Doc Penfro: Ci wedi marw a dyn wedi'i anafu ar ôl ymosodiad ci

  • Cyhoeddwyd
Pennar IsafFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad ar draeth Pennar Isaf yn Noc Penfro

Mae dyn wedi cael anafiadau "sylweddol" i'w law ac mae un o'i gŵn wedi marw yn dilyn ymosodiad gan gi yn Sir Benfro.

Ymosodwyd ar y dyn a'i ddau gi gan gi arall wrth iddo gerdded ar draeth Pennar Isaf yn Noc Penfro am 14:00 ar 5 Ebrill.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd fenyw yn cerdded gyda dau gi.

Maen nhw hefyd yn annog y fenyw i gysylltu er mwyn helpu'r ymchwiliad.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Roedd y fenyw yn gwisgo het bobble, yn ei thridegau canol, roedd ganddi ddau gi a gafodd eu disgrifio fel bulldogs - y naill ar dennyn a'r llall ddim.

"Roedd un o'r cŵn yn llwyd gyda gwyn o amgylch ei drwyn. Roedd y ci ar dennyn o liw tywyllach."

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig