychan, wnaeth daro Garwood ar ei ben.
Fe wnaeth Garwood wedyn daro Mr Thompson ar ei en, meddai, a disgynnodd i'r llawr.
Dywedodd un llygad dyst fod Mr Thompson yn ddiymadferth "am sawl munud", ac er i Garwood geisio ei helpu, fe ddirywiodd ei gyflwr yn ystod y noson.
Tua dwyawr wedyn cafodd ambiwlans ei alw, ac fe gyrhaeddodd parafeddygon am tua 00:26, ond roedd Garwood wedi gadael erbyn hynny.
Bu farw Mr Thompson o "anaf difrifol i'r pen" ar 6 Medi yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac fe wnaeth archwiliad post-mortem ganfod anafiadau i ddwy ochr ei ben.
'Risg sylweddol' o aildroseddu
Clywodd y llys fod Garwood wedi ymddangos mewn llys 44 o weithiau yn y gorffennol, a hynny am 79 o droseddau gan gynnwys ymosod.
Mewn datganiad yn y llys dywedodd brawd Richard Thompson, Michael, ei fod yn "berson doniol, hawddgar" oedd yn "boblogaidd iawn" yn lleol.
Wrth amddiffyn, dywedodd David Elias KC mai "camgymeriad" oedd yr ergyd gan Garwood, a'i fod yn "ymateb i rywbeth gafodd ei daflu gan rywun arall" yn hytrach na gweithred oedd wedi ei gynllunio.
"Mae'n amlwg ei fod yn edifar yn fawr," meddai.
Wrth ddedfrydu, dywedodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke ei bod hi'n derbyn problemau iechyd meddwl Garwood a'r ffaith ei fod "wir yn edifar".
Ond ychwanegodd bod "risg sylweddol" o aildroseddu, ac y gallai hynny achosi "niwed corfforol neu seicolegol i eraill".