3 Llun: Lauren Moore

  • Cyhoeddwyd
Lauren Moore

Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?

Bydd Lauren Moore yn llais cyfarwydd i chi sydd yn gwrando ar BBC Radio Cymru ar nos Wener. Mae'r cyflwynydd ifanc o Gaerdydd i'w chlywed yn sbinio'r gerddoriaeth ddiweddaraf rhwng 18:00 a 21:00 i gloi'r wythnos waith.

Rhannodd Lauren dri llun sy'n agos at ei chalon gyda Cymru Fyw.

Ffynhonnell y llun, Lauren Moore
Disgrifiad o’r llun,

Y Moores yn dathlu yn 2023

Hwn yw'r llun mwya' diweddar o fi a'r teulu. Fel teulu 'da ni 'di wynebu sawl rhwystr dros y deng mlynedd diwethaf ac er hynny 'da ni 'di parhau i gefnogi ein gilydd drwy bopeth, cadw'n positif a byw bywyd i'r eithaf.

Bydda'i byth yn gallu diolch iddyn nhw ddigon am bopeth maen nhw wedi'i 'neud i fi ond dwi'n gobeithio parhau i ddangos iddyn nhw faint ma' nhw'n meddwl i fi.

Ffynhonnell y llun, Lauren Moore
Disgrifiad o’r llun,

Lauren yn graddio o The Institute of Contemporary Music

Dyma lun o fi a fy nhad-cu, Philip, yn fy seremoni graddio yng Nghaerdydd. Tad-cu oedd fy ffrind gorau erioed. Mae'n llun pwysig iawn i mi achos fe gollon ni Tad-cu yn 2021. Roedden ni arfer treulio oriau yn siarad rwtsh, bod yn or-ddramatig a siarad am y diwrnod y byddwn i yn y swydd dw'i ynddi hi nawr.

Fe oedd fy ffrind gorau a fy #1 fan, a dwi'n gwybod bydde fe wedi bod mor, mor prowd ohona i a pha mor bell dw'i wedi dod yn y ddwy flynedd ers iddo farw.

Ffynhonnell y llun, Lauren Moore
Disgrifiad o’r llun,

Lauren gyda'i dyweddi, Zara, a'u cockapoo, Barney

Ddes i mas yn 2020. Dw'i wedi bod mor lwcus ac wedi cwrdd â 'fy mherson', Zara. Mae hi wedi dangos i fi beth yw cariad a shwd i garu pob rhan o fy hun. Pob dydd mae'n cefnogi fy mreuddwydion a pob dydd 'da ni'n mynd o nerth i nerth.

Wnaethon ni ddyweddio yn gynharach eleni, dair blynedd ar ôl cwrdd, 'dan ni wedi symud i fewn i'n cartref bach clyd ac wedi ychwanegu Barney bach i'r gang. 'Da ni mor lwcus a mor hapus a dw'i mor ddiolchgar amdani hi pob dydd.

Gallwch glywed rhaglen Lauren 18:00-20:00 bob nos Wener ar BBC Radio Cymru neu ar alw ar BBC Sounds.

Hefyd o ddiddordeb: