Diwydiant bysus 'yn wynebu argyfwng heb sicrwydd ariannol'
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog cwmni bysiau yn y gogledd yn rhybuddio bod y diwydiant bysus yn wynebu argyfwng os na fydd mwy o sicrwydd ariannol i'r dyfodol.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £150m o gyllid brys i helpu'r sector yn ystod y pandemig, a'r arian hwnnw wedi'i ymestyn ddwywaith.
Ond fe fydd y cynllun yn dod i ben ddiwedd Gorffennaf ac mae pryderon am ddyfodol gwasanaethau wedi hynny.
Dywedodd y llywodraeth eu bod yn parhau i gydweithio gyda'r cynghorau a'r cwmnïau bysus.
Un sydd wedi ysgrifennu llythyr yn tynnu sylw at y sefyllfa ydy Iolo Owain Jones, perchennog cwmni bysiau O.R. Jones ar Ynys Môn.
"Fy mhryder mwya' i ydy pobl cefn gwlad, yn enwedig yr ardal 'dan ni'n ei gwasanaethu - de-ddwyrain Ynys Môn a phentrefi fel Niwbwrch, Brynsiencyn, Dwyran a Malltraeth," dywedodd wrth raglen Post Prynhawn.
"Ardaloedd sydd eisoes wedi colli ysgolion, siopau a meddygfa, ella un feddygfa sydd yna i'r ardal a ma' 'na bryder dros y rhai sy'n byw yna yn colli trafnidiaeth gyhoeddus."
'Diwydiant yn dirywio'
Dywedodd Mr Jones ei fod yn derbyn nad oedd modd dibynnu ar gymorth ariannol di-ben-draw a'i fod yn ddiolchgar am yr hyn mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi yn ystod ac ers y pandemig.
Dywedodd i'r diwydiant gael cefnogaeth ariannol fis Mawrth 2020 i barhau i wasanaethu oherwydd bod y niferoedd yr oedd yn cael bod ar y bws ar yr un pryd wedi gostwng yn aruthrol - cyn lleied â 10 ar adegau.
"Roedd hynny yn cael effaith ar ein refeniw," meddai.
"Maen nhw'n dweud bod y niferoedd sy'n defnyddio'r gwasanaethau wedi codi'n ôl i o gwmpas 80%, ond fy nheimlad i ydy bod 'na newid mawr wedi digwydd yn y diwydiant bysiau.
"Tydi'r bobl ddim wedi dod 'nôl. Rhaid meddwl amdanon ni yn gwasanaethu ardal wledig.
"Mae lot o'n teithwyr ni yn deithwyr consesiwn, yn rhai heb geir ac yn dibynnu ar y bysiau a gwasanaeth cyhoeddus.
"Maen nhw wirioneddol angen y gwasanaethau bysiau yma ac os na fydd 'na gefnogaeth dwi'n gweld y diwydiant bysia' yma yn dirywio a rhwydwaith bysiau cefn gwlad yn enwedig yn diodde'."
Gyda mwy o bwyslais ar gael llai o gerbydau ar y ffyrdd a mwy yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae Mr Jones am i'r diwydiant gael mwy o gefnogaeth.
"Dwi'n teimlo bod angen y gefnogaeth oherwydd bod 'na ostyngiad yn nifer y teithwyr.
"Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar y targed sero net, 45% o drafnidiaeth yn un cyhoeddus, a dwi'n meddwl bod angen i'r llywodraeth weithio efo ni i wneud yn siŵr bod y rhwydwaith yn aros."
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd ganddyn nhw unrhyw beth i'w ychwanegu at eu sylw blaenorol, sef eu bod yn parhau i gydweithio gyda'r cynghorau a'r cwmnïau bysus i sicrhau cymaint o arian a phosib ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol nesaf.
'Methu cario 'mlaen'
Ond yn ôl Mr Jones, mae angen mwy o sicrwydd.
"Yn bendant fedra' i ddim cario 'mlaen efo'r gwasanaeth os dwi ddim yn cael gwybod 'wan be' fydd y sefyllfa mewn tri mis o ran cyllid ac mewn tri mis 'sa'n dod i ben?
"Yn bendant, dwi'n pryderu yn fawr y gallai'r cwmni a chwmnïau eraill wynebu trafferthion heb fod hyn yn cael ei ddatrys, ac os na fydd 'na gymorth pendant mi fydd 20-25% o wasanaethau yn gorffen."
Ychwanegodd y llywodraeth bod timau rhanbarthol wedi'u sefydlu i ddelio ag unrhyw faterion rhwydwaith allai godi o'r newid i'r drefn ariannu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2023