Porth Tywyn: Achub dau berson ar ôl i gar ddisgyn i mewn i harbwr

  • Cyhoeddwyd
Roedd y car yn dal i fod yn yr harbwr brynhawn Gwener
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y car yn dal i fod yn yr harbwr brynhawn Gwener

Cafodd dau o bobl eu hachub wedi i gar ddisgyn i mewn i harbwr Porth Tywyn yn Sir Gâr nos Iau.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad am 20:45, a bod y gwasanaeth tân ac achub, parafeddygon a gwylwyr y glannau wedi mynychu hefyd.

Yn ôl y gwasanaeth tân roedd y cerbyd wedi disgyn rhyw bum metr i mewn i'r harbwr, gyda dau berson yn y car.

Roedd y llanw allan ar y pryd, ac roedd y cerbyd yn dal yn sownd yn y mwd brynhawn Gwener.

Cafodd y ddau berson eu helpu o'r car a'u tynnu o'r harbwr gydag ysgol, a'u gweld gan barafeddygon.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Gaerfyrddin ei bod hi'n "ymddangos bod car wedi'i yrru'n ddamweiniol i mewn i'r prif ddoc".

"Rydym wedi cael gwybod nad oes unrhyw un wedi'i anafu'n ddifrifol," meddai.

"Rydym yn trafod â'r heddlu, gweithredwr yr harbwr, ac asiantaethau allweddol eraill i sicrhau y gall y perchennog drefnu i'r cerbyd dan sylw gael ei symud yn ddiogel, ac i sicrhau bod ardal ehangach yr harbwr yn ddiogel i ddefnyddwyr."

Pynciau cysylltiedig