Cynyddu grant i helpu pobl ifanc â chostau addysg

  • Cyhoeddwyd
Merch yn yr ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r lwfans i helpu myfyrwyr o aelwydydd incwm isel gyda chostau fel trafnidiaeth neu fwyd

Mae grant i helpu pobl ifanc 16 i 18 oed gyda chostau astudio mewn chweched dosbarth neu goleg yn cynyddu o £30 i £40 yr wythnos.

Daw'r penderfyniad yn dilyn galwadau i gynyddu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn sgil yr argyfwng costau byw.

Cyn hyn doedd y lwfans heb ei godi ers bron i 20 mlynedd.

Nod y taliadau ydy helpu myfyrwyr o aelwydydd incwm isel gyda chostau fel trafnidiaeth neu fwyd, ac yn ôl y Gweinidog Addysg mae'r cynnydd yn ymateb i'r straen ariannol ychwanegol dros y misoedd diwethaf.

Ynghyd â'r £10 o gynnydd dywedodd Jeremy Miles y bydd yna hefyd adolygiad cynhwysfawr o'r cynllun.

'Disgyblion yn wynebu storm berffaith'

Er iddynt groesawu'r cynnydd, dywedodd Undeb y Myfyrwyr bod mwy angen ei wneud er mwyn ateb y costau cynyddol mae pobl ifanc yn eu hwynebu er mwyn cael mynediad at addysg.

Dywedodd llywydd Undeb y Myfyrwyr Cymru, Orla Tarn, eu bod yn falch fod y llywodraeth wedi cymryd camau i atal pobl ifanc rhag cael eu "prisio allan o addysg", ond rhybuddiodd bod mwy o waith i'w wneud.

"Mae llawer o waith yn dal i'w wneud i fynd i'r afael â'r argyfwng costau dysgu," meddai.

"Mae myfyrwyr ledled Cymru yn wynebu cynnydd mewn rhent, biliau uwch, prisiau bwyd enfawr, a chostau trafnidiaeth sy'n gorfodi dysgwyr i ddewis rhwng mynychu dosbarthiadau a thalu am fwyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y swm newydd o £40 yr wythnos ar gael ar ddechrau tymor yr haf

Mae tua 16,000 o bobl ifanc yng Nghymru yn derbyn y lwfans ar hyn o bryd.

Mae pobl ifanc sy'n mynd ymlaen i'r chweched dosbarth neu goleg yn gymwys am y lwfans os ydy incwm y cartref yn llai na £20,817 pan mai nhw yw'r unig berson ifanc yn yr aelwyd, neu £23,077 os oes mwy nag un person ifanc.

Bydd y swm newydd o £40 yr wythnos ar gael i ddisgyblion ar ddechrau tymor yr haf.

'Cael gwared ar rwystrau i addysg'

Dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles y bydd cynnydd i'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yn helpu disgyblion gyda'r "realiti o'r argyfwng costau byw".

Disgrifiad o’r llun,

Jeremy Miles: "Bydd y cynnydd yma yn darparu cymorth ychwanegol i gael gwared ar y rhwystrau i addysg"

"Rydym yn gwerthfawrogi nad yw cyfradd y Lwfans Cynhaliaeth Addysg wedi cynyddu ers peth amser ac, yn ystod yr argyfwng costau byw presennol, rydym yn deall bod pobl ifanc hefyd yn teimlo'r straen ariannol," meddai.

"Tra ydym yn gweithio i gynnal adolygiad annibynnol o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, bydd y codiad hwn yn y taliad yn darparu cymorth ychwanegol i gael gwared ar rwystrau i ddysgu."

Ychwanegodd y bydd y cynnydd mewn lle ar gyfer y ddwy flwyddyn academaidd nesaf tra bod yr adolygiad yn cael ei gynnal, a bydd hefyd cyllid i helpu disgyblion o aelwydydd incwm isel i apelio canlyniadau arholiadau yn haf 2023.