Dyddiadur Ramadan Elan Dafydd
- Cyhoeddwyd
Dros y mis diwethaf mae Mwslemiaid ar draws y byd wedi bod yn nodi mis sanctaidd crefydd Islam sef Ramadan.
Gyda mis o ymprydio rhwng gwawr a machlud haul yn dod i ben pan ddaw lleuad cilgant i'r golwg, Elan Dafydd, Mwslim sy'n byw yn Birmingham gyda'i gŵr a'i dau o blant, sydd wedi cofnodi ei Ramadan hithau.
Wythnos 1
Mae wedi bod yn drawsnewidiad diddorol i mi eleni. Rwy'n dweud hynny oherwydd, fel arfer, rwy'n gweld y diffyg bwyd yn rhan wirioneddol heriol, ond eleni rwy'n teimlo mai bwyta yw'r her fwyaf.
Pan yn torri'r ympryd fîn nos, mae fy llygaid yn fwy na'n stumog, ac erbyn i mi yfed tipyn o ddŵr, does gen i ddim lle ar ôl i'r bwyd! O ran newid y ffordd o fwyta, rwy'n teimlo fy mod wedi mwynhau hyd yn hyn.
Mae'r teimlad bod Ramadan arnom yn deimlad braf; rydym yn gwneud mwy o ymdrech i fwyta gyda'n gilydd fel teulu, a dwi'n gwybod y bydd y teimlad yna'n cael ei golli pan ddaw'r cyfnod i ben felly dwi am ei fwynhau i'r eithaf.
Fel arfer mae'r dyddiau cyntaf o ymprydio reit hawdd ond erbyn dyddiau 3-5 fel arfer mae'n anoddach. Mae eleni wedi bod yn flwyddyn prysur gyda dau o blant bach. Mae fy ngwaith yn y swyddfa bob dydd wedi fy helpu i gadw fy meddwl i ffwrdd o fod eisiau bwyta.
Mae mor braf cymryd yr amser i gynllunio bwyd iftar, sef y wledd deuluol rydym yn ei fwynhau i dorri'r ympryd ar ôl i'r haul fachlud.
Wythnos 2
Mae pythefnos cyntaf Ramadan wedi gwibio heibio.
Dros yr wythnos ddiwethaf, dwi wedi cymryd peth amser i wrando a dysgu mwy am grefydd Islam, gan fy mod yn dal i ddysgu am y ffydd.
Mae'r ymchwil yma wedi fy nysgu i feddwl a gweddïo am bawb ledled y byd, am heddwch, cariad, caredigrwydd, hapusrwydd a dealltwriaeth i bawb.
Tua'r adeg yma o'r mis, dwi'n ffeindio fy mod i wir yn dechrau dod i arfer â'r ymprydio a'r drefn newydd, er mae'r rwtîn cysgu a deffro i gael brecwast yn parhau'n heriol.
I mi fy hun, mae'n hollol arferol i mi deimlo'n llwglyd neu'n sychedig o leiaf unwaith y dydd ond nawr rwy'n teimlo fy mod yn gallu ei reoli.
Mae'r teimlad yn mynd a dod a phan fyddaf yn ei deimlo, rwy'n atgoffa fy hun o ba mor lwcus ydw i, oherwydd dwi'n gwybod ar ddiwedd yr ympryd y gallaf gael amrywiaeth o fwydydd da i'w bwyta, ac nid oes gan eraill yn y byd y dewis hwnnw.
Yn ystod Ramadan, mae llawer o gyfleoedd i gyfrannu at elusennau fel y gall pobl a theuluoedd llai ffodus fwyta yn ystod y mis. Mae hyn yn rhywbeth sy'n wirioneddol agos at fy nghalon, a dwi'n hoff iawn o roi cymaint ag y gallai yn gyson.
Dwi hefyd wedi dod ar draws ap newydd ar fy ffôn symudol o'r new Olio, sy'n ein hybu i roi, derbyn neu benthyca amryw o bethau sy'n cynnwys bwyd gydag eraill yn ein cymunedau.
Mae hyn wedi fy ngalluogi i gysylltu mwy â chymdogion i rannu bwyd cartref â nhw.
Ac mae'n deimlad braf medru rhannu ag eraill, yn enwedig rheiny sydd mewn cyfnod anodd yn eu bywydau ar hyn o bryd; yn byw mewn llety dros dro neu loches trais domestig.
Dwi am ddefnyddio'r ap yma lawer mwy dros Ramadan a gweddill y flwyddyn er mwyn gwneud fy rhan bach i dros yr amgylchedd drwy leihau gwastraff bwyd.
Wythnos 3
Mae hi wedi bod yn benwythnos y Pasg a'r tywydd wedi bod yn hyfryd i ni fedru adeiladu tŷ bach twt y plant yn yr ardd. Roedd yn braf cael penwythnos hir i gael mwynhau ychydig o heulwen hefyd.
I ddechrau'r penwythnos, bues yn brysur yn paratoi prydau iftar i'w rhannu â ffrindiau ac hefyd yn ffodus o gael gwahoddiad i dorri'r ympryd yn nhŷ ein ffrindiau.
Mae'n draddodiad gydol Ramadan i wledda a chael gwahoddiadau i rannu bwyd ag eraill. Mae'n amser i wahodd cyfeillion a'n perthynasau am iftar a bwyta gyda'n gilydd. Mae'n adfywio'r teimladau o fod yn hael gyda'n gilydd ac mae ein gwerthfawrogiad am fwyd llawer gwell ar ôl diwrnod hir o ymprydio.
Er ei bod yn gyfnod anodd lle mae llawer o bethau'n cael eu colli, mae hefyd yn amser i fyfyrio ar y mis a rhoi diolch am fod yn ddigon bendithiol i weld y mis cyfan drwodd.
Yn bersonol, rydw i'n hoffi cymryd amser i hunan-fyfyrio a deall y newidiadau rydw i wedi'u rhoi ar waith y mis hwn a rydw i'n dymuno parhau gyda'r newidiadau bychain o hyn allan.
Un peth yr wyf wedi gwneud ymdrech ychwanegol ag ef y mis hwn yw dysgu mwy am weddïo ac addysgu fy hun yn fwy rheolaidd am Islam.
Dwi ymhell o fod yn Fwslim perffaith, ond rwy'n ceisio gwneud fy ngorau i eraill bob amser ac yn parhau i ddysgu sut i fod yn berson gwell. Rwy'n bwriadu cadw'r arferion rwyf wedi eu dysgu dros Ramadan y tu hwnt i'r mis arbennig hwn.
Wythnos 4
Wrth inni agosáu at ddiwedd Ramadan, fel Mwslemiaid, mae'r 10 noson olaf yn arwyddocaol iawn i ni.
Mae hyn oherwydd ar un o'r nosweithiau hyn y datgelwyd y Quran am y tro cyntaf - Laylat Al Qadr yw'r enw ar y noson yma (mae hyn yn golygu Noson Bwerus). Yn ystod y 10 diwrnod diwethaf rydym yn blaenoriaethu ein gweddïo.
Yn nyddiau olaf Ramadan, mae'n ofynnol i bennaeth pob teulu dalu treth elusennol, a elwir yn Fitra neu Zakat Al Fitr, i helpu'r rhai sy'n llai ffodus i ddathlu'r achlysur.
Hyd yn oed wrth ddathlu, rhaid i Fwslemiaid fod yn ymwybodol o deuluoedd o fewn y gymuned ehangach a allai fod yn ei chael hi'n anodd, fel nad oes neb yn cael ei adael allan.
Diwedd Ramadan a gŵyl Eid-al-fitr
Yn syth ar ôl Ramadan, mae gennym ni ddiwrnod Eid-al-fitr (gŵyl torri'r ympryd) sy'n ddiwrnod cyffrous ac sy'n nodi diwedd mis o ymprydio.
Mae'r diwrnod yn cychwyn gyda Mwslemiaid yn dod at ei gilydd yn y Mosg i gynnig gweddi Eid gynulleidfaol. Mae Mwslemiaid yn cyfarch ei gilydd ar ddiwrnod Eid trwy ddweud "Eid Mubarak" sy'n golygu "Eid bendigedig" a hefyd yn cyfnewid cwtsh.
Mae hyn er mwyn creu teimlad o ewyllys da ac undod. Mae pobl hefyd yn ymweld â pherthnasau trwy gydol y dydd, gan fwynhau bwyd ym mhob man.
Fel arfer rydym yn treulio Eid gyda theulu ac yn addurno ein tai ar gyfer yr achlysur. Mae'n draddodiad i wisgo dillad newydd ar y diwrnod, cyfnewid anrhegion, chwarae gemau a chael hwyl gyda'n gilydd.
Dyma'r tro cyntaf i Fwslemiaid allu bwyta ac yfed yn ystod oriau'r dydd ers mis!
Hefyd o ddiddordeb: