Cyhuddo pedwar person o geisio llofruddio yn Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Crescent RoadFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae presenoldeb yr heddlu wedi bod yn amlwg yn ardal Ffordd Cligant, Y Rhyl, ers y digwyddiad

Mae pedwar o bobl wedi eu cyhuddo o geisio llofruddio yn Y Rhyl yn oriau mân fore Sul.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod person mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty yn dilyn digwyddiad ar Ffordd Cligant ar 9 Ebrill.

Fe ymddangosodd Callum John Parker, 18, Paige Louise Roberts, 18, Sharon Roberts, 37, a bachgen 17 oed yn y llys yn Llandudno fore Mawrth.

Mae'r bachgen 17 oed, sydd heb ei enwi, hefyd wedi ei gyhuddo o fod ag arf yn ei feddiant ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae Callum John Parker a phumed person, Liam Babbs, 24, wedi eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Apêl am wybodaeth

"Dwi'n deall y gallai fod pryderon yn lleol o ystyried presenoldeb yr heddlu yn ardal Ffordd Cligant, Y Rhyl," dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd, Rebecca Hughes.

"Hoffwn sicrhau trigolion nad oes unrhyw beth sy'n awgrymu y gallai fod risg pellach i'r cyhoedd."

Fe wnaeth y llu apelio am unrhyw wybodaeth wrth i'r ymchwiliad barhau, gan annog pobl sy'n byw yn ardal Crescent Road i wirio camerâu eu tai neu ar eu ceir.

Cafodd y pump sydd wedi'u cyhuddo eu cadw yn y ddalfa a byddan nhw'n ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 12 Mai.