Côr i'r digartref yn gobeithio creu newid yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Helpu i ailadeiladu hyder, gwella sgiliau a dod o hyd i ffrindiau - dyna rai o amcanion côr yng Nghaerdydd sy'n gweithio gyda phobl ddigartref.
Cafodd y côr cyntaf o'r math yma ei sefydlu yn 2008 ac mae ganddyn nhw grwpiau mewn dinasoedd fel Llundain a Birmingham.
Yn 2021 cychwynnodd y côr yng Nghaerdydd, a dyma un o'r corau mwyaf newydd.
Dywed Richard Sprake, un o'r aelodau, bod canu gyda The Choir With No Name yn "anhygoel".
"Nid jyst côr yw hwn i fi - mae e fel teulu, a'r peth gorau yw pan bo' ni yn harmoneiddio.
"Allwch chi ddim cael dim byd gwell. Mae fel petai eneidiau pob un ohonom ni yn dod ynghyd."
Ar hyn o bryd mae Richard mewn llety dros dro gyda Byddin yr Iachawdwriaeth, ac mae wedi bod yn ddigartref ers dros chwe blynedd.
Mae'n dweud ei fod wedi mynd trwy gyfnod lle roedd yn gaeth i gyffuriau.
"Roeddwn i yn addict ac yn defnyddio heroin. Ond rwy' 'di concro hwnna ac wedi bod yn lân am ddwy flynedd a hanner."
Er iddo droi cefn ar gyffuriau mae'n dweud fod heriau yn ei wynebu o hyd.
"Mae byw yn her, mae atgofion yn her. Ond y peth gwych yw bo' fi wedi cofio mod i'n gallu canu," meddai.
"Fe fues i yn gweithio fel Redcoat unwaith, pan yn ifancach, ond fe wnes i anghofio am hynny.
"Ond nawr, gyda help y côr, rwy'n gwybod pwy ydw i. Rwy' wedi darganfod fy hun."
Mae'r côr yn gweithio mewn partneriaeth ag elusen Wallich, sy'n helpu pobl ddigartref.
Dywed Jamie Lee Cole o'r elusen fod pobl sy'n ddigartref dan bwysau mawr.
"Mae'n help i ddelio â straen yn bwysig yn dilyn cyfnodau lle mae pobl o bosib wedi eu hynysu, yn enwedig os ydyn nhw'n cysgu ar y stryd neu mewn llety dros dro," meddai.
Dywed rheolwr y côr yng Nghaerdydd, Oona Terrile, fod yr aelodau yn cael pryd o fwyd poeth yn ystod ymarferion a bod hynny'n "bwysig iawn ar adeg pan fo' costau byw mor uchel".
Ar hyn o bryd mae'r côr yn ymarfer ar gyfer cyngerdd yn hwyrach yn y mis, gyda Chôr Meibion Hoyw De Cymru.
"Mae neges The Choir With No Name yn rili bwysig a ry'n ni'n rhannu yr un math o werthoedd gyda'n côr ni," meddai Craig Stephenson, cadeirydd y côr.
"Pan fo' rhywbeth wedi digwydd yn eich bywydau sy'n gwahaniaethu, chi'n ymuno gyda ffrindiau trwy ganu unwaith yr wythnos ac ry' chi'n gallu cael nerth oddi wrth hynny."
Fe gychwynnodd Iori Haugen fel cyfarwyddwr cerdd y côr y llynedd, ac mae'n adnabod yr aelodau yn dda.
Ers ffurfio'r côr mae'n dweud iddo sylwi ar newid mewn nifer o'r aelodau sy'n dod i'r ymarferion, a bod cerddoriaeth wedi helpu llawer gyda'u hunan hyder.
"Rwy' yn gobeithio ein bod ni yn helpu pobl i deimlo'n dda, yn gyfforddus ac yn iachach," meddai.
"Ar ôl canu mae pawb yn cael bwyd poeth, ac i rai pobl efallai mai dyna'r unig bryd o fwyd poeth maen nhw'n cael trwy'r wythnos.
"Mae e jyst yn lysh i weld shwd ma' pawb yn datblygu."
'Ni'n barod i drio unrhyw beth!'
Mae'r côr yn ymarfer bob nos Fawrth yn neuadd gymunedol St Paul's yn Grangetown, ac maen nhw'n dweud fod croeso i bawb i ymuno, a'u bod yn canu pob math o gerddoriaeth - o reggae i bop i ganu gwerin.
"Ry'n ni'n barod i drio unrhyw beth!" meddai Iori.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2021