Carreg filltir i Aberystwyth ar drothwy 1,000fed gêm
- Cyhoeddwyd
Bydd un o glybiau pêl-droed y canolbarth yn dathlu carreg filltir nos Fawrth drwy fod y cyntaf i gyrraedd 1,000 o gemau yn Uwch Gynghrair Cymru.
Roedd Aberystwyth yn un o aelodau gwreiddiol y gynghrair genedlaethol gyntaf pan ffurfiwyd yn 1992, ac erbyn heddiw dim ond nhw a'r Drenewydd sydd erioed wedi colli eu lle.
Ond bron i 30 mlynedd ers agoriad pennod newydd ym mhêl-droed Cymru, fe fydd dathliad ar gae Coedlan y Parc wrth i'r tîm cartref ddathlu'r garreg filltir.
Mae disgwyl torf fawr ar gyfer ymweliad Hwlffordd - mae mynediad am ddim i ddathlu'r achlysur.
Chwifio'r faner dros Gymru
Diolch i lwyddiant yn y gynghrair, mae'r clwb wedi cynrychioli Cymru mewn cystadlaethau Ewropeaidd ar dri achlysur.
Mae'r sylw ychwanegol a'r angen i daro safonau UEFA hefyd wedi gweld gwelliannau sylweddol i Goedlan y Parc, sydd bellach yn cynnwys dros 1,000 o seddi ac wedi cynnal gemau clybiau eraill yn ogystal.
Yn ôl un o'r rheolwyr a arweiniodd y clwb mewn cystadleuaeth Ewropeaidd, mae'r ffaith mai ond Aber a'r Drenewydd sydd wedi goroesi ers y cychwyn yn dangos pwysigrwydd bod yn gynaliadwy.
Roedd Ian Hughes yn rhan o'r tîm hyfforddi cyn dod yn rheolwr rhwng 2013 a 2016, gan arwain y clwb i Gynghrair Europa.
Yn ôl Mr Hughes, sydd bellach yn hyfforddi yn yr Unol Daleithiau, mae llawer i ddiolch i gyfarwyddwyr a gwirfoddolwyr y clwb.
"Mae'r holl gyfarwyddwyr a gwirfoddolwyr yn weithgar ac yn angerddol am y clwb a'r gynghrair yn gyffredinol," meddai wrth Cymru Fyw.
"Mae trawsnewid enfawr wedi digwydd dros y blynyddoedd diwetha' gyda gwaith ar y cae 3G a datblygu'r maes i wneud yn siŵr fod y clwb yn gynaliadwy, ac maen nhw'n haeddu canmoliaeth.
"Yn ystod fy amser gyda'r clwb ges i gefnogaeth aruthrol a dwi'n dymuno llwyddiant parhaus iddyn nhw am y dyfodol."
Chwaraewyr lleol
Er bod Y Drenewydd hefyd yn aelodau o'r clwb bychan iawn o dimau parhaus Uwch Gynghrair Cymru, Aber fydd y cyntaf i gyrraedd 1,000 gêm oherwydd y chwaraeodd eu cymdogion o Sir Drefaldwyn un yn llai yn ystod tymor 2019/20 - a orffennodd yn gynnar oherwydd Covid-19.
Yn siarad ar raglen Ar y Marc BBC Radio Cymru dros y penwythnos, disgrifiodd rheolwr Aber y fraint o gael arwain ei glwb lleol yn ystod tymor cyntaf 1992/93.
"Gaethon ni dymor gwych i fod yn onest, gorffen yn drydydd a naw pwynt tu ôl y pencampwyr, Cwmbrân," meddai Tomi Morgan, a gymerodd y swydd yn dilyn blynyddoedd lawer yn chwarae i'r clwb fel ymosodwr.
"[Mae'r ffaith] fod y clwb wedi para mor hir yn y gynghrair yn dangos fod y clwb yn cael ei redeg yn y ffordd iawn.
"Oherwydd ein bod ni'n gorfod dibynnu falle ar chwaraewyr lleol, mae'n meddwl fod y gefnogaeth i'r clwb yn dda wedyn oherwydd maen nhw'n hoffi gweld chwaraewyr lleol.
"Pan o'n i wrth y llyw roedd hi'n anodd denu chwaraewyr i Aberystwyth oherwydd y pellter o ble mae'r boblogaeth yn y gogledd a'r de, ond unwaith roedd y chwaraewyr yn dod roedden nhw'n mwynhau chwarae i Aberystwyth oherwydd roedd cefnogaeth dda yna."
Ymunodd Ffiona Evans a thîm merched Aberystwyth yn 2007, cyn dod yn therapydd chwaraeon gyda thîm y dynion yn 2012.
"Mae Aberystwyth yn le ble mae pawb yn 'nabod ei gilydd a phawb moyn i'r clwb fod yn llwyddiannus," dywedodd.
"Mae pawb yn annog ei gilydd, a dyna sy'n gwneud Aberystwyth yn sbesial.
"Mae'r cefnogwyr yn brilliant, pan mae'r timau cyntaf yn chwarae mae digon o sŵn 'da nhw, maen nhw fel twelfth man i'r dynion yn aml.
"A chwarae teg maen nhw wedi feedio trwyddo i'r merched ac mae'r ffans yn cymryd sylw ohonon ni nawr... maen nhw moyn i bawb yn y clwb fod yn llwyddiannus.
"Sa'i moyn clwb fel Aber i ddim bodoli really, fi'n gobeithio fydd y clwb yn cyrraedd 1,000 arall!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2018
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2014