Prawf newydd i gael diagnosis cynt o ganser y prostad
- Cyhoeddwyd
Gallai dynion sydd heb symptomau o ganser y prostad dderbyn diagnosis cynt sy'n achub bywyd gyda phrawf gwaed newydd sy'n cael ei ddatblygu.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn edrych ar waed rhai dynion sydd â'r clefyd er mwyn helpu i ddatblygu'r prawf.
Mae canser y prostad yn effeithio ar un o bob wyth o ddynion yn y DU, ac mae nifer y rhai sy'n cael diagnosis wedi treblu dros y tair blynedd diwethaf.
Yng Nghymru, mae un o bob pump o ddynion sydd â'r clefyd yn derbyn diagnosis yn rhy hwyr - pan nad oes modd gwella. Yn Llundain, mae'r ffigwr hwnnw'n un mewn wyth.
Yn ôl Prostate Cancer UK, mae dynion hŷn, dynion du a dynion sydd â hanes teuluol o'r afiechyd mewn perygl uwch fyth o ddatblygu'r canser.
Nawr mae'r elusen wedi buddsoddi £3m mewn gwahanol brosiectau ar draws y DU i helpu i greu triniaethau newydd.
Gan fod y canser yn asymptomatig i nifer ar y dechrau, y gobaith yw y gallai'r buddsoddiad arwain at brofion mwy effeithiol a diagnosis cynt.
Mae Dr Jason Webber o Brifysgol Abertawe wedi derbyn dros £400,000 ar gyfer ymchwil i greu prawf gwaed newydd.
Bydd y prosiect yn ymchwilio i siwgrau penodol yn llif gwaed dynion â chanser y prostad.
Y gobaith wedyn yw y gellid defnyddio'r data i brofi dynion eraill, gan ganfod risg y claf o ddatblygu'r clefyd, a pha mor debygol yw'r canser o ledaenu.
Pan fydd canser y prostad yn lledaenu y tu hwnt i'r prostad, mae'n golygu nad oes modd gwella.
'Diagnosis cynnar yn allweddol'
Dywedodd Dr Webber y gallai'r prawf newydd helpu i atal yr angen am brofion mwy poenus, fel archwiliadau rhefrol.
Fe ddywedodd: "Nid yw'r siwgrau gwaed rydyn ni'n canolbwyntio arno yr un peth â'r siwgr rydyn ni'n cael mewn bwyd a diodydd. Mae'r siwgrau hyn yn cael eu rhyddhau gan gelloedd o ganser fel pecynnau bach.
"Maen nhw'n cael eu rhyddhau i'r llif gwaed, ac yna'n twyllo ac yn ymosod ar gelloedd iach, gan ledaenu'r canser o amgylch y corff.
"Mae diagnosis cynnar yn allweddol i drin canser y prostad ac mae'n sicr yn un o'r pethau sydd wedi dod yn fwy amlwg dros y blynyddoedd diwethaf."
Dywedodd y gallai hyn fod yn arbennig o fuddiol yng Nghymru, gan fod cyfraddau o ganfod y canser yn gynnar yn is o gymharu â rhannau eraill o'r DU.
"Drwy adnabod y cleifion hynny sydd ag afiechyd ymosodol yn gynnar rydym yn gobeithio y gellir eu targedu gyda'r driniaeth gywir gan ganiatáu triniaeth gyflym," meddai.
'Mae'n ofnadwy'
Yn 2017, yn 56 oed, fe wnaeth Simon Gammon o Sir Fynwy ddarganfod fod ganddo ganser y prostad. Cafodd lawdriniaeth i gael gwared â'r prostad, ac roedd popeth yn ymddangos yn iawn.
Ond, yn 2018, dechreuodd lefelau'r antigen prostad-benodol (PSA) yn ei waed godi. Fe dderbyniodd y newyddion bod ei ganser wedi lledaenu a chafodd ddiagnosis terfynol.
"Rwy'n ceisio bod yn bositif a pheidio â darllen a gwylio popeth ynglŷn â chanser, ond mae'n ofnadwy," meddai.
"Peidiwch â chamddeall fi, mae'r diagnosis yn ddinistriol ac mae'n sicr yn newid eich bywyd. Mae wedi newid fy mywyd i."
Dywedodd y gallai'r prawf newydd annog mwy o ddynion i fynd ati i ofyn am brawf, gan ei fod yn meddwl bod dynion yn aml yn teimlo embaras.
"Mae unrhyw gynnydd o ran diagnosis o ganser y prostad yn beth da," meddai.
"Pe bawn i'n gwybod beth rydw i'n ei wybod nawr byddaf wedi cael fy mhrofi o 50 oed ymlaen. Byddai'r canser wedi cael ei ddal llawer yn gynharach a gallai fy diagnosis wedi bod yn llawer gwell."
Dywedodd Dr Matthew Hobbs, Cyfarwyddwr Ymchwil Prostate Cancer UK: "Bydd creu prawf sy'n helpu dynion i gael diagnosis cynt yn rhoi'r cyfle gorau posibl i ni atal canser y prostad rhag lladd ac i wella bywydau dynion sy'n byw gyda'r clefyd."
'Buddsoddi'n helaeth'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn buddsoddi'n helaeth mewn gwasanaethau canser i wella amseroedd diagnosis a darparu mynediad cyflym i archwiliadau, triniaeth a gofal o ansawdd uchel.
"Mae hyn yn cynnwys £86m ar gyfer cyfleusterau diagnostig a thriniaeth canser newydd.
"O ystyried y bydd gan nifer o achosion o ganser y prostad symptomau sy'n anodd eu canfod, mae'n bwysig bod pobl â phryderon, neu'r rhai sy'n wynebu risg uwch, yn siarad â'u meddyg teulu am gyngor."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2018