3 Llun: Lluniau pwysicaf Geraint Rhys Edwards
- Cyhoeddwyd
Os fyddai rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau bydden nhw?
Yr actor Geraint Rhys Edwards sydd yn dewis rhai o'i hoff luniau gyda Cymru Fyw y tro yma. Dyma'r tri llun sydd yn golygu mwyaf i Geraint, sydd yn chwarae rhan ar gyfres Hollyoaks ar Channel 4 ar hyn o bryd.
Dyma fy nith a'n nai - Sam Ifan a Haf Seren! Mae'r ddau 'ma yn meddwl y byd i fi a fi yw'r unig un sy'n gallu chwarae push off pillows (lle chi ar y soffa a rhaid trio gwthio un ohonyn nhw bant).
Ma' nhw'n hoffi deffro fi yn y bore am chwech pan wy'n cysgu draw ond ma' nhw'n dod a choffi i wncwl Ger to soften the blow!
Dyma lun o fi yn Frankfurt o flaen yr English Theatre lle ma' poster enfawr ohona i a'r cast ar ffrynt yn hysbysebu'r sioe gerdd enwog Saturday Night Fever yn chwarae un o'r prif rannau.
Dyma un o'r swyddi a phrofiad mwyaf anhygoel dw'i erioed wedi cael fel actor. Blwyddyn o fyw mewn gwlad wahanol ac yn gwneud sioe anhygoel gyda chast gwych. Bydd y sioe yma wastad yn fy nghalon.
Dyma fy ffrindie' gore. Ein grŵp ni yw 'Cardiff Huns forever fun' achos ni'n huns a wastad lan am hwyl, sbri a margarita neu 10. Ma' lot ohonom ni 'di bod yn ffrindiau ers ni'n babis bach ac yn dal gyda chyfeillgarwch cryf.