Ai mêl a dant y llew ydy'r allwedd i achub bywydau?
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Gruffudd Rees fod llawer o gwsmeriaid yn teimlo bod mêl yn helpu eu hiechyd
Fe allai mêl helpu'r ymdrech i ddod o hyd i wrthfiotigau newydd ac achub bywydau yn y dyfodol, yn ôl ymchwil newydd.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn rhybuddio y gallai afiechydon sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau ladd bron i 1.3m o bobl yn Ewrop erbyn 2050.
"Dyma un o'r bygythiadau mwyaf i iechyd, diogelwch bwyd a datblygu byd-eang heddiw," meddai WHO.
Erbyn hyn mae cannoedd o filoedd o bobl yn marw oherwydd heintiau cyffredin gan fod y bacteria sydd yn eu hachosi yn gallu gwrthsefyll triniaeth.
Yng Nghaerdydd mae ymchwilwyr yn edrych ar y posibilrwydd y gallai triniaethau traddodiadol helpu.
Mae tîm yn ysgol fferylliaeth Prifysgol Caerdydd yn ymchwilio i weld a yw mêl yn un ffordd o ddatrys y broblem.

Dywedodd yr Athro Les Baillie y gallwn ddysgu o'n cyndeidiau a fu'n defnyddio mêl i drin clwyfau
Dywedodd yr Athro Les Baillie o'r brifysgol: "Ry'n ni'n mynd yn ôl i weld a allwn ni ddysgu gan ein cyndeidiau.
"Mae mêl yn aml yn cael ei ddefnyddio i drin clwyfau ac mae'n gallu bod yn effeithiol iawn."
Wrth ddadansoddi'r mêl mae modd i wyddonwyr weld wedyn pa blanhigion mae'r gwenyn wedi ymweld â nhw.
Os oes modd darganfod pa blanhigion sy'n cynnwys gwrthfiotig, mae'r gwyddonwyr yn hyderus y gallai hyn arwain at gynhyrchu cyffuriau newydd.
'Rhaid darganfod gwrthfiotigau newydd'
Ar hyn o bryd mae ymchwilwyr yng Nghaerdydd yn edrych ar un planhigyn yn arbennig, sef dant y llew.
Maen nhw'n dweud fod gwerth mawr i'r planhigyn wrth ladd bacteria firysau.

Yn ôl Dr Iwan Palmer, mae'n broblem fawr bod microbau'n esblygu ymwrthedd i wrthfiotigau
Yn ôl Dr Iwan Palmer, ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd, mae taclo problem firysau sydd yn gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau yn her fawr.
Dywedodd: "Mae'r microbau hyn wedi esblygu ymwrthedd i lot o'r gwrthfiotigau ry'n ni'n eu defnyddio o ddydd i ddydd a 'dyn nhw ddim yn effeithiol rhagor.
"Felly mae'n rhaid darganfod gwrthfiotigau newydd.
"Ry'n ni fan hyn yn edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio deunyddiau naturiol, er enghraifft mêl a blodau gwyllt fel dant y llew."

Mae gwyddonwyr wedi darganfod y gall dant y llew gynnwys cemegau all ladd firysau
Nid yw'r syniad o ddefnyddio meddyginiaethau naturiol i drin heintiau yn un newydd.
Mae mêl wedi ei ddefnyddio ers oes yr Eifftiaid i drin clwyfau ac mae sôn am feddygon Myddfai o'r 12fed ganrif yn defnyddio dant y llew i drin defaid ar groen pobl.
"Trwy ddefnyddio technoleg fodern ry'n ni nawr yn gallu gweld fod rhai o'r cemegion wir yn lladd firysau," dywedodd Dr Palmer.
Mêl a maeth blodau gwyllt
Nid yw'r sôn am ddefnyddio triniaethau naturiol traddodiadol i ddelio â heintiau cyfoes yn synnu Gruffudd Rees, perchennog cwmni Gwenyn Gruffudd yn Nyffryn Tywi.
"Ry'n ni yn cynhyrchu mêl o flodau gwyllt, a fi'n credu taw dyna'r mêl gorau allwch chi gael. Yn y blodau gwyllt fel y dant y llew mae'r rhinwedd a'r maeth," dywedodd.
Mae Mr Rees wedi bod yn cadw gwenyn ers dros 12 mlynedd ac mae wedi clywed cwsmeriaid yn sôn yn aml fod y mêl yn helpu eu hiechyd.
"Mae lot o bobl yn dweud fod mêl wedi helpu nhw gyda'u clwyfau, neu efallai gyda chlefyd y gwair.
"'Sdim prawf gyda fi o hyn wrth gwrs ond mae shwd gyment o bobl wedi dweud storïau fel 'na wrtha'i dros y blynydde, mae'n rhaid eu bod nhw'n wir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2021
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2022