Cwest: Dyn wedi marw ar ôl brathiad gan ei gi

  • Cyhoeddwyd
Mark JonesFfynhonnell y llun, Reach Plc
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mark Jones ddyddiau wedi iddo gael ei frathu gan ei gi yn ei gartref

Mae cwest wedi clywed bod dyn 61 oed o Brestatyn wedi marw ar ôl cael ei frathu gan ei gi.

Cafodd Mark Jones, oedd yn newyddiadurwr wedi ymddeol, ei frathu gan ei gi Jack Russell o'r enw Lili Little Legs ar ddechrau Rhagfyr 2022.

Clywodd cwest yn Rhuthun iddo ddatblygu sepsis difrifol, ac er gwaetha triniaeth ysbyty bu farw ychydig ddyddiau yn ddiweddarach.

Mewn teyrnged iddo dywedodd ei wraig, Yvette ei fod yn ddyn "cariadus, gofalgar a chefnogol, ac yn ŵr a llys-dad ymroddedig", ac fe wnaeth hi ganmol ymdrechion staff yn Ysbyty Glan Clwyd wnaeth geisio ei achub.

Cyflwr wedi dirywio'n sydyn

Mewn datganiad gafodd ei ddarllen ar ei rhan yn llys y crwner, fe ddisgrifiodd hi sut yr oedd Mark Jones, ar noson 5 Rhagfyr wedi rhoi ei gi yn ei wely a rhoi bisged i'r anifail.

Ond wrth iddo wneud hynny, fe wnaeth y ci frathu ei fawd.

"Wnes i ddim ei weld yn digwydd", meddai Yvette Jones, "a dim ond briw bychan oedd yna - doedd o ddim yn gwaedu nag wedi chwyddo."

Fe aeth Mark Jones i'r gwaith y diwrnod canlynol, ond erbyn diwedd y dydd roedd ei fawd wedi chwyddo.

Y diwrnod wedi hynny - dydd Mercher, cafodd ei anfon adref o'r gwaith ac fe wnaeth fferyllydd ei gynghori i weld meddyg teulu, ond doedd dim apwyntiadau ar gael.

Dywedodd Yvette Jones: "Fe gefais i sioc pan gyrhaeddais i adre - roedd ganddo gleisiau ofnadwy ar ei ben. Fe aethon ni'n syth i adran frys yr ysbyty.

"Fe gerddodd i mewn, ond fe ddirywiodd ei gyflwr yn sydyn a bu farw'n dawel gyda fi a'i lys-fab wrth ei ochr tua 04:00 ddydd Iau."

'Staff wedi gwneud eu gorau'

Roedd Mark Jones wedi gweithio gyda'r Rhyl Journal yn y gorffennol, a chafodd ei ddisgrifio yn llys y crwner fel cefnogwr brwd o bêl-droed lleol, ac roedd yn is-gadeirydd clwb pêl-droed Prestatyn ac yn gyhoeddwr yn eu gemau.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Yvette Jones ei bod yn colli ei gŵr "y tu hwnt i eiriau".

Fe ychwanegodd: "Dwi eisiau trosglwyddo fy niolch a pharch i bawb yn Ysbyty Glan Clwyd am geisio eu gorau i achub ei fywyd.

"Mae pawb yn gweithio o dan gymaint o bwysau, ond cafodd ei drin gydag ymroddiad, caredigrwydd a chariad."

Wrth gofnodi iddo farw drwy ddamwain, fe ddywedodd y crwner John Gittins bod Mark Jones "yn drist ac yn anarferol iawn wedi datblygu sepsis" o ganlyniad i'r brathiad gan y ci.

"Erbyn iddo gyrraedd yr ysbyty roedd ei gyflwr mor ddifrifol fel ei fod wedi marw er gwaetha ymdrechion a thriniaeth y staff."