Gwahardd cynghorydd am sylw 'Cymru i'r Cymry'
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd Plaid Cymru a alwodd dau gyd-gynghorwr yn "bobl o'r tu allan" wedi ei wahardd ar ôl dweud wrthyn nhw fod "Cymru ar gyfer y Cymry".
Yn ôl Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Gâr roedd Terry Davies wedi defnyddio iaith wahaniaethol yn erbyn ei gyd-gynghorwyr Andre McPherson a Suzy Curry.
Penderfynodd y pwyllgor hefyd ei fod yn debygol o fod wedi rhegi ar Mr McPherson y tu allan i faes chwarae.
Roedd yr ombwdsmon wedi dweud yn flaenorol fod Mr Davies wedi galw'r aelodau Llafur yn "bobl o'r tu allan".
Dywedodd ei fod yn ddiamheuol ei fod wedi dweud hynny a'i fod wedi eu galw'n "gynghorwyr galw heibio", gan ddweud: "Mae Cymru ar gyfer Cymry, ac mae gennym ni gymuned Gymreig yma."
Mae'r tri yn gwasanaethu ward Tyisha ar Gyngor Tref Llanelli.
Yn ôl y Gwasanaeth Adrodd ar Ddemocratiaeth Leol dywedodd y pwyllgor safonau y gallai'r cyhoedd fod wedi clywed y drafodaeth ar y maes chwarae, a ddigwyddodd ar 9 Chwefror, 2021.
Dywedwyd nad oedd Mr Davies wedi cael ei gam-drin gan y cynghorwyr Llafur, fel yr honnai.
Dywedodd y pwyllgor ei fod wedi cyfeirio ar Facebook at "ddau berson o'r tu allan y cefais sgwrs gref â nhw heddiw".
Ychwanegon nhw fod y sylw wedi'i gyfeirio at Mr McPherson a Ms Curry ac nid at ddau "gyffuriwr" o Loegr, fel yr oedd wedi honni. Fe gafodd y post ei ddileu yn ddiweddarach.
Mewn gwrandawiad ar 12 Ebrill, dywedodd bargyfreithiwr Mr Davies, David Daycock, fod ei gleient yn Gymro angerddol a oedd yn teimlo bod angen dod o ward Tyisha i ddeall y materion sydd yno.
Dywedodd Mr Daycock: "Efallai ei fod wedi gadael i'w emosiynau fod yn drech arno."
Ychwanegodd y dylai fod gan gynghorwyr "groen tewach a mwy o oddefgarwch", ac y dylai sylwadau Mr Davies fod wedi eu cymryd fel "rhan o'r ddadl wleidyddol".
Daeth adroddiad yr ombwdsmon i'r casgliad bod ymddygiad Mr Davies, y dirprwy faer ar y pryd ac sydd bellach yn gynghorydd sir, yn cynrychioli pedwar achos o dorri'r cod ymddygiad.
Penderfynodd y pwyllgor pe bai iaith Mr Davies wedi cael ei chlywed gan y cyhoedd y byddai wedi dwyn anfri ar swyddfa Mr Davies a'r cyngor tref.
Yn ogystal â'i wahardd o'r cyngor tref am fis, argymhellwyd ei fod yn dilyn cwrs hyfforddiant ar y cod ymddygiad.
Yn dilyn y penderyniaddywedodd Mr Davies nad oedd wedi rhegi na defnyddio iaith wahaniaethol, ac fod ganddo "lawer o gefnogaeth".
Gwrthododd Cyngor Tref Llanelli wneud sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2023