Ateb y Galw: Meirion Roberts
- Cyhoeddwyd
Meirion Roberts o Lanystumdwy yn Eifionydd sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl cael ei enwebu gan Catrin Fflûr Huws.
Mae Meirion yn Ddarlithydd Gwyddor Bwyd yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth ers pedair blynedd. Cyn hynny roedd o'n gigydd ac yn gogydd ac mae'n dal i fwynhau coginio a chwarae'r bas pan gaiff gyfle.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dwi'n cofio byw ym Mhontcanna yn blentyn ifanc. Fy mlwyddyn i oedd y flwyddyn gyntaf i fynd i Ysgol Treganna ar Radnor Road, pan gafodd ei ailagor fel Ysgol Gymraeg yn 1987. Dwi'n cofio Gareth Wyn a finna yn stwffio pys sych neu lentils i fyny ein trwyna, ac roedd rhaid i Miss Jones eu pysgota nhw allan.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Sawl un, ond mae'r teulu yn hoff iawn o ddisgrifio'r amser pan o'n i wedi mynd i dŷ Nain ym Mhorthmadog. Ro'n i'n sefyll ar y landing a gwaeddi ar Nain i ddod o'r gegin i waelod y grisia, a phan gyrhaeddod hi i ofyn be' oedd yn bod, nes i daflu'n hun i lawr y grisia ati gan waeddi "CATCH!"
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dwi'n eitha cywilyddus o'r adeg pan o'n i'n coleg yng Nghaerdydd ac wedi mynd efo criw o ffrindia i sglefrio. O'n i ond ar y rhew am rhyw 30 eiliad, cyn syrthio yn gam a torri fy ffêr mewn 3 man. Roedd rhaid cael fy nghario oddi ar y rhew o flaen pawb.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Fyw i mi beidio a deud dathlu fy mhriodas 10 mlynedd yn ôl, ond mae mynd i weld AC/DC yn yr O2 yn Llundain yn dod yn ail agos iawn.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Heblaw am adra (Penrhyncoch), fy hoff le ydi ar ffordd Clegir uwch ben Bryn Bras, y ffordd top rhwng Llanrug a Llanberis. Mae Dad yn byw fyny ffor'cw a mae gennai atgofion melys o gerdded i fyny i sledjo yn yr eira, hedfan barcud yn y gwynt a mynd am dro yn yr haul. Mae golygfeydd bendigedig am Yr Wyddfa, dros Brynrefail am Ddeiniolen a nôl draw am Gaernarfon.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Direidus, gonest, anhrefnus.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Ers cael y plant, dwi wedi mynd i grio o hyd, pan yn gwylio ffilms yn enwedig. Mae 'na un ffilm Nadolig o'r enw Klaus sydd ar Netflix sy'n neud i mi grio fel pistyll pan maent yn agor eu anrhegion. Mae 'na ddagrau yn dechra rwan yn teipio'r ateb 'ma.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Pigo fy nhrwyn tra'n gyrru. Sori.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Dwi wrth fy modd efo llyfrau Terry Pratchett. Crefydd, rhyfel, gwleidyddiaeth, chymdeithas, economeg, gwyddoniaeth. Mae pob testun yn cael sylw ffraeth a bythol. Dwi'n darllen I Shall Wear Midnight efo Nesta (y ferch hynaf) ar hyn o bryd, a mae 'na gymeriad o'r enw The Cunning Man, sy'n achosi i bobl i droi yn gas yn erbyn yr hyn sy'n ddiethr. Mae 'na adlais cryf o'r iaith sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio ffoaduriaid yn y newyddion yn ddiweddar. Search hynny, dwi di darllen Catch 22 gan Joseph Heller yn fwy aml na unrhyw lyfr arall, hiwmor tywyll fel bol buwch.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Thatcher, i neud siwr bod hi dal wedi marw.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Nes i brynu'r print yma i Rhian (y wraig) ar ôl i ni fynd trwy gyfnod anodd ar ôl profiad o ddau feichiogrwydd ectopig. Aeth Rhian ati wedyn i godi arian i'r Ectopic Pregnancy Trust (EPT) i hybu ymwybyddiaeth. Roeddem yn lwcus iawn i fedru cael Esyllt fach wedyn, yr haul ar y bryn. Mae'n lun syml ond llawn gobaith sy'n arwyddocâol iawn i ni fel teulu.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Tîm dan 16, CPD Llanystumdwy Most Improved Player of The Year 1999.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Agor a rhannu'r potel wisgi Lagavulin dwi wedi bod yn ei chadw ar gyfer achlysur arbennig, tra'n difaru peidio ei hagor yn gynt. Fel mae Dad yn deud "Dio da i ddim yn y botel!"
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Esyllt y ferch ieuengaf sydd bellach yn 4 oed. Mae hi'n gweld y syndod sydd o'i chwmpas, ac yn sylwi a chraffu ar y petha rhyfedda. Fyswn i'n licio gallu edrych ar y byd drwy lygad plentyn unwaith eto. Dwi wedi mynd yn rhy sinigaidd o lawer wrth fynd yn hŷn.
Hefyd o ddiddordeb: