Costau byw: Rhybudd am fyfyrwyr yn 'syrthio i dlodi'

  • Cyhoeddwyd
Lois, Iwan a Nansi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lois, Iwan a Nansi yn byw ac yn astudio yn y brifddinas

Mae 'na rybudd y gall nifer o fyfyrwyr "syrthio i dlodi'r Hydref hwn" yn sgil yr argyfwng costau byw.

Dywedodd Undeb Myfyrwyr NUS Cymru wrth Newyddion S4C bod myfyrwyr wedi "cyrraedd pen eu tennyn".

Maen nhw'n galw am "gymorth ar unwaith" gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y llywodraeth mai Cymru sy'n darparu'r pecyn mwyaf hael i helpu gyda chostau byw yn y DU.

Yn ôl tri myfyriwr sy'n byw ac yn astudio yn y brifddinas, mae'r misoedd sydd i ddod yn peri pryder.

"Pan o'n ni'n chwilio am gwmnïau ynni i fynd gyda na'thon nhw roi quote i ni o ryw £400 y mis ac ma' hynna jyst lot yn ormod," meddai Lois Campbell, 20, sy'n astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Ti'n sylwi pan ti'n mynd i siopa yn enwedig y siopau sydd i fod yn llai drud ac yn y blaen, ti'n sylwi ar gynnydd bach ond wedyn pan ti'n ychwanegu popeth at ei gilydd mae'n gynnydd eithaf sylweddol yn y pen draw," meddai.

'Sgwrs wahanol ac anodd'

Fel nifer helaeth o fyfyrwyr eraill, mae'r tri wedi symud allan o lety'r brifysgol ers ei blwyddyn gyntaf ac yn cyd-fyw mewn tŷ.

Fe benderfynon nhw fuddsoddi mewn smart meter i gadw cofnod ar faint o egni oedd y tri yn ei ddefnyddio er mwyn lleihau ar y bil ynni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae symud o lety myfyrwyr i dŷ wedi bod yn wahaniaeth mawr yn ariannol, yn ôl Iwan

"Mae'n wahanol mynd o'r flwyddyn gyntaf lle wyt ti mewn llety a ti ddim yn gorfod meddwl am y biliau a symud i dŷ efo pobl falla' doeddet ti ddim yn byw efo nhw yn y flwyddyn gyntaf chwaith," meddai Iwan Kellett, 20, sy'n astudio Cemeg.

"Mae'n mynd i fod yn sgwrs wahanol ac anodd, ond mae'n rhywbeth mae'n rhaid i chi wneud."

'Llyfrau academaidd yn ddrud'

Yn ôl Nansi Eccot - sy'n 20 oed ac sy'n astudio'r Gyfraith a'r Gymraeg - mae costau llyfrau ar gyfer ei chwrs yn "aruthrol" ac yn ychwanegu at y straen ariannol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nansi'n dweud bod llyfrau academaidd yn ddrud i'w prynu hefyd sy'n ychwanegu at ei phryderon

"Talais i £43 y diwrnod o'r blaen am lyfr," meddai.

"Llynedd o'n nhw tua £35 sydd dal yn aruthrol o bris am lyfr yn enwedig gan bo' ni ond yn defnyddio fe am un modiwl ac am un flwyddyn."

Yn ôl Orla Tarn, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymru (NUS) mae angen cymorth ar frys gan y llywodraeth gyda rhybudd bod nifer eisoes wedi "cyrraedd pen eu tennyn".

Fe ychwanegodd: "Unwaith yn rhagor mae myfyrwyr wedi cwympo drwy'r rhwyd diogelwch, a heb ymyrraeth gan lywodraeth, dyw cyllido ddim ddigon i atal nifer o fyfyrwyr rhag syrthio i dlodi'r Hydref hwn."

'Newid go iawn'

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "ddylai costau byw ddim fod yn rhwystr i astudio yn y brifysgol a dyna pam mai Cymru sy'n darparu'r pecyn mwyaf hael i helpu gyda chostau byw yn y DU.

"Eleni ry'n ni wedi ymrwymo i wario mwy na £1.6 biliwn ar raglenni sy'n targedu'r argyfwng costau byw ac sy'n rhoi arian nôl ym mhocedi pobl.

"Ry ni'n defnyddio popeth o fewn ein gallu i helpu pobl drwy'r argyfwng, ond rydym am wneud newid go iawn drwy'r argyfwng digynsail yma, mae angen i Lywodraeth y DU flaenoriaethu'r argyfwng costau byw a'r help i bobl."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod £400,000 o'r cartrefi mwyaf bregus yng Nghymru yn cael £1,200 mewn cymorth costau byw ychwanegol ganddyn nhw eleni.

Hefyd fe fyddan nhw'n rhoi £18,000 i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn, dros y tair blynedd nesaf.