CLlLC: 'Gallai toriadau i wasanaethau bws fod yn ddinistriol'

  • Cyhoeddwyd
Menyw yn camu ymlaen i fwsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynllun Argyfwng Bysiau wedi bod yn cefnogi cwmnïau yn ystod y pandemig

Gallai toriadau i wasanaethau bysiau fod yn "ddinistriol" i'r rhai sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, medd llythyr sydd wedi cael ei arwyddo gan ddau arweinydd cyngor o'r Blaid Lafur.

Mae'r llythyr a ysgrifennwyd gan Andrew Morgan a Rob Stewart, ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynnwys rhestr hir o bryderon ynglŷn â pholisi trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.

Daw'r toriadau wrth i'r Cynllun Argyfwng Bysiau, a gyflwynwyd oherwydd Covid, ddod i ben ym mis Mehefin.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod gwneud sylwadau ar "y dogfennau" sydd wedi cael eu gweld yn answyddogol.

Roedd y llythyr a gafodd ei ysgrifennu i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn lleisio pryderon am yr adolygiad ffyrdd diweddar sy'n atal cynlluniau i adeiladu ffyrdd newydd.

Roedd yr adolygiad hefyd wedi cyflwyno cynlluniau am derfynau cyflymder 20mya mewn ardaloedd trefol a dirwyon am barcio ar balmentydd.

Mae'r llythyr hefyd wedi beirniadu "tôn" y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, mewn cyfarfodydd ynglŷn â'r mater.

Galw am drafnidiaeth gyhoeddus i bawb

Mr Morgan, arweinydd Llafur Rhondda Cynon Taf yw arweinydd CLlLC, a Mr Stewart, arweinydd Llafur cyngor Abertawe yw dirprwy arweinydd y cyngor trawsbleidiol sy'n cynrychioli'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Dywed y llythyr bod yr holl arweinwyr cynghorau eisiau cyfarfod "ar frys" gyda Mark Drakeford, gan ychwanegu: "Gallai colli gwasanaethau bysiau fod yn ddinistriol i'r rhai sy'n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan effeithio ar eu lles trwy gyfyngu ar fynediad i wasanaethau addysg, economaidd, iechyd a hamdden a'u rhwystro rhag gweld teulu a chymdeithasu."

Maen nhw'n cyhuddo'r llywodraeth o "roi'r cart o flaen y ceffyl" ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, ac yn galw am wneud y cynllun argyfwng yn barhaol er mwyn gwarchod gwasanaethau.

"Tra bod niferoedd teithwyr yn parhau yn is wedi Covid, fyddan nhw fyth yn ailddefnyddio gwasanaethau os ydyn nhw'n cael eu torri ar draws Cymru," ysgrifennodd arweinwyr CLlLC.

Dywedodd llefarydd llywodraeth leol Plaid Cymru, Llyr Gruffydd: "Yng nghanol unrhyw gynllun i sicrhau dyfodol gwyrddach i Gymru mae'n rhaid cael system drafnidiaeth gyhoeddus well sydd ar gael i bawb."

Disgrifiad o’r llun,

Andrew Morgan yw un o'r ddau arweinydd a arwyddodd y llythyr

Mae arweinwyr cynghorau gwledig yn pryderu y gallai mwy o ardaloedd fod heb wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus o ganlyniad i gynlluniau newydd y llywodraeth.

Noda'r llythyr: "Mae'n ymddangos bod ymdrechion i ddenu busnesau i ardaloedd gwledig er mwyn creu ffynonellau lleol o gyflogaeth a lleihau'r angen i deithio mewn perygl os yw gwelliannau priffyrdd hanfodol yn cael eu hatal i bob pwrpas ac os nad oes opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael."

Er bod y cyfnodau clo a'r cyfyngiadau oherwydd y pandemig wedi dod i ben, mae cwmnïau bysiau yn parhau i ddibynnu ar gymorth ariannol oherwydd nid yw niferoedd teithwyr wedi dychwelyd i'r un lefelau â chyn y pandemig ac mae'r Cynllun Argyfwng Bysiau wedi cael ei ymestyn am dri mis hyd at Fehefin.

Ddydd Mercher dywedodd Mr Waters wrth y Senedd fod y llywodraeth yn ceisio dod o hyd i ffordd o lenwi'r bwlch rhwng diwedd y cynllun brys a chynlluniau i ddiwygio rheoliad bysiau.

"Nid yw'r arian yno i gynnal yr holl wasanaethau presennol," dywedodd.

Ychwanegodd: "Yn wyneb cyllideb cyni barhaus gan lywodraeth y DU nid oes gennym ni'r adnoddau i barhau i ariannu'r cymhorthdal argyfwng ar yr un gyfradd."

Diffyg trafodaeth gyda chymunedau

Mae'n ymddangos hefyd fod llythyr y CLlLC yn gwrthddweud honiadau gan gadeirydd yr adolygiad ffyrdd, Lynn Sloman sef bod "ymgynghori sylweddol" wedi bod.

Dywedodd yr arweinwyr yn y llythyr mai "cyswllt cyfyngedig iawn" sydd wedi bod gydag arweinwyr cynghorau, a hynny dim ond ar ôl i'r adolygiad ddod i ben.

"Ni chafodd y cymunedau lleol a fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniadau unrhyw gyfle i rannu eu profiadau," medd CLlLC.

Dywedodd arweinwyr CLlLC fod cynghorau yn cael trafferth yn y cyfamser gyda'r "niferoedd enfawr o broblemau sy'n ymwneud â thrafnidiaeth".

Yn ôl y CLlLC byddai'r cynlluniau ar gyfer cyfyngu cyflymder o 20mya yn "ymestyn amseroedd rhai teithiau ysgol" ac yn ychwanegu at gostau y rhai sy'n cludo plant i'r ysgol.

"Gan ystyried popeth, mae un arweinydd wedi disgrifio'r sefyllfa fel 'storm berffaith' i gymunedau," medd y llythyr.

Gan gyfeirio at Mr Waters, ychwanegwyd: "Tra ein bod yn ddiolchgar i'r dirprwy weinidog am ei barodrwydd i gysylltu gydag arweinwyr ac aelodau'r cabinet trafnidiaeth am y materion yma, mae aelodau yn bryderus am natur y ddadl a thôn y cyfarfodydd.

"Mae arweinwyr wedi pwysleisio pwysigrwydd parchusrwydd yn ein trafodaethau."

Mae'r llythyr yn dweud bod y polisïau presennol "o fwriad da ac i'w canmol ond bod gwell ffordd o weithredu".

"Teimlad cyffredinol arweinwyr yw eu bod wedi cael eu rhoi i gynghorau yn lle eu datblygu gyda ni."