Galw am chwalu'r tabŵ ynghlwm â thrafod y mislif
- Cyhoeddwyd
![Tilly Fenton](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1565E/production/_129364678_molly3.jpg)
Yn ôl ddwy chwaer sefydlodd ymgyrch 'Love Your Period', mae angen gwell addysg am y misglwyf
Mae cywilydd a diffyg dealltwriaeth am y mislif yn niweidiol i les ac iechyd meddwl menywod, yn ôl ymgyrchwyr.
Mae dwy chwaer o Gaerdydd, a sefydlodd ymgyrch Love Your Period, yn dadlau bod angen gwneud mwy i chwalu'r tabŵ sydd ynghlwm â'r mislif i fenywod ifanc yng Nghymru.
Ac mae ymgyrchwr arall o ardal Pont-y-pŵl wedi creu cwrs cefnogaeth arbennig, ar ôl i'w symptomau mislif gael eu drysu gydag iselder.
Dywed Llywodraeth Cymru fod lles y mislif a dysgu am y cylchred mislif yn orfodol o fewn y cwricwlwm addysg newydd.
'Anghyfiawnder'
Yn ôl Kate Shepherd Cohen, o Bont-y-pŵl, roedd hi ar fin cymryd tabledi gwrth-iselder cyn iddi sylweddoli bod ei theimladau ynghlwm â'i chylchred.
Dywedodd bod dysgu i ddeall ei chylchred mislif pan yn 35 oed wedi golygu nad yw hi bellach yn dioddef cymaint.
![Kate Shepherd Cohen](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/C5D6/production/_129364605_kate.jpg)
Gwnaeth gwell dealltwriaeth o'i mislif helpu Kate Shepherd Cohen i ddygymod â'i symptomau'n well
"Darganfyddais bod deall ar ba ddiwrnod oeddwn i yn llwyr newid fy mherthynas gyda fy nghylchred mislif," meddai.
"Ac o newid fy mherthynas gyda fy nghylchred mislif, fe wellodd y dioddef mislif yn llwyr."
Dywedodd ei bod yn teimlo cywilydd nad oedd hi wedi gwneud y cysylltiad yn gynt, a gwnaeth hyn iddi deimlo "anghyfiawnder" nad oedd menywod eraill hefyd yn ymwybodol.
Ni chafodd Kate gynnig unrhyw ateb arall heblaw am dabledi gwrth-iselder chwaith, fel ffordd o ddelio gyda'r effaith roedd ei symptomau yn ei gael arni.
Mae hi bellach wedi dylunio cwrs, sydd ar gael drwy ragnodi cymdeithasol, i helpu eraill i ddeall eu cylchred mislif yn well.
Mae rhagnodi cymdeithasol yn ffordd o gyfeirio pobl at gefnogaeth yn y gymuned neu weithgareddau er mwyn rheoli eu hiechyd a'u lles.
Mae dysgu am ei phatrymau o fis i fis wedi helpu Kate i ddygymod â'i symptomau'n well.
"Dwi ddim yn cynllunio bellach o gwmpas mis calendr arferol. Dwi'n cynllunio o gwmpas fy nghylchred mislif," meddai.
![Cynnyrch mislif](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/24D2/production/_129362490_mislif.jpg)
Mae hefyd wedi effeithio ar y ffordd mae hi'n ystyried y mislif.
"Mae wir wedi fy helpu i ddeall y gwahaniaeth rhwng poen a dioddef. Does dim modd tynnu'r boen bob tro. Mae fy mislif i'n boenus.
"Ond roeddwn i'n ychwanegu haenau o ddioddef i'r symptomau corfforol. 'O, dwi ddim yn fam dda iawn ar hyn o bryd, fedra'i ddim gwneud yr hyn dwi eisiau ei wneud'.
"Ond rywsut, mae deall hwn fel canllaw, dwi wedi fy mharatoi pan mae'r amser yn dod o gwmpas.
"Dwi wedi newid fy nyddiadur o'i gwmpas, a dwi'n gallu peidio â bod yn rhy galed ar fi fy hun."
Angen 'normaleiddio sgyrsiau am y mislif'
Yn ôl un o sylfaenwyr ymgyrch Love Your Period, dydy merched ddim yn cael eu paratoi'n ddigonol ar gyfer pan fydd y mislif yn dechrau.
Dywedodd Molly Fenton bod y cywilydd sydd ynghlwm â'r pwnc yn "gallu cael effaith emosiynol, corfforol a meddyliol".
![Molly Fenton](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/113F6/production/_129364607_molly5.jpg)
Enillodd Molly Fenton un o wobrau Dewi Sant yn 2021 am ei gwaith yn trafod mislif
"Mae addysg a thrafod yn mynd law yn llaw," meddai. "Fe elli di ddysgu rhywun am y wyddoniaeth a'r bioleg, ond does neb yn dweud wrthat ti bod poen y mislif weithiau'n wael…
"Mae'n aml yn rhywbeth hoffem ni y buasai'n rhieni wedi dweud wrthon ni - ond dyw e ddim yn cael ei drafod ym mhob teulu chwaith."
Fe ddechreuodd y ferch 20 oed o Gaerdydd yr ymgyrch pan oedd hi'n dal yn yr ysgol.
Mae hi bellach yn cynorthwyo cynllun gweithredu penodol ar y mislif, dolen allanol, a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror.
![Tilly Fenton](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/77B6/production/_129364603_tilly.jpg)
"Roeddem ni eisiau normaleiddio sgyrsiau am y mislif," dywedodd Tilly
Mae Molly a'i chwaer Tilly, sy'n 16 oed, bellach wedi sefydlu cynllun sgwrsio gyda phlant oedran cynradd.
"Roeddem ni eisiau normaleiddio sgyrsiau am y mislif, a'u gwneud nhw'n fwy cyffyrddus, yn enwedig pan maen nhw'n iau," meddai Tilly.
"Rwy'n gobeithio eu bod nhw'n gallu teimlo fel pe baen nhw'n gallu gofyn am gynnyrch [mislif] ac am help - mae'r stigma yn dal yno, ond gobeithio y gallwn ni leihau hynny."
"Yn yr ysgol, rwy'n cofio cael fy nangos tair gwaith sut i ddefnyddio condom, ond chês i fyth wybod sut i ddefnyddio tampon, neu am [ffyrdd] atal-cenhedlu i fenywod," meddai Molly.
"Os yw rhai ohonom ni'n gorfod gweiddi am y peth i godi ymwybyddiaeth, a gwneud e'n normal, yna dyna beth wnewn ni.
"Ond os ydyn ni'n cael gwell dealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd gyda'n cyrff, fe allen ni gael gwell dealltwriaeth a diagnosis o bethau fel endometriosis a PMDD."
Buddsoddi £500,000
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae lles y mislif a dysgu am y cylchred mislif yn orfodol o fewn y cwricwlwm newydd i Gymru.
"Mae hyn yn cynnwys dysgu am ble i gael rhagor o wybodaeth a chymorth.
"Mae'n bwysig nad 'gwers untro' yn unig yw dysgu am lesiant mislif, a dyna pam mae'r cod Addysg Rhyw a Pherthnasedd (RSE) yn nodi y dylid ei addysgu dros amser wrth i blant dyfu.
"Rydym wedi buddsoddi £500,000 pellach mewn dysgu proffesiynol i gefnogi staff gyda gofynion y cwricwlwm newydd, gan gynnwys cefnogaeth benodol i ysgolion i gyflwyno RSE."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2022