Cludo pedwar i'r ysbyty yn dilyn rêf ym Margam
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn rêf anghyfreithlon ar stad ddiwydiannol ym Mhort Talbot.
Fe dderbyniodd Heddlu'r Dde adroddiadau am 23:40 nos Sadwrn bod yna ddigwyddiad cerddorol didrwydded yn ardal Ystad Ddiwydiannol Cynffig ym Margam.
Yn ôl y llu, roedd adroddiadau cychwynnol yn awgrymu bod dros 1,000 o bobl a 70 o gerbydau yna.
Doedd dim un o'r o'r bobl a gafodd eu cludo i'r ysbyty wedi eu hanafu'n ddifrifol, yn ôl y gwasanaethau brys.
Fe gadarnhaodd yr heddlu yn hwyr prynhawn Sul bod "nifer fach o gerbydau a phobl" yn dal yn safle'r digwyddiad, ynghyd â'r gwasanaethau brys a phartneriaid lleol sydd wedi cefnogi unigolion "oedd angen help".
'Siomedig'
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Mark Travis: "Rydym yn trafod gyda'r rheiny sydd ar y safle i sicrhau eu bod yn dychwelyd adref yn ddiogel gan barchu trigolion lleol.
"Mae'r digwyddiad nawr yn gwasgaru ac mae'r rhai oedd yna wedi bod yn gadael trwy'r prynhawn."
Ychwanegodd: "Mae'n siomedig, ar un o ddiwrnodau mwyaf prysur y flwyddyn, bod angen symud gymaint o adnoddau o gefnogi cymunedau lleol er mwyn rheoli digwyddiad anghyfreithlon.
"Hoffwn ddiolch y gymuned leol am eu hamynedd a'u cefnogaeth."
Roedd y llu wedi cyhoeddi gorchymyn i ddargyfeirio pobl o'r safle, ac wedi cau rhai ffyrdd.
Mewn neges ar Facebook, roedd yna apêl, am "resymau diogelwch cyhoeddus", i bobl beidio mynd yno "ar droed nac mewn cerbydau".