Gêm gyfeillgar: Portiwgal 1-1 Cymru
- Cyhoeddwyd
Roedd foli gelfydd Rachel Rowe yn ddigon i sicrhau canlyniad clodwiw oddi cartref brynhawn Mawrth.
Ddyddiau ar ôl trechu Gogledd Iwerddon o 4-1 roedd Cymru'n wynebu taith i Bortiwgal ar gyfer gêm gyfeillgar arall.
Wrth i dîm Gemma Grainger baratoi ar gyfer eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2025, roedd maint yr her yn amlwg wrth deithio oddi cartref i wynebu tîm sydd ddeg safle'n uwch ar restr detholion Fifa.
Roedd hi'n ddechrau addawol i Gymru wrth iddyn nhw fwynhau llawer o feddiant o flaen torf dda yn Guimaraes.
Gyda'r tîm cartref yn paratoi ar gyfer Cwpan y Byd, fe gymerodd 20 munud iddynt greu cyfle o bwys.
Ond yn ffodus i Gymru, tarodd ymdrech Ana Rute o du allan y cwrt cosbi yn erbyn y trawst.
Funudau yn ddiweddarach roedd tacl berffaith Gemma Evans yn ddigon i rwystro ymdrech Telma Encarncao o ongl beryglus.
Yr adeg yma roedd Portiwgal yn llwyr reoli gyda Chymru'n brwydro i gadw'r sgôr yn gyfartal.
Ond bu'n rhaid i Lucia Alves adael y maes oherwydd anaf wedi hanner awr, gyda'r toriad mewn chwarae yn galluogi Cymru i ail afael yn y gêm.
Gyda hanner amser yn agosáu roedd yn rhaid i olwr Portiwgal, Patricia Morais, fod yn effro i rwystro peniad ar y gôl o groesiad Hannah Cain.
Fe ddoth y gôl gyntaf yn fuan yn yr ail hanner wrth i ergyd Telma Encarncao o du allan y cwrt cosbi guro Clark a darganfod cornel isa'r rhwyd.
Ond gyda 72 munud y cloc fe synnwyd y stadiwm wrth i foli gelfydd Rachel Rowe ddod â Chymru'n gyfartal.
O gic gornel, fe lwyddodd blaenwr Reading i ddarganfod cornel y rhwyd o du allan y cwrt.
Roedd Gemma Evans o bosib yn ffodus i aros ar y maes wedi i'r dyfarnwr benderfynu nad oedd wedi troseddu yn erbyn Manjenje Nogueira Silva.
Ond er i Sophie Ingle weld cerdyn coch hwyr, llwyddodd tîm Gemma Grainger i oroesi chwe munud o amser ychwanegol a sicrhau canlyniad calonogol iawn wrth i'r gwaith paratoi barhau ar gyfer gyrraedd Euro 2025.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2023