Gweithwyr Llywodraeth Cymru i streicio dros gyflogau

  • Cyhoeddwyd
Llywodraeth CymruFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd aelodau o'r undeb Prospect yn cerdded allan ar 11 Mai a 7 Mehefin

Mae staff Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n streicio ym misoedd Mai a Mehefin yn sgil anghydfod dros gyflogau.

Bydd aelodau o undeb Prospect yn gweithredu ar 11 Mai a 7 Mehefin ar ôl gwrthod cytundebau arfaethedig a oedd yn cynnig codiad cyflog o 4%.

Dywed yr undeb fod y cytundeb presennol yn gwaethygu safonau byw wrth i chwyddiant barhau i fod dros 10%.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cais am sylw.

"Gyda chalon drom rydym yn cyhoeddi rhagor o weithredu diwydiannol yng Nghymru - does dim dewis arall gan ein haelodau," meddai Daniel Maney, swyddog negodi'r undeb yng Nghymru.

"Ar ôl dros ddegawd o doriadau cyflog mewn termau real, mae'r argyfwng costau byw wedi gwthio ein haelodau dros y dibyn.

"Ar ôl gweithio'n ddiflino drwy'r pandemig, tydi ond yn deg eu bod yn cael eu gwobrwyo yn unol â'u cydweithwyr ym meysydd addysg a iechyd," ychwanegodd.

Daw'r cyhoeddiad wedi'r newyddion y bydd gweision sifil yn Lloegr yn gweithredu ar 10 Mai a 7 Mehefin.

Pynciau cysylltiedig