Cyhuddo dyn o lofruddio dyn arall, 61, yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Orchard CourtFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i adeilad Orchard Court am 12:45 ddydd Sul

Mae dyn 38 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 61 oed yn Abertawe.

Cafodd yr heddlu eu galw i adeilad Orchard Court ar New Orchard Street yng nghanol y ddinas am 12:45 ddydd Sul, ble cafodd corff David Green ei ddarganfod.

Fe gafodd Paul Jenkins o Abertawe ei arestio wedi'r digwyddiad, ac mae bellach wedi cael ei gyhuddo o lofruddio. Mae'n parhau yn y ddalfa.

Mae teulu Mr Green yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd y swyddog sy'n arwain yr ymchwiliad, y Ditectif Brif Arolygydd Paul Raikes: "Tra bod dyn wedi cael ei gyhuddo ac nid ydym yn edrych am unrhyw un arall yn ymwneud â'r farwolaeth, mae ein hymholiadau'n parhau, ac rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth allai ein helpu i gysylltu â ni."

Pynciau cysylltiedig