'Ces i fy ngorfodi i briodi a chael prawf i brofi fy mod yn bur'

  • Cyhoeddwyd
Cysgodlun o ddynesFfynhonnell y llun, Getty Images

Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl yma beri gofid i rai

"Tase fi'n gwybod bod help ar gael, neu fod e'n anghyfreithlon, falle bydden i wedi siarad gyda rhywun oedd yn deall."

Fe gafodd Farah (nid ei henw iawn) ei gorfodi i gael prawf gwyryfdod (virginity) cyn iddi briodi yn 18 oed.

Mae'r prawf yma, sy'n cynnwys archwilio'r hymen, yn anghyfreithlon ac mae'n cael ei gynnal mewn rhai cymunedau i geisio gweld a yw'r fenyw neu'r ferch yn wyryf (virgin).

Yn ôl arbenigwyr meddygol nid oes sail wyddonol i'r profion a does dim ffordd o brofi bod menyw wedi cael rhyw ai peidio.

Mae BAWSO, sefydliad sy'n cefnogi menywod o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, yn galw am fwy o ymwybyddiaeth am y profion.

'Bychanu' ar noson briodas

Mae Farah bellach wedi symud o Gymru er mwyn ei diogelwch, ond roedd am rannu ei stori i godi ymwybyddiaeth a helpu eraill allai fod yn yr un sefyllfa.

"Yn 18 oed, ces i fy ngorfodi i briodi, gyda'r disgwyl y byddwn yn byw gyda theulu fy ngŵr," meddai.

"Nid dyma oeddwn i eisiau ac roedden nhw'n gwybod hynny. Ro'n i'n gwrthwynebu hyn tan y funud olaf ond nid oedd yn gwneud unrhyw wahaniaeth."

Cyn y briodas, gorfodwyd Farah i gael prawf gwyryfdod.

"Dywedodd fy mam y byddai'n mynd â fi at feddyg yn y gymuned i weld a oeddwn yn 'bur'," meddai.

Ychwanegodd bod y drefn wedi ei "diraddio" a hefyd ei bod wedi'i "bychanu" ar noson ei phriodas ar ôl i ddillad gwely gwaedlyd gael eu dangos i'w mam-yng-nghyfraith.

Ers hynny mae hi wedi ffoi o'i sefyllfa ond mae'r profiadau wedi cael effaith barhaol arni.

"Doeddwn i ddim yn gwybod bod hyn yn anghyfreithlon na chwaith yn ffurf o gamdriniaeth.

"Roeddwn i'n teimlo cywilydd o'r hyn ges i fy ngorfodi i wneud ac mae'n faich dwi'n cario nawr," meddai.

"Nid oes llawer o gymunedau'n codi pryderon am hyn ond dwi'n gwybod bod rhai merched wedi diodde'r profion a ddim yn gwybod ble i fynd am help."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Wanjiku Ngotho-Mbugua o BAWSO mae'r profion yn effeithio ar urddas merched

Mae BAWSO yn ceisio codi ymwybyddiaeth am gamdriniaeth ar sail anrhydedd sy'n cynnwys profion gwyryfdod.

"Mae'n broblem gyffredin yng Nghymru, gan fod gan Gymru lawer o bobl sydd wedi mudo o'r gwledydd hynny sy'n cynnal profion gwyryfdod," meddai eu prif weithredwr dros dro, Wanjiku Ngotho-Mbugua.

"'Dan ni'n gwybod bod pobl yn mynd â'u diwylliant gyda nhw ac mae diwylliant yn beth anodd i'w roi i'r neilltu."

Ers Ebrill 2020 i Ragfyr 2022, mae BAWSO wedi delio gyda 24 achos o fenywod oedd wedi cael eu gorfodi i gael prawf gwyryfdod, a chwe achos o hymenoplasti.

O Ebrill i Ragfyr y llynedd, roedd 'na saith achos o brofion gwyryfdod, a thri achos o hymenoplasti. Cafodd y prawf am hymenoplasti ei wneud yn anghyfreithlon ym Mehefin y llynedd.

Llawdriniaeth sy'n gysylltiedig â'r profion yw hymenoplasti, lle mae ymgais i ail-greu'r hymen.

Nid yw'n hysbys faint o fenywod sydd wedi eu heffeithio gan fod pethau sy'n gysylltiedig â rhyw yn dabŵ mewn sawl cymuned.

Yn ogystal, nid yw rhai menywod a chymunedau yn cydnabod bod y profion yn ffurf o gamdriniaeth nac yn sylweddoli eu bod yn anghyfreithlon, felly dim ond ychydig o bobl sy'n cyfaddef eu bod wedi dioddef.

Effaith gorfforol a seicolegol

"Mae'r merched sydd wedi cael y profion, yn llawn cywilydd, mae wedi effeithio ar eu hurddas," meddai Wanjiku Ngotho-Mbugua.

"Mae'n cael effaith gorfforol ar y merched hyn, yn ogystal ag effaith seicolegol, mae profi'r hymen - yn ymosodiad rhyw," ychwanegodd.

"Mae angen i ni godi ymwybyddiaeth a dweud bod y traddodiadau hyn yn annerbyniol, ac mae angen i ni gael gwared arnyn nhw. Mae angen i ni herio diwylliant pan mae'n niweidiol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen sicrhau bod gan ferched yr awdurdod i herio credoau yn ôl Natasha Ratu o elusen Karma Nirvana

Mae Natasha Ratu yn gyfarwyddwraig Karma Nirvana, elusen sy'n cefnogi'r rhai sy'n dioddef camdriniaeth ar sail anrhydedd ledled Prydain.

Mae wedi bod ar flaen y gad wrth godi ymwybyddiaeth am brofion gwyryfdod a hymenoplasti.

Mae hi'n dweud bod angen sicrhau bod awdurdod gan fenywod a merched i herio credoau a hefyd bod angen i gymdeithas gael gwared ar y "syniad o wyryfdod" lle mae menywod yn cael eu "barnu" a'u "diffinio" yn ôl eu "statws rhywiol".

"Dyw bobl ddim yn sylweddoli mai myth yw gwyryfdod - mae'n ffordd i gymdeithas reoli menywod a merched yn y bôn," ychwanegodd.

Pwysleisiodd bod y syniad o wyryfdod yn adlewyrchu agweddau at ryw a chydraddoldeb gan nad yw'n effeithio ar ddynion a bechgyn.

"Mae'n ymwneud â chymdeithas sydd eisiau rheoli merched a menywod trwy'r syniad yma o wyryfdod, fel nad ydyn nhw'n ymddwyn mewn ffordd sy'n 'dwyn gwarth'," meddai.

Dywedodd bod angen torri'r cylch o fewn cymunedau - o genhedlaeth i genhedlaeth, a hefyd o fewn lleoliadau meddygol.

'Ddim yn cael ei drafod ddigon'

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn sy'n cynnwys gwybodaeth a chanllawiau i'r gweithlu meddygol er mwyn eu cynorthwyo i adnabod arwyddion y math yma o gamdriniaeth.

"Dwi'n meddwl bod hyn yn rhywbeth sydd ddim yn cael ei drafod ddigon," meddai Sue Tranka, prif swyddog nyrsio Cymru.

"Mae'n bwysig iawn gan ei fod yn codi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr sy'n gweld cleifion mewn unedau mamolaeth, meddygon teulu, y gwasanaethau gofal sylfaenol a'r gwasanaethau nyrsio."

Mae Ms Tranka'n credu bod angen datblygu "hyfforddiant ac addysg" ochr yn ochr â'r pecyn gwybodaeth.

"Nid yw hon yn sgwrs hawdd i'w chael, mae'n eithaf sensitif, 'da chi am sicrhau eich bod yn helpu menywod a merched i godi llais," meddai.

"Mae angen i ni dynnu sylw ato. Mae angen i ni wneud hynny yn y ffordd fwyaf diogel posibl, ac mae angen i ni ofalu am y rhai sy'n goroesi."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Pynciau cysylltiedig

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol