Rygbi: Dynion a merched byddar Cymru yn bencampwyr

  • Cyhoeddwyd
Dyma'r trydydd tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r trydydd tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal

Mae gan Gymru ddau dîm rygbi sy'n bencampwyr byd wedi i dimau saith bob ochr byddar y dynion a'r menywod ennill cystadleuaeth Cwpan y Byd yn yr Ariannin.

Fe enillodd y dynion y gystadleuaeth am y trydydd tro o'r bron ar ôl trechu Awstralia o 20-5 yn y rownd derfynol.

Fe wnaeth y menywod chwalu Lloegr o 32-0, wrth iddyn nhw gyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf.

Ymhlith y sgorwyr i dîm y dynion roedd yr asgellwr Sam Jukes ac wrth siarad â rhaglen y Post Prynhawn yn gynharach dywedodd "ei fod yn brofiad rhagorol".

'Cysgu gyda'r cwpan'

"Mae fe heb setlo mewn eto - dim ond un dydd sydd wedi bod. Fi wedi bod yn cysgu gyda'r cwpan neithiwr - mae'n deimlad gwahanol.

"Ni wedi bod yn anelu i fod yn bencampwyr unwaith eto ond nawr mae'r teimlad bod ni actually wedi 'neud e."

Cyn cyrraedd y rownd derfynol roedd Cymru wedi trechu'r Ariannin a Lloegr.

Ni wnaeth merched Cymru ildio yr un pwynt yn y gystadleuaeth ac wrth gyfeirio at eu llwyddiant dywedodd Mr Jukes: "Mae'r merched wedi bod yn absolutely amazing - ddim wedi ildio yr un pwynt drwy'r gystadleuaeth.

"Fi wedi bod yn gwylio nhw'n ymarfer dros y flwyddyn ddiwethaf ac o'n i ddim yn disgwyl nhw i fynd mas a chwarae fel'na. Maen nhw wedi bod yn rhagorol."

Ychwanegodd Mr Jukes fod y profiad yn un diddorol ynghanol y tywydd cynnes.

"Mae'r tywydd yn dwym mas 'na," meddai.

"O'dd hi'n 30 gradd yn ystod y rownd derfynol - rili poeth.

"Mae pawb wedi bod yn delio gydag achosion gwahanol - ma' diet pawb wedi newid mas fan hyn.

"Fi'n rili hapus bo ni'n dod nôl ac yn gallu dweud ein bod ni'n bencampwyr y byd."

Ariannu'r daith eu hunain

Roedd hi'n ofynnol i'r chwaraewyr dalu am y daith eu hunain ac mae hynny wedi bod yn dipyn o gamp, ychwanegodd Sam Jukes.

"Mae wedi bod yn dipyn o straen i gasglu'r arian - gwerthu tocynnau raffl ac edrych am noddwyr gwahanol - mae'r cyfan wedi bod yn anodd dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Mae pethe wastad yn newid pan mae gennych daith sydd dros 10,000 o filltiroedd i ffwrdd ond mae'r cyfan wedi bod werth e."

Pynciau cysylltiedig