Cau ward Ysbyty Tywyn: 'Beth am iechyd twristiaid o Loegr?'
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol o Loegr wedi cael ei feirniadu am gwestiynu sut y bydd twristiaid o Loegr yn cael "gofal iechyd iawn" yn dilyn cau rhan o Ysbyty Tywyn yng Ngwynedd.
Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y byddai'r ward cleifion mewnol yno'n cau dros dro, gan nad ydyn nhw wedi gallu recriwtio digon o nyrsys i weithio yno.
Mae'n golygu na fydd cleifion yn aros dros nos yno bellach, a dim ond apwyntiadau dydd fydd ar gael yn yr ysbyty.
Ond mewn trafodaeth yn San Steffan, dywedodd AS lleol Plaid Cymru fod y cwestiwn gafodd ei ofyn ar y mater yn un "bron yn sarhaus", a'i fod yn ceisio sgorio "ergyd wleidyddol rhad".
'Dim byd i'w wneud â nhw'
Yn ystod sesiwn Cwestiynau Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin dywedodd yr AS Ceidwadol Michael Fabricant, sy'n cynrychioli etholaeth Lichfield yng nghanolbarth Lloegr, ei fod ef a nifer o'i etholwyr yn ymweld â Thywyn yn achlysurol.
Wrth gyfeirio at gau'r ward i gleifion mewnol, gofynnodd i Ysgrifennydd Cymru, David Davies: "A wnewch chi siarad gyda Gweinidog Iechyd Cymru a thrafod sut y bydd twristiaid o Loegr yn cael gofal iechyd iawn pan maen nhw ar wyliau yng Nghymru?"
Dywedodd Mr Davies fod iechyd wedi ei ddatganoli i Gymru, ond y byddai'n "annog" gweinidogion Llafur Cymru i esbonio "pam nad ydyn nhw'n darparu'r un safonau o iechyd" a'r hyn oedd ar gael yn Lloegr, er gwaethaf yr "arian ychwanegol maen nhw'n ei gael".
Wrth ymateb yn ddiweddarach i'r sylwadau gafodd eu gwneud yn y siambr dywedodd AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts bod trigolion yr ardal eisoes wedi cael eu "gadael i lawr" wedi i'r ward gau.
"Mae Cwestiynau Cymru'n aml yn cael eu defnyddio gan Geidwadwyr o etholaethau yn Lloegr i bregethu am faterion sy'n ddim byd i'w wneud gyda nhw, ond roedd cwestiwn heddiw bron yn sarhaus," meddai wrth PA.
"Dydy Tywyn a Bro Dysynni ddim yn gymunedau i gael eu defnyddio ar gyfer ergyd wleidyddol rhad.
"Mae twristiaeth yn ddiwydiant hynod o bwysig ym Meirionnydd.
"Ond mae'r sylw nawddoglyd yma'n dangos pa mor bwysig ydy o i ddatblygu model cynaliadwy o dwristiaeth, sy'n sicrhau'r budd economaidd a chymdeithasol gorau i bobl leol."
Symud cleifion i Ddolgellau
Yr wythnos diwethaf fe rannodd Betsi Cadwaladr ddatganiad yn dweud eu bod wedi "gweithio'n galed i recriwtio nyrsys newydd" ond eu bod bellach "wedi defnyddio pob opsiwn recriwtio".
"Er gwaethaf ein hymdrechion gorau, nid ydym wedi gallu recriwtio niferoedd digonol o nyrsys," meddai Ffion Johnstone, cyfarwyddwr cymunedol iechyd integredig ar gyfer gorllewin y bwrdd iechyd.
"Gyda diogelwch ein cleifion fel ein prif bryder, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i gau'r ward yn Ysbyty Tywyn dros dro a chyfuno gwelyau cleifion mewnol yn Ysbyty Dolgellau i sicrhau cyflenwad nyrsio mwy cadarn.
"Bydd yr holl wasanaethau eraill - gan gynnwys apwyntiadau cleifion allanol - yn parhau fel arfer yn Ysbyty Tywyn."
Ychwanegodd y bwrdd iechyd y gallai unrhyw broses recriwtio er mwyn ailagor y ward cleifion mewnol gymryd rhai misoedd.
Mewn ymateb i sylwadau David Davies am arian ychwanegol i Gymru, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "ein cyllideb yn 2023/24 werth £900m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei osod ar ddechrau'r adolygiad gwariant tair blynedd presennol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd22 Mai 2020