Bacteria niweidiol yn gollwng wrth i rewlifoedd doddi

  • Cyhoeddwyd
Dr Arwyn Edwards a Joseph Cook yn cynnal arbrofion ar rewlifoedd i ganfod niferoedd microbauFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Dr Arwyn Edwards a Joseph Cook yn cynnal arbrofion ar rewlifoedd i ganfod niferoedd microbau

Gallai niferoedd enfawr o facteria gael eu ryddhau wrth i rewlifoedd y byd ddadmer o ganlyniad i newid hinsawdd, medd ymchwilwyr.

Mae'n bosib bod germau niweidiol ymysg y microbau allai ollwng i afonydd a llynnoedd.

Dywedodd gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth bod eu hymchwil yn dangos yr angen i weithredu ar frys i atal cynhesu byd-eang.

Roedden nhw wedi astudio dŵr tawdd o wyth rhewlif ar draws Ewrop a Gogledd America, a dau safle ar yr Ynys Las.

Fe ddaethon nhw i'r casgliad y gallai mwy na chan mil tunnell o ficrobau gael eu ryddhau i'r amgylchedd wrth i rewlifoedd y byd doddi dros yr 80 mlynedd nesaf.

I roi hynny mewn rhyw fath o gyd-destun - mae'n nifer tebyg i gyfanswm y celloedd yn holl gyrff y bobl sy'n bodoli ar y blaned ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Dr Ian Stevens yn paratoi samplau i'w dadansoddi

Dywedodd y microbiolegydd Dr Arwyn Edwards fod y gwaith ymchwil yn dangos yn glir am y tro cynta' gymaint o ficrobau sy'n byw ar wyneb rhewlifoedd neu wedi'u cloi oddi mewn.

"Mae nifer y microbau fydd yn cael eu rhyddhau yn dibynnu llawer ar ba mor gyflym mae'r rhewlifoedd yn dadmer a felly faint ry'n ni'n parhau i gynhesu'r blaned," meddai.

Mae amcangyfri'r tîm wedi'i selio ar senario cynhesu "cymhedrol" yr IPCC, panel rhyngwladol o arbenigwyr newid hinsawdd - sef cynnydd rhwng 2-3 gradd yn nhymheredd y blaned ar gyfartaledd erbyn 2100.

Gallai llif cynyddol o feicrobau mewn afonydd, llynnoedd a moroedd gynyddu gael effaith sylweddol ar ansawdd dŵr, eglurodd Dr Edwards.

"Nid just mater o godi lefel y môr yw colli rhewlifoedd y byd - mae'n golygu hefyd bod ni'n chwalu ecosystemau prin dy'n ni ddim yn deall yn iawn," meddai.

'Risg i bobl yn fach'

"Wrth i'r celloedd yna adael y rhewlifoedd, maen nhw'n mynd â'r carbon, y nitrad a'r ffosffad sydd ganddyn nhw ac yn gallu ffrwythloni yr ecosystemau sydd gerllaw'r rhewlifoedd.

"Mae dŵr tawdd o rewlifoedd y byd yn bwysig o ran ecoleg cannoedd ar filoedd o dalgylchau ledled y byd ond hefyd mae 'na oblygiadau i economïau lleol hefyd.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae peth o'r gwaith ymchwil wedi cael ei wneud ar yr Ynys Las

"Ni'n sôn yn aml am ecosystemau eraill sy'n cael eu niweidio gan newid hinsawdd fel cwrel a fforestydd trofannol.

"Ond mae nifer o'r celloedd o facteria [mewn rhewlifoedd] yn gymharol i'r niferoedd sydd mewn pridd coedwigoedd trofannol a'r bioamrywiaeth yn gymharol debyg i'r lefel sydd mewn cwrel.

"Dy'n ni ddim yn gweld hynny achos bod ni'n ystyried rhewlif fel bloc o rew sy'n storio dŵr, ond mae'n ecosystem byw."

Un o brif wersi'r ymchwil yw'r angen am ragor o waith i ddeall y sefyllfa'n well, ychwanegodd Dr Edwards, "yn enwedig o ystyried y gallai rhai o'r microbau fydd yn cael eu ryddhau o grombil rhewlifoedd fod yn bathogenau.

"Mewn gwirionedd mae'r risg i bobl yn debygol o fod yn fach, ond mae angen asesu hynny'n ofalus."

Mae casgliadau'r ymchwilwyr wedi'u cyhoeddi yng nghylchgrawn Nature Communications Earth & Environment y mis yma.