Ateb y Galw: Marian Brosschot

  • Cyhoeddwyd
Marian Brosschot yn y GaimanFfynhonnell y llun, Marian Brosschot
Disgrifiad o’r llun,

Marian Brosschot yn y Gaiman

Marian Brosschot, ieithydd a thiwtor iaith o Ben Llŷn sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl cael ei henwebu gan yr ieithydd, Ruben Chapela-Orri.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dw i'n cofio smalio mod i'n medru siarad Saesneg wrth chwarae tŷ-bach adra a jyst palabru rwts mewn llais posh i mewn i hen ffôn deilio.

A minnau wedi astudio ieithoedd a rŵan yn gwneud cwrs ôl-radd mewn ieithyddiaeth, mae'r atgof yma yn fwy a mwy diddorol, nid yn unig am mod i'n cofio adeg penodol lle do'n i ddim yn medru siarad Saesneg ond hefyd o beth oedd fy nelwedd i o sut oedd Saesneg yn swnio a lle oedd o'n cael ei siarad!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dw i'n hoff iawn o ddarganfod llefydd newydd yng Nghymru, yn enwedig yn Eryri, a gweld llefydd cyfarwydd o onglau newydd. Es i i ben Moel Eilio am y tro cyntaf ychydig o wythnosau yn ôl. Roedd hi'n hyfryd medru gweld Ynys Môn yn ei chyfanrwydd, castell Caernarfon a Dinas Dinlle, Yr Wyddfa, a lawr am yr Eifl a Phen Llŷn.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Roeddwn i'n byw yn Nhrelew yn yr Ariannin ddwy flynedd yn ôl ac oherwydd Covid doedd dim modd gwneud llawer na theithio i unman.

Roeddwn i'n lwcus fod gen i ddau neu dri o ffrindiau yn y ddinas ac felly treulion ni lawer o nosweithiau yn cael asado, yfed gwin coch a sgwrsio, chwerthin a dawnsio hyd oriau mân y bore. Dw i'n meddwl bod y nosweithiau yma cymaint melysach oherwydd y sylweddoliad o pa mor bwysig ydy cwmni ffrindiau a bod bywyd mor fregus.

Ffynhonnell y llun, Marian Brosschot
Disgrifiad o’r llun,

Marian ym Mhatagonia yn 2020

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Creadigol, meddwl-agored, annibynnol.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Rhywbeth eithaf diweddar a dweud y gwir. Dan ni newydd ddechrau mynd allan i ffilmio cyfweliadau ar y stryd i sianel YouTube o'r enw Easy Welsh (sianel i helpu pobl ddysgu Cymraeg ar y stryd) a mae'n gymaint o hwyl. Mae fy nghyd-ffilmiwr a finnau wedi cael gymaint o sgyrsiau doniol efo pobl ddiddorol, does ond i un ohonon ni ddechrau sôn am y peth a rydan ni'n dechrau chwerthin eto.

Ffynhonnell y llun, Marian Brosschot
Disgrifiad o’r llun,

Marian a'i ffrind Ted yn ffilmio ym Mhwllheli

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Camddealltwriaeth ieithyddol yn yr Ariannin wrth drio egluro fy symptomau Covid. Defnyddiwch congestionada os oes gynnoch chi annwyd draw yno, dim constipada (fel sy'n cael ei ddefnyddio yn Sbaen).

Fues i'n siarad ar y ffôn â sawl nyrs a doctor (yn Sbaeneg) oedd yn meddwl mod i wedi bod yn rhwym am wythnos yn hytrach nag efo annwyd trwm! Wnes i ddim sylwi tan yr wythnos ganlynol be o'n i wedi bod yn ddweud. Does dim rhyfedd nad oedd neb yn fy nghymryd i o ddifri! Mae fy ffrind draw yno wrth ei fodd yn fy atgoffa i o hyn.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Pan wnes i sylweddoli fod y malwod wedi mwrdro'r blodau haul o'n i wedi treulio wythnosau yn eu meithrin yn ofalus cyn eu rhoi allan yn yr ardd yr haf yma. Mae hi wedi bod yn frwydr yma ers hynny. Naw wfft i'r tâp copr.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dechrau llyfr newydd tra dw i dal ar ganol un arall, nes fod gen i dwmpath o lyfrau ar eu hanner. Ar ben hynny dw i'n tueddu i blygu cornel y dudalen yn hytrach na defnyddio bookmark er mawr poen i fy ffrind (sydd wastad yn rhoi bookmarks i mi yn anrheg). Dw i yn edrych ar ôl llyfrau dw i'n eu benthyg, gaddo!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?

Mae albym Battle Studies gan John Mayer yn un sydd wastad yn mynd â fi yn ôl i amser gwych pan o'n i newydd adael y brifysgol ac yn ymweld â'r Iseldiroedd ar ben fy hun. Welais i o'n canu'n fyw yno yng ngŵyl gerddoriaeth Pinkpop ac ers hynny hon ydy'r albym sy'n fy atgoffa i o'r cyfnod. Mae un o'r ychydig albyms dw i'n gwybod pa gân sy'n dod nesa hefyd - arwydd mai ar CD o'n i'n gwrando arni a nid ar shuffle ar Spotify!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Brenin meddwlgarwch: Eckhart Tolle. Sŵn i jyst yn medru gwrando arno fo am hydoedd. A deud y gwir, ga i ddewis dau? Mi fasa siarad efo Brené Brown yn hyfryd. Dw i wrth fy modd efo ei phodcast hi, Dare to Lead, mae hi'n ysbrydoledig.

Ffynhonnell y llun, Marian Brosschot
Disgrifiad o’r llun,

Marian yn cefnogi'r Iseldiroedd gyda'i brodyr yn ystod gemau Euro 2016

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dw i erioed wedi gweld y ffilm Titanic.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dringo mynydd efo llwyth o ffrindiau a gwylio'r sêr (gan obeithio bod hi'n noson glir). Jyst rhywbeth i'n atgoffa ni pa mor fach a dibwys ydy dynoliaeth!

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Dw i wrth fy modd efo'r llun yma. Dyma'r tro cyntaf i mi bac pacio ar ben fy hun bach. Cafodd y llun yma ei dynnu pan gyrhaeddais i'n ôl o fod yn treulio mis yn crwydro o gwmpas Portiwgal yn 2017. Does na ddim byd sy'n rhoi mwy o deimlad o ryddid i rhywun na jyst cario'r pethau angenrheidiol ar eich cefn a chamu allan ar eich pen eich hun.

Ffynhonnell y llun, Marian Brosschot
Disgrifiad o’r llun,

Tro cyntaf Marian yn bac-pacio

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Dw i wedi ailddechrau chwarae pêl-droed yn ddiweddar (am hwyl) felly mi fasai hi'n eitha cŵl bod yn bêl-droediwr proffesiynol am y dydd, jyst i deimlo be ydy medru trin pêl fel'na a sgorio goliau anhygoel. Fasai hi ddim yn ffôl o beth eistedd ar gymaint o arian am y dydd chwaith...

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig