Cymru Premier: Aberystwyth yn aros wrth i'r Fflint ddisgyn

  • Cyhoeddwyd
Coedlan y Parc, AberystwythFfynhonnell y llun, Clwb Pêl-droed Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Clwb Pêl-droed Aberystwyth, fe ddaeth 1,120 o gefnogwyr i Goedlan y Parc ddydd Sadwrn

Mae Aberystwyth wedi llwyddo i gadw eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru wrth i'r Fflint ddisgyn i'r ail haen.

Targed Aber, drwy groesawu Caernarfon i Goedlen y Parc, oedd sicrhau canlyniad gwell na'r Fflint, a oedd yn wynebu taith i Bontypridd.

Roedd y Cofis eisoes wedi sicrhau eu lle yn y gynghrair yn dilyn buddugoliaeth o 3-2 oddi cartref yn y Fflint nos Fercher.

Ond ar ddiwrnod ola'r tymor llwyddodd Aberystwyth i ymuno â nhw wedi buddugoliaeth o 3-2 wrth i Fflint ddisgyn gydag Airbus i'r ail haen.

Disgrifiad,

Aberystwyth yw'r clwb cyntaf i gyrraedd 1,000 o gemau yn Uwch Gynghrair Cymru

Mae Aberystwyth yn un o ond dau glwb i fod yn aelodau di-dor o'r gynghrair ers ei sefydlu yn 1992.

Y llynedd fe ddathlwyd carreg filltir wrth i'r clwb o Geredigion fod y cyntaf i gyrraedd 1,000 o gemau yn Uwch Gynghrair Cymru.

Wrth siarad ar raglen Sgorio wedi'r gêm yng Nghoedlan y Parc brynhawn Sadwrn, dywedodd chwaraewr Aberystwyth, Steffan Davies fod gwaith caled y garfan wedi talu ffordd.

"Ni'n 'neud habit ohono nawr, yr ail dymor in a row, ond mae ganddon ni grŵp o fois gonest sy'n gweithio'n galed a bois sy'n falch o chware dros y clwb."

Gyda'r Seintiau Newydd yn sicr o'u lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf, a Chei Connah yng Nghyngres Europa, bydd y ddau safle Ewropeaidd sy'n weddill yn ddibynnol ar ganlyniadau rownd derfynol Cwpan Cymru penwythnos nesaf a'r gemau ail gyfle i ddilyn.

Canlyniadau'n llawn:

Met Caerdydd 2-1 Y Bala

Penybont 2-1 Y Drenewydd

Y Seintiau Newydd 4-1 Cei Connah

Aberystwyth 3-2 Caernarfon

Airbus 1-4 Hwlffordd

Pontypridd 3-2 Y Fflint

Pynciau cysylltiedig