Technoleg adnabod wyneb am 'waethygu hiliaeth' yn yr heddlu
- Cyhoeddwyd
Fe allai'r defnydd o dechnoleg adnabod wyneb waethygu problemau hiliaeth o fewn yr heddlu, yn ôl ymgyrchwyr hawliau sifil.
Fe fydd Heddlu'r De yn ail-ddechrau defnyddio'r dechnoleg ar ôl i adolygiad annibynnol awgrymu nad yw'n gwahaniaethu ar sail rhyw, oed a hil.
Mae'r dechnoleg yn cael ei defnyddio mewn digwyddiadau torfol i ddod o hyd i bobl y mae'r heddlu'n chwilio amdanynt.
Mae Heddlu'r De'n mynnu eu bod wedi ymrwymo i ddefnydd gofalus o'r dechnoleg, ac yn dweud nad oes unrhyw un wedi eu harestio ar gam o ganlyniad i'w defnydd nhw o'r dechnoleg.
'Chwilio am bobl benodol'
Ond mae mudiad hawliau sifil Liberty yn poeni am effaith y dechnoleg ar ryddid pobl.
"Does dim lle i dechnoleg o'r fath mewn democratiaeth sy'n parchu hawliau," meddai Emmanuelle Andrews o'r mudiad.
Mae Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac ymgyrchydd gwrth-niwclear, yn cytuno.
"Be fasa chi'n ei wneud tasa heddwas yn eich stopio chi ar y stryd ac yn dweud 'dwi isio cofnodi eich olion bysedd chi', achos i bob pwrpas mae hyn yr un peth.
"Un o'r pethe mae hyn yn ei wneud ydy codi ofn a dychryn ar bobl yn ddi-eisiau a dwi'n cyfeirio'n benodol at allu pobl i fynd i ralïau i brotestio, fe allan nhw feddwl ddwywaith am fynd er eu bod nhw eisiau gwneud."
Fe gafodd yr ymchwil gan y Labordy Ffisegol Cenedlaethol ei gomisiynu gan Heddlu'r Met a Heddlu De Cymru ddiwedd 2021 a hynny yn dilyn beirniadaeth ynglŷn a'r dechnoleg.
Prif Gwnstabl Heddlu'r De, Jeremy Vaughan sy'n gyfrifol am y ffordd mae lluoedd heddlu yn defnyddio'r dechnoleg yng Nghymru a Lloegr.
Fe fydd plismon yn gwirio unrhyw luniau a bydd lluniau o bobl dyw'r heddlu ddim am eu holi ddim yn cael eu cadw.
"Mi ydan ni'n chwilio am bobl yn benodol ,'dan ni ddim jyst yn chwilio am unrhyw un. Mae 'na restr o bobl 'dan ni'n chwilio amdanyn nhw ar unrhyw adeg.
"Dwi yn ymwybodol fod pobl yn wyliadwrus o ddefnydd yr heddlu o dechnoleg newydd ond pwrpas y dechnoleg hon yw chwilio am bobl sy'n benderfynol o droseddu."
'Helpu i gadarnhau rhagfarn'
Yn dilyn adroddiad damniol ynglŷn ag Heddlu'r Met a phryder am hiliaeth a chasineb tuag at fenywod a phobl hoyw yn Heddlu Gwent mae ymgyrchwyr yn dweud fod ganddyn nhw hawl i boeni.
"Mae'r dechnoleg hon yn helpu i gadarnhau rhagfarn," meddai Liberty.
"Mae hi'n cael ei defnyddio yn fwy yn erbyn cymunedau o liw.
"Tra bod hiliaeth o fewn yr heddlu dan y chwyddwydr does dim modd cyfiawnhau technoleg fydd yn gwneud pethau'n waeth."
Mae Molara Awen o Gyngor Hil Cymru yn cytuno: "Os y'n ni'n neud newidiadau mawr mae'n bwysig gofyn i bobl ydyn nhw eisiau fe.
"Dy'n ni ddim wedi cael pleidlais, dy'n ni ddim wedi siarad yn y Senedd amdano fe.
"Ni'n gw'bod eu bod nhw wedi cael problemau gyda'r dechnoleg yma. Mae'n bwysig iawn i wybod fod y dechnoleg ddim yn gwahaniaethu ac yn gweithio i bawb."
'Arf bwerus'
Mae Heddlu'r De'n mynnu eu bod wedi ymrwymo i ddefnydd gofalus o'r dechnoleg, ac yn dweud nad oes unrhyw un wedi eu harestio ar gam o ganlyniad i'w defnydd nhw o dechnoleg fyw i adnabod wynebau.
"Mae'r ymchwil yn cadarnhau nad yw'r ffordd ry'n ni'n defnyddio'r dechnoleg yn gwahaniaethu ar sail rhyw, oed a hil," meddai Jeremy Vaughan.
"Mae'n arf pwerus i helpu ni ffeindio pobl sy'n benderfynol o wneud drwg. Mae pobl eisiau i fi ddefnyddio beth bynnag fedra' i, o fewn y gyfraith, i chwilio am bobl ddrwg."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2018
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2017