Gwrthod cais i ymestyn Rheilffordd Llyn Tegid

  • Cyhoeddwyd
Trên stêm Rheilffordd Llyn Tegid
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros £1.4m wedi ei godi ar gyfer y cynllun i ymestyn y lein

Mae pwyllgor cynllunio wedi gwrthod cynnig i ymestyn Rheilffordd Llyn Tegid i ganol Y Bala.

Ar hyn o bryd, mae'r trên stêm yn dod i derfyn tua 1km o'r dref, ac mae'r cwmni eisiau codi gorsaf newydd yn agos i'r stryd fawr.

Roedd swyddogion Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, er yn cytuno ag egwyddor estyn y lein, wedi argymell gwrthod y cais - yn rhannol oherwydd effaith mwy o ymwelwyr ar lefelau ffosffad Afon Dyfrdwy.

Ond maen nhw'n awgrymu bod potensial i'r datblygiad gael ei gymeradwyo yn y dyfodol os yw'r cwmni'n darparu'r holl wybodaeth angenrheidiol.

Mae dros £1.4m wedi ei godi ar gyfer y cynllun i ymestyn y lein, sydd wedi ennyn cefnogaeth llawer o bobl yr ardal.

Wrth annerch y pwyllgor, dywedodd cadeirydd ymddiriedolaeth y rheilffordd, Julian Birley, ei fod yn "brosiect cymunedol unigryw" oedd wedi cymryd naw mlynedd yr hyn yw e ar hyn o bryd.

Awgrymodd bod rheilffyrdd treftadaeth "yn helpu cynnal economïau lleol, tra'n diogelu pwysigrwydd treftadaeth ddiwydiannol yr ardal".

Dywedodd y byddai'r estyniad yn lleihau problemau parcio yn Llanuwchllyn, ac yn dod â manteision i fusnesau Y Bala ei hun.

Yn ôl y rheilffordd mae nifer y bobl sy'n teithio ar y trên wedi codi 70% yn y naw mlynedd ddiwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa fel ag y mae yn creu trafferthion traffig yn Llanuwchllyn

Mewn adroddiad i gynghorwyr, fe nododd swyddogion y Parc Cenedlaethol saith rheswm dros beidio â chymeradwyo'r cais, gyda phryder am godi lefel y ffosffad yn Afon Dyfrdwy yn un o'r amlycaf.

"Er nad yw Llyn Tegid yn methu ei dargedau ansawdd dŵr, mae'r afon islaw yn methu, ac mae canllawiau a pholisi cyfoes yn mynnu nad yw datblygiadau newydd yn ychwanegu at y llwyth llygredd presennol," meddai'r ddogfen.

Roedd cynlluniau i gysylltu'r orsaf newydd a'i chaffi i'r prif system garthffosiaeth ond fe gafodd rheiny eu hatal am nad oes gan safle trin dŵr gwastraff Dŵr Cymru yn Y Bala drwydded ffosffad.

Cafodd opsiynau eraill, fel tanc septig a chapio nifer yr ymwelwyr, hefyd eu gwrthod. Nododd yr adroddiad bod yna botensial i ddenu "tua 28-60,000 o bobl ychwanegol" i'r ardal y flwyddyn.

Ychwanegodd: "Fel y cyfryw, hyd yn oed heb ddarpariaeth toiledau cyhoeddus, byddai disgwyl i'r cynnig arwain yn anuniongyrchol at gynnydd mewn gwastraff budr yn mynd i mewn i'r [gwaith trin dŵr gwastraff], trwy ddefnyddio cyfleusterau cyfagos."

Fe bleidleisiodd aelodau'r pwyllgor i wrthod y cais o wyth pleidlais i bedair.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rheilffordd yn cynnig capio nifer yr ymwelwyr, medd David Jones

Roedd David Jones, un o reolwyr y rheilffordd, wedi apelio ar gynghorwyr cyn y cyfarfod i wrando'n ofalus ar eu cais, a gohirio penderfyniad neu rhoi sêl bendith amodol yn hytrach na'i wrthod yn gyfan gwbl.

"Ar y funud 'dan ni'n cynnig capio niferoedd y bobl sy'n teithio ar y trên i'r nifer yr oedd o y flwyddyn diwethaf, sef 33,000 o bobl, yn hytrach na'r niferoedd 'san ni'n disgwyl eu gweld yn nes ymlaen," meddai.

"Os allen nhw roi caniatâd efo amodau, gora'n byd, ond os ydyn nhw'n teimlo bod hynny ddim yn bosib, [hoffwn] iddyn nhw roi mwy o amser i ni yn hytrach na gwrthod y cais."

Roedd yn cydnabod y byddai ystyried y cais yn "waith caled... ond yn ôl y rheolau, os dydy'r datblygiad ddim yn mynd i wneud y sefyllfa'n waeth, mi ddylai fod 'na ffordd ymlaen i alluogi'r datblygiad i fynd ymlaen."

Disgrifiad o’r llun,

Effaith mwy o ymwelwyr ar lefel y ffosffad yn y dyfroedd cyfagos oedd un o'r materion trafod wrth i'r cynnig gael ei ystyried

Ymhlith y ffactorau eraill sy'n cael eu nodi fel rhesymau dros wrthod y cais mae diffyg gwybodaeth am effaith bosib adeilad yr orsaf newydd ar gymeriad yr ardal ynghyd ag effaith y datblygiad ar safleoedd hanesyddol ac archeolegol perthnasol.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi pryderon am sŵn, carthffosiaeth a ffyrdd.

Roedd yna "botensial i ddatrys rhai materion trwy ddarpariaeth rhagor o wybodaeth gan yr ymgeisydd," yn ôl Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ond roedd rhai o'r materion eraill "o'r fath bwysigrwydd" nad oedd modd eu datrys dan y cais presennol.

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru ac Adran Briffyrdd Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwrthwynebu'r cais.

Dywedodd yr Awdurdod eu bod yn "cydnabod buddion economaidd y datblygiad yma i dref Y Bala, ac mae'n cydymdeimlo â siom yr ymgeisydd".

Ychwanegodd bod y swyddogion cynllunio "yn cefnogi egwyddor y datblygiad yma ac o'r farn bod yna botensial i'r datblygiad gael ei gymeradwyo yn y dyfodol, ar yr amod bod yr holl wybodaeth angenrheidiol wedi cael ei chyflwyno."

Gwadu mae swyddogion y rheilffordd nad oedd eu cais cynllunio'n ddigon da, gan ddweud eu bod nhw'n barod i ateb cwestiynau a phryderon swyddogion hyd at y funud olaf.

'Am roi cynnig arall arni'

Dywedodd Julian Birley fod y penderfyniad wedi "fy llorio'n gyfan gwbl", a'i fod yn "drychineb" na chafodd y cynllun gefnogaeth y Parc Cenedlaethol.

"Mae daer angen buddsoddiad yr adeg hwn, yn yr hinsawdd economaidd yma," meddai. "Mae rheilffyrdd treftadaeth yn fath ddi-ffael o adloniant."

"Gyda'r broblem ffosffad yma ar draws Cymru, mae'n dod â'r wlad i stop."

"Rydan ni'n lawnsio ymgyrch codi arian. Rydan ni am roi cynnig arall arni... mae'n rhaid i ni gael hwn trwodd i'r Bala, Llanuwchllyn a'r gymuned."