Dathlu 20 mlynedd o rasys llwybr heriol wedi strôc sylfaenydd

  • Cyhoeddwyd
Dic Evans
Disgrifiad o’r llun,

Bu Dic Evans yn gapten ar dîm Traws Gwlad Cymru am bum mlynedd

Mae cyfres o rasys llwybr heriol yn y canolbarth yn cael eu cynnal am yr ugeinfed tro eleni.

Lansiwyd Her y Barcud Coch yn 2003 gan Dic Evans, hyfforddwr rhedeg adnabyddus sydd wedi cynrychioli Cymru sawl tro.

Ond am y tro cyntaf erioed dyw Dic - sy'n 76 oed - ddim yn trefnu'r digwyddiad ar ôl dioddef strôc cyn y Nadolig.

Felly, mae aelodau o dîm rhedeg Dic yn Aberystwyth wedi cymryd y cyfrifoldeb o drefnu'r her.

Mae pellter y rasys yn amrywio o 3km i hanner marathon (dros 21km) trwy fryniau Ceredigion.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rasys yn denu rhedwyr o'r safon uchaf i ganolbarth Cymru yn ôl Owain Schiavone

Dywedodd Owain Schiavone, sy'n aelod o'r pwyllgor trefnu, fod Dic eisiau gweld y rasys yn parhau er ei fod wedi gorfod aros yn yr ysbyty.

"Mae'r amgylchiadau'n anodd eleni," meddai, "Basai Dic yn benderfynol o fwrw 'mlaen efo'r ras - ei fabi bach o yw'r ras yma.

"Mae o'n cadw mewn cysylltiad hefo ni yn gyson i wneud yn siŵr ein bod ni ar dop popeth.

"Felly o'n i'n teimlo mai dyma'r peth iawn i wneud a thrwy gael criw ehangach yn helpu eleni 'dan ni'n gobeithio tynnu'r pwysau oddi arno fo a sicrhau bod y ras yn llwyddiant ysgubol unwaith eto.

"Mae lot o bobl wedi cofrestru [i rasio] yn barod, 'dan ni'n annog pobl i gofrestru ymlaen llaw i arbed trafferth ar y dydd, ond mae modd cofrestru ar y dydd hefyd."

Mae'r trefnwyr hefyd yn awyddus i gael help unrhyw un a fyddai'n fodlon stiwardio ar y dydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Dic Evans, sylfaenydd yr her, ddim yn gallu trefnu'r digwyddiad eleni wedi iddo gael strôc

Mae'r strôc wedi effeithio ar ochr chwith corff Dic, ac o fod yn ddyn hynod ffit sydd wedi treulio degawdau yn rhedeg gan gynrychioli Cymru a Phrydain, mae nawr yn defnyddio cadair olwyn ac yn cael ffisiotherapi ar ei goesau.

Dywedodd: "Does neb yn siŵr os y bydd modd llwyr wella, ond dwi'n teimlo fy mod i yn gwella yn ara' deg.

"Mae'n rhaid i bob patient gael patience ondife, mae'n rhaid bod yn amyneddgar, ond dw i yn gobeithio y bydda i, ryw ddydd, 'nôl yng nghwmni hen ffrindiau, pobl sy' wedi rhoi shwt gymaint i fi yn y byd rhedeg.

"Mae'n rhaid bod yn bositif - yr un peth gyda phob ras."

Ychwanegodd Dic ei fod yn gobeithio gallu bod ym Mhontarfynach ar ddiwrnod y sialens ddiwedd Ebrill.

"Mae'r ysbyty wedi addo y gwnawn nhw eu gorau i drio cael fi yna. 'Dwi yn edrych ymlaen at hynny, i weld y bobl sy' wedi cefnogi ni dros y blynyddoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwrs ar hyd bryniau Ceredigion yn un heriol

Mae Her y Barcud Coch yn cynnwys rasys i oedolion ac i bobl o dan 13, 15, a 18 oed.

Cafodd £3,500 ei godi gan y rasys y llynedd ar gyfer apêl Uned Cemotherapi'r ysbyty, ac ers 2003 mae Her y Barcud Coch wedi codi mwy na £20,000.

Eleni, bydd yr arian a godir gan yr her yn cael ei roi i'r uned strôc yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Mae'r elfen elusennol yn rhan bwysig, ond dywedodd Owain Schiavone ei fod hefyd yn ddigwyddiad pwysig i redwyr o bob gallu.

"Dyma'r ras orau o ran safon rhedeg trêl yng Nghymru, mae'n bencampwriaeth Cymru ers sawl blwyddyn, pencampwriaeth Gorllewin Cymru hefyd.

"Mae'n denu'r rhedwyr o'r safon uchaf yng Nghymru ond hefyd yn denu pobl o bant, ac i ddweud y gwir, rhedwr o Loegr oedd enillydd y llynedd."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Nia Teifi Rees yn rhedeg y ras er mwyn diolch i Dic am ei hyfforddi ar hyd y blynyddoedd

Bydd Nia Teifi Rees yn rhedeg y cwrs am y tro cyntaf eleni.

"Y peth lleiaf allwn ni wneud yw rhedeg y ras fel ffordd o dalu Dic yn ôl am hyfforddi ni," meddai.

"Hefyd mae'n sialens i fi'n hunan - dwi ddim yn hoff iawn o rasio trêls felly cawn ni weld shwd aiff e.

"Ond dwi'n edrych ymlaen hefyd achos mae'n ardal mor bert i redeg."

Disgrifiad,

Fideo o 2020: Her bersonol Dic y Rhedwr wedi siom gorfod gohirio sialens

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn 2020 fe wnaeth Dic Evans - a oedd yn 73 ar y pryd - gwblhau her a osododd i'w hun i redeg 1,000 o filltiroedd.

Gorffennodd yr her gyda digwyddiad seremonïol ar bromenâd Aberystwyth.

Roedd yn arfer rhedeg bob dydd am ddegawdau, felly roedd aelodau o'i dîm mewn sioc pan gafodd strôc mor ddifrifol.

Disgrifiad o’r llun,

"Ei ras ef yw hi" - Emma Palfrey

Dywedodd Emma Palfrey fod y newyddion am ei strôc yn "sioc enfawr oherwydd ei fod mor ffit a'r person olaf y byddech yn disgwyl i hyn ddigwydd iddyn nhw".

"Ond, ei ras ef yw hi ac mae am iddi fynd yn ei blaen," meddai.

Dywedodd Owain Schiavone fod Dic yn gobeithio bod allan o'r ysbyty erbyn diwrnod yr her.

"Mae pawb mor gefnogol achos mae cymaint o bobl yn gyfarwydd â Dic, mae Dic yn 'nabod pawb," meddai.

"Rhedeg yw ei fywyd o, ac mae'r ras yma'n rhan ganolog o hynny."

Bydd Her y Barcud Coch yn cael ei chynnal ger pentre' Pontarfynach yng Ngheredigion ddydd Sadwrn 29 Ebrill.

Pynciau cysylltiedig